Staffnet+ >
Goroeswr camfanteisio ar blant yn arwain cynhadledd Wythnos Diogelu Genedlaethol
Goroeswr camfanteisio ar blant yn arwain cynhadledd Wythnos Diogelu Genedlaethol
26 Hydref 2023
Cynhelir Wythnos Diogelu Genedlaethol, ymgyrch genedlaethol flynyddol sy'n canolbwyntio ar ystod eang o faterion diogelu sy'n effeithio ar ein cymunedau yng Nghymru fis nesaf (13-17 Tachwedd).
Yn ôl yr arfer, mae wythnos lawn o ddigwyddiadau wedi’i threfnu ar gyfer gweithwyr proffesiynol amlasiantaethol, gan gloi gyda chynhadledd Bwrdd Diogelu Caerdydd a'r Fro yn seiliedig ar y thema 'Camfanteisio'.
Y siaradwr gwadd yn y gynhadledd yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar ddydd Gwener 17 Tachwedd yw Sammy Woodhouse, goroeswr sgandal cam-drin plant Rotherham sydd wedi ailadeiladu ei bywyd i ddod yn awdur llwyddiannus, siaradwr rhyngwladol ac actifydd sydd wedi ennill sawl gwobr.
Bydd y gynhadledd, y digwyddiad wyneb yn wyneb cyntaf ers nifer o flynyddoedd, yn cynnwys nifer o gyflwyniadau ar y gwahanol fathau o gamfanteisio ynghyd â gweithdai rhyngweithiol, ac mae wedi'i hanelu at weithwyr proffesiynol amlasiantaethol. I drefnu lle yn y gynhadledd, e-bostiwch BDRhCaerdyddarFro@caerdydd.gov.uk
Cyn y gynhadledd, mae rhaglen yr wythnos yn dechrau gyda Lansiad Rhithwir Fframwaith Hyfforddiant, Dysgu a Datblygu Safonau Diogelu Cenedlaethol, a hwylusir gan Gofal Cymdeithasol Cymru.
Mae rhai o uchafbwyntiau’r rhaglen yn cynnwys:
- Diogelu plant a Phobl Ifanc sy'n mynd ar Goll o'r Ysgol (Dydd Llun 13 Tachwedd 10.30am)
- Arwyddion a Dangosyddion Camfanteisio (Dydd Mawrth 14 Tachwedd 2pm)
- Gweithdy Adolygiad Ymarfer Plant - Rhoi Dysgu ar Waith (Dydd Iau 16 Tachwedd 1pm) - rhannu'r dysgu a'r argymhellion o Adolygiad Ymarfer Plant a gyhoeddwyd yn ddiweddar ar y thema camfanteisio troseddol.
- Fearless - Llinellau Cyffuriau a Throseddau Cyllyll (Dydd Iau 16 Tachwedd 10am)
Cynhelir sesiynau hefyd gan Barnardo's ar gyfer staff addysg - sesiwn 'Perthnasoedd Iach, Datblygiad ac Ymddygiad Rhywiol yn yr Ysgol Gynradd' ar gyfer staff ysgolion cynradd a 'Datblygiad ac Ymddygiad Rhywiol: Ystyried Bwlio ac Aflonyddu Rhywiol ymysg Plant Oedran Ysgol Uwchradd’ ar gyfer staff addysg ysgolion uwchradd, y ddau ddydd Mawrth 14 Tachwedd.
I weld rhaglen lawn Wythnos Diogelu Genedlaethol, ac i drefnu eich lle i fynychu’r sesiynau, ewch i Bwrdd Diogelu Caerdydd a'r fro.