Newidiadau i'r llinell gyngor i weithwyr

Mae cydweithwyr ym maes Iechyd Galwedigaethol yn goruchwylio'r gwaith o weithredu llinell gyngor 24 awr newydd, gan ddisodli Care First.

Yn ystod yr wythnosau nesaf, bydd llinell gyngor 24 awr newydd yn cael ei chyflwyno i weithwyr, sy'n rhan o ymrwymiad y Cyngor i gefnogi lles staff.

Mae cysylltiad y Cyngor gyda Care First bellach wedi dod i ben a bydd gwybodaeth am y llwyfan newydd yn cael ei rhannu cyn bo hir. Wrth i’r newid ddigwydd, dylai staff cysylltu ag Iechyd Galwedigaethol gydag ymholiadau neu bryderon:

01446 709121