Staffnet+ >
Mae cam cyntaf gwaharddiad Llywodraeth Cymru ar blastig untro bellach ar waith
Mae cam cyntaf gwaharddiad Llywodraeth Cymru ar blastig untro bellach ar waith
15 Tachwedd 2023
Ym mis Rhagfyr 2022, bu Cymru yn arloesol drwy fod y wlad gyntaf yn y DU i ddeddfu yn erbyn rhestr fanwl o blastigau untro pan gymeradwyodd y Senedd ddeddfwriaeth i wahardd gwerthu cynhyrchion untro diangen i ddefnyddwyr.
Daw hyn i rym ddydd Llun, 30 Hydref pan fydd yr eitemau canlynol yn cael eu gwahardd rhag eu gwerthu ledled y wlad:
- Platiau plastig untro
- Cwpanau plastig untro
- Troellwyr diodydd plastig untro
- Cwpanau wedi'u gwneud o bolystyren allwthiedig ymestynedig neu ewynnog
- Cynwysyddion bwyd tecawê wedi'u gwneud o polystyren allwthiedig ymestynedig neu ewynnog
- Ffyn balŵn plastig untro
- Ffyn cotwm coesyn plastig untro
- Gwellt yfed plastig untro
Mae'r gyfraith newydd yn gam allweddol o ran lleihau llif gwastraff plastig niweidiol i amgylchedd Cymru ac mae'n cael ei chyflwyno yn dilyn ymgynghoriad â'r cyhoedd a rhanddeiliaid eraill.
Bydd yn rhoi'r pŵer i awdurdodau lleol orfodi'r drosedd o gyflenwi neu gynnig cyflenwi'r eitemau hyn sy'n aml yn creu sbwriel - hyd yn oed pan fyddant yn rhad ac am ddim.
Bydd ail gam y gwaharddiad yn cynnwys bagiau plastig untro, caeadau polystyren ar gyfer cwpanau a chynwysyddion bwyd a chynhyrchion wedi'u gwneud o blastig ocso-ddiraddadwy. Bydd hyn yn dod i rym cyn diwedd tymor y Senedd.