Staffnet+ >
Goroeswr sgandal cam-drin rhywiol Rotherham i siarad yn ystod Wythnos Diogelu Genedlaethol
Goroeswr sgandal cam-drin rhywiol Rotherham i siarad yn ystod Wythnos Diogelu Genedlaethol
13 Tachwedd 2023
Bydd un o OROESWYR sgandal cam-drin rhywiol Rotherham yn rhannu ei stori yn ystod un o gyfres o ddigwyddiadau a gynhalir yn ystod yr Wythnos Diogelu Genedlaethol.
Gan ddechrau Ddydd Llun, mae'r rhaglen eleni, a drefnir gan Fwrdd Diogelu Caerdydd a'r Fro, yn canolbwyntio ar thema camfanteisio.
Sammy Woodhouse yw'r prif siaradwr Ddydd Gwener, 17 Tachwedd pan fydd digwyddiad trwy'r dydd yn gweld cyflwyniadau gan unigolion o amrywiaeth o asiantaethau.
Yn ei arddegau, dioddefodd Sammy dan gamfanteisio troseddol a rhywiol.
Ddeng mlynedd yn ôl, cyhoeddwyd ei stori ym mhapur newydd y Times ynghyd â'r datgeliad bod 1,400 o blant wedi cael eu cam-drin ac wedi eu methu yn Rotherham.
Mae hynny wedi arwain at lansio'r ymchwiliad mwyaf yn y DU, dan oruchwyliaeth yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol.
Mewn rhaglen ar gyfer y BBC, dwedodd Sammy: "Dim ond 14 oed oeddwn i pan gwrddais â dyn o'r enw Arshid Hussain.
"Roedd e 10 mlynedd yn hŷn na fi ac o'r eiliad honno fe ddechreuodd fy feithrin perthynas amhriodol gyda mi.
"Ar y pryd, doeddwn i ddim yn gweld y peth am yr hyn ydoedd. Roeddwn i'n meddwl mai dyna sut roedd cariad i fod.
"Roeddwn i'n 15 oed pan es i'n feichiog. Roeddwn i mor gyffrous i fod yn fam. Ond wrth i mi fynd yn hŷn, dechreuais ddeall beth oedd wedi digwydd i mi.
"Dwi'n cofio pan ddechreuodd y meddyliau hynny redeg trwy fy mhen gyntaf. Roeddwn i'n poeni am fy mab. Roeddwn i'n meddwl 'beth ydw i'n mynd i'w ddweud wrth fy mab?' Doeddwn i ddim yn gallu gweld golau ar ddiwedd y twnnel.
"Dim ond 12 oed oedd fy mab pan fu’n rhaid i mi ddweud wrtho fod ei dad wedi fy nhreisio a 'ngham-drin a dyna sut y cafodd e ei eni.
"Roedd y ddau ohonon ni'n teimlo mor unig a doedden ni ddim yn gwybod lle i droi. Mae'n rhaid bod pobl eraill allan yna'n teimlo'r un fath."
Mae Sammy bellach yn awdur poblogaidd, yn siaradwr rhyngwladol, yn gyflwynydd teledu, yn ymgyrchydd arobryn ac yn llais blaenllaw yn erbyn camfanteisio.
Mae hi wedi brwydro dros hawliau gwell i blant sy'n cael eu hecsbloetio yn ogystal â mamau a phlant a anwyd yn sgil trais rhywiol.
Mae ei gwaith yn cynnwys yr ymgyrch arobryn 'Cyfraith Sammy' a fydd yn sicrhau na fydd plant sy'n dioddef camfanteisio yn cael eu hystyried yn droseddwyr.
Bu Sammy hefyd yn ymgyrchu gydag eraill i sicrhau y bydd plant sy'n cael eu geni yn sgil trais rhywiol yn cael eu hystyried yn ddioddefwyr yn ôl y gyfraith ac a fu’n llwyddiannus ac a gyhoeddwyd yn 2023.
Ym mis Ebrill 2023 cyflwynodd Sammy raglen ddogfen arloesol y BBC 'Out of the Shadows: "Born from rape."
Yn ystod y rhaglen honno, teithiodd o amgylch y DU ac i Rwanda i gwrdd â mamau a phlant a anwyd yn sgil treisio ac mae'n datgelu straeon torcalonnus am gariad a phoen.
Ers dros ddegawd mae Sammy wedi cael gwahoddiad i siarad ag asiantaethau sydd eisiau dysgu mwy am sut y gellir atal meithrin perthynas amhriodol a chamfanteisio ar blant a’u cefnogi.
Mae Wythnos Diogelu Genedlaethol yn ymgyrch genedlaethol flynyddol sy'n canolbwyntio ar ystod eang o faterion diogelu sy'n effeithio ar gymunedau yng Nghymru.
Mae'r digwyddiad eleni yn rhedeg tan 17 Tachwedd, gan gynnig pum diwrnod llawn digwyddiadau wedi'u trefnu ar gyfer gweithwyr proffesiynol amlasiantaeth.
Mae'n gorffen gyda Chynhadledd Bwrdd Diogelu Caerdydd a'r Fro gyda thema camfanteisio yn sail i’r gynhadledd.
Bydd y gynhadledd, y digwyddiad wyneb yn wyneb cyntaf ers nifer o flynyddoedd, yn cynnwys nifer o gyflwyniadau ar y gwahanol fathau o gamfanteisio ynghyd â gweithdai rhyngweithiol.
Dwedodd y Cynghorydd Eddie Williams, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Ofal Cymdeithasol ac Iechyd: "Mae stori Sammy yn un brawychus, ond mae ei dewrder a'i gwydnwch yn profi y gall positifrwydd ddod allan o'r sefyllfa dywyllaf hyd yn oed.
"Mae ei sgwrs yn rhan o raglen lawn o gyflwyniadau a luniwyd ar gyfer yr Wythnos Diogelu Genedlaethol. Mae hwn yn ddigwyddiad blynyddol pwysig i weithwyr proffesiynol sy'n gweithio mewn ystod o wahanol feysydd wrth iddynt ddod at ei gilydd i drafod y ffyrdd gorau i amddiffyn rhai o aelodau mwyaf agored i niwed ein cymunedau.
"Trwy rannu syniadau a dysgu fe allwn gyflawni hyn. Rwy'n siŵr y bydd pawb sy'n mynychu yn gweld yr amrywiaeth o gyflwyniadau a gynigir yn ysgogol ac yn herio'r meddwl."
Dwedodd y Cynghorydd Norma Mackie, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol (Oedolion): "Mae'r Wythnos Diogelu Genedlaethol yn gyfle i sefydliadau sy'n gweithio gydag oedolion a phlant agored i niwed ddod at ei gilydd i godi ymwybyddiaeth o faterion diogelu pwysig. Ond nid mater yn unig sy'n berthnasol i weithwyr cymdeithasol neu weithwyr proffesiynol eraill yw diogelu - mae'n hanfodol ein bod ni i gyd yn ymwybodol o'n dyletswydd i amddiffyn y rhai yn ein cymunedau a allai fod mewn perygl o gael eu cam-drin neu eu hesgeuluso."
Dwedodd y Cynghorydd Ash Lister - Yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol (Gwasanaethau Plant): "Mae gan bob plentyn ac oedolyn yng Nghaerdydd yr hawl i fyw mewn cymdeithas ddiogel, yn rhydd o drais, ofn, camdriniaeth, bwlio neu wahaniaethu ac mae gan bob un ohonom ran i'w chwarae wrth gyflawni hynny. Mae'r Wythnos Diogelu Genedlaethol yn wythnos bwysig yn y calendr pan ddaw partneriaid amlasiantaethol ynghyd i ddysgu arfer gorau a rhannu gwybodaeth, gan danlinellu ein hymrwymiad i sicrhau bod pobl sy'n byw yng Nghaerdydd yn ddiogel ac yn cael eu gwarchod."
I drefnu lle yn y gynhadledd, e-bostiwch BDRhCaerdyddarFro@caerdydd.gov.uk
Cyn y gynhadledd, mae rhaglen yr wythnos yn dechrau gyda lansiad rhithwir y Fframwaith Hyfforddiant, Dysgu a Datblygu Safonau Diogelu Cenedlaethol, a hwylusir gan Gofal Cymdeithasol Cymru.
Mae rhai o uchafbwyntiau’r rhaglen yn cynnwys:
- Diogelu Plant a Phobl Ifanc sy'n mynd ar Goll o'r Ysgol (Dydd Llun 13 Tachwedd 10.30am)
- Arwyddion a Dangosyddion Camfanteisio (Dydd Mawrth 14 Tachwedd 2pm)
- Eofn - Llinellau Cyffuriau a Throseddau Cyllyll (Dydd Iau 16 Tachwedd am 10am)
Cynhelir sesiynau hefyd gan Barnardo's ar gyfer staff addysg gan gynnwys cyflwyniad ar 'Perthnasoedd Iach, Datblygiad ac Ymddygiad Rhywiol yn yr Ysgol Gynradd' a 'Datblygiad ac Ymddygiad Rhywiol: Ystyried Bwlio ac Aflonyddu Rhywiol ymysg Plant Oed Uwchradd’, y ddau ar Ddydd Mawrth 14 Tachwedd.
Mae'r rhaglen lawn ar gyfer yr Wythnos Diogelu Genedlaethol ar gael ar wefan y Bwrdd Diogelu Rhanbarthol.