Yr Wythnos Gyda Rob

10 Tachwedd 2023

Annwyl gydweithwyr,

Armistice day service 09 November

Croeso yn ôl i'r rhai ohonoch sydd wedi mwynhau amser i ffwrdd ar ôl hanner tymor. 

Yr wythnos hon mae'r Cyngor wedi bod yn nodi'r adeg cofio blynyddol mewn sawl ffordd. Fel bob amser, roeddwn yn falch iawn o fod yn rhan o'r gwasanaeth a gynhaliwyd yn y Swyddfeydd Dinesig Ddydd Iau. Ymunais â Maer Cyngor Bro Morgannwg, y Cynghorydd Julie Aviet, y Dirprwy Arweinydd, y Cynghorydd Bronwen Brooks, Arweinwyr Grwpiau Gwleidyddol, cyn-filwyr o'n holl luoedd arfog, ac urddasolion eraill i osod torchau a nodi'r ddau funud o ddistawrwydd.

Fel arwydd pellach o'n cefnogaeth ni fe osododd y Cyngor fainc goffa newydd yng Ngerddi Gladstone Ddydd Mercher. Mae'r meinciau’n cynnwys dyluniad coffa arbennig o golomennod gwyn, i ddynodi heddwch, a phabïau a osodwyd yn barod ar gyfer Dydd y Cofio Dyma'r ail fainc o'i fath a osodwyd gan ein tîm Gwasanaethau Cymdogaeth ac mae'n ychwanegiad addas i'r gofod gyferbyn â neuadd goffa'r Barri.

Gladstone memorial bench - 08 November 2023

Codwyd y Lluman Coch a Baner y Lleng Brydeinig Frenhinol y tu allan i'r Swyddfeydd Dinesig a byddant yn parhau i hedfan weddill yr wythnos hon, gan ddangos ein cefnogaeth i Ddydd y Cadoediad a Sul y Cofio Bydd nifer o'n hadeiladau, gan gynnwys Pier Penarth hefyd yn cael eu goleuo'n goch tan Ddydd Sul.

Yn ogystal â'r seremonïau dinesig a choffa cyhoeddus gweledol, gwn fod llawer o staff yn dangos eu parch ac yn cefnogi Apêl y Pabi mewn ffyrdd eraill. Cysylltodd Jenny Ringstead ein Swyddog Cefnogi Gofalwyr yr wythnos hon i ddweud wrthyf sut y defnyddiodd ei diwrnod gwirfoddoli staff i dreulio amser yn casglu ar gyfer yr apêl gyda'i merch.  Fe wnaeth hi anfon e-bost ataf yn gynharach yr wythnos hon i ddweud "dim ond eisiau dweud diolch am roi diwrnod o wirfoddoli â thâl i staff.   Fe wnes i fwynhau gwneud yr apêl pabi gyda fy merch a chydag aelodau eraill ein heglwys yr wythnos diwethaf.  Ges i Ddydd Gwener i ffwrdd o'r gwaith i werthu’r pabi ac roedd o'n gymaint o bleser."  Mae gan Jenny gysylltiad teuluol cryf â'r apêl a daeth ei neges i ben gyda "am beth gwych i ganiatáu i staff gael diwrnod i wirfoddoli a myfyrio ar bwysigrwydd gwasanaethu eraill."

Poppies at the pavilion

Diolch Jenny eto am gysylltu. Roedd eich stori wir yn tarro deuddeg o ran pwysigrwydd cofio, ac mae'n wych clywed bod ein polisi gwirfoddoli newydd a chefnogaeth eich rheolwr wedi eich helpu i wneud mwy i'w nodi gyda'ch teulu eleni.

Mae nodi’r cyfnod coffa blynyddol yn rhywbeth sy'n wirioneddol bwysig i lawer yn ein cymunedau. Roedd hefyd yn galonogol derbyn "diolch diffuant" gan Gymdeithas Cyn-filwyr Penarth. Mewn neges ar Facebook dwedodd y grŵp "I'r dysgwyr a'r staff o ysgol Stanwell, rydych chi wedi gwneud gwaith anhygoel. I'n partneriaid yng Nghyngor Bro Morgannwg, Karen o Bafiliwn Pier Penarth a Chyngor Tref Penarth.   Mae gŵyl y coffa yn cael ei gwneud yn well gyda’ch cyfranogiad blynyddol.  Diolch.” Diolchodd y grŵp hefyd i Ysgol Gynradd Albert Road am eu gwaith ar 'fwrdd cof' ar y thema Cofio.

Diolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi helpu'r Fro i nodi'r wythnos. 

Neges arall o ddiolch i'n staff a gyrhaeddodd ar-lein yr wythnos hon oedd un yn canu clod tîm llyfrgell y Bont-faen. Mae'n crynhoi'n berffaith y gwasanaeth a gynigir drwy hybiau cymunedol y Fro:  "Hoffwn ddiolch i Lyfrgell y Bont-faen. Rwyf wedi treulio sawl diwrnod yno yn ystod y pythefnos diwethaf yn eistedd yn gwneud gwaith papur am oriau ar y PCs ac rwyf am ddweud amgylchedd hyfryd mor hyfyrd ydyw a chymaint o fraint yw'r lleoedd hyn. Gwelais grwpiau o ferched yn gwau, grwpiau plant bach, grwpiau cerddoriaeth, sesiwn galw heibio SCCH lleol, grŵp lego, a heb sôn am yr ystod wych o lyfrau a chyfleusterau. Mae'r bwrlwm yma o weithgaredd yn amhrisiadwy ac mae'r staff yn hyfryd. Gwnaeth y cyfleusterau anhygoel a'r staff, a oedd yn hyfryd, brosiect caled ychydig yn haws." 

Hoffwn ganmol ein cydweithwyr yn llyfrgell y Bont-faen ac ar draws llyfrgelloedd a hybiau dysgu cymunedol y Fro am eu gwaith rhyfeddol.  Mae canmoliaeth fel hyn yn dangos pa mor werthfawr yw’r gwasanaeth rydych chi'n ei ddarparu. Gwaith da bawb.

Mae clywed canmoliaeth am ein gwaith bob amser yn galonogol ond hyd yn oed yn fwy felly pan fo'r pwnc yn wasanaeth fel ein llyfrgelloedd sydd wedi bod trwy drawsnewidiad mor sylweddol yn y ffordd y mae'n nhw’n gweithredu yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Bydd llawer ohonoch gobeithio eisoes wedi darllen y neges ar y cyd a anfonais gyda'r Arweinydd yn gynharach heddiw a oed dyn sôn am fynd i'r afael â'r amgylchiadau ariannol cynyddol heriol yr ydym yn gweithredu ynddynt. Ddydd Mawrth fe wnaeth pob prif swyddog gymryd rhan mewn sesiwn i ystyried pa gyfleoedd sydd gennym fel Cyngor i barhau i newid sut rydym yn gweithredu er mwyn sicrhau y gall y Cyngor hwn barhau i ddarparu'r gwasanaethau sy'n bwysig i'n trigolion a'n cymunedau. 

Diolch i'r holl gydweithwyr a fynychodd am neilltuo’r amser ac i'n tîm DS a Dysgu am gynnal y sesiwn a'i rhedeg mor effeithlon. Cefais fy nghalonogi'n fawr gan y syniadau a rannwyd a'r ymdeimlad o frwdfrydedd yn yr ystafell ar gyfer newid a ffyrdd newydd o weithio.  Mewn rhai rhannau, bydd angen i ni symud yn gyflym er mwyn cyflawni'r lefelau arbedion sydd eu hangen. Lle mae hyn fydd yr achos, byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r holl staff ac yn cynnig cyfleoedd rheolaidd i gydweithwyr lywio'r gwaith hwn. 

World town planning day 2023

Yr wythnos hon hefyd rydym wedi dathlu dau o'r proffesiynau niferus ac amrywiol sy'n rhan o'n hawdurdod.  Ddydd Mercher roedd hi’n Ddiwrnod Cynllunio Trefol y Byd. Dechreuais fy ngyrfa mewn llywodraeth leol fel cynllunydd ac felly mae hwn bob amser yn faes gwaith sy'n agos at fy nghalon.  Mae'r diwrnod yn cael ei ddathlu gan y Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol.  Y thema eleni yw lles cynllunwyr, effaith camwybodaeth a chamganfyddiadau am eu gwaith, a cham-drin ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae'r ffaith bod y rhain yn faterion mor bwysig wedi gwneud i mi oedi i feddwl cymaint y mae rôl cynllunydd, a bywyd yn y sector cyhoeddus yn gyffredinol, wedi newid ers i mi ymuno â'r proffesiwn a'r Sefydliad beth amser yn ôl!

Mae cynllunwyr yn chwarae rhan hynod bwysig wrth benderfynu sut mae ein cymunedau a'n seilwaith yn gweithredu. Mae'n rhan sylweddol o waith ein Cyngor ac yn faes sy'n mynd ymhell y tu hwnt i ystyried ceisiadau cynllunio a phenderfyniadau’r pwyllgor cynllunio. Mae eu gwaith yn sbardun mawr i ffyniant economaidd a gwelliannau i iechyd a lles dinasyddion.  Mae'r gwaith yn siapio'r mannau lle'r ydym yn byw, yn gweithio ac yn treulio ein hamser hamdden.  Hoffwn fanteisio ar y cyfle i ddiolch i'r holl gydweithwyr hynny yn ein sefydliad, y cynllunwyr a phawb mewn rolau eraill sy'n gweithio tuag at yr un amcanion.  Diolch yn fawr bawb. Gallwch ddarganfod mwy am eu gwaith yn www.planningyourworld.org

Occupational-Therapy-Week-2023

Mae’r wythnos hon hefyd yn wythnos Therapi Galwedigaethol.  Dan arweiniad Coleg Brenhinol y Therapyddion Galwedigaethol, mae’r Wythnos wedi'i chynllunio er mwyn helpu i godi ymwybyddiaeth o therapyddion galwedigaethol neu OT’s - a'r gwaith pwysig y maent yn ei wneud. Dyma faes arall o'n gwaith na fyddai efallai'n neidio i'r meddwl ar unwaith pan fydd pobl yn meddwl am wasanaethau'r Cyngor ond mae nifer o therapyddion galwedigaethol yn gweithio yn y Fro. Wedi'u cyflogi'n bennaf yn y Gwasanaethau Cymdeithasol, maen nhw’n cefnogi nifer fawr o bobl drwy wneud asesiadau ar gyfer pobl anabl o bob oed ac yna darparu cyngor a chefnogaeth sy'n helpu unigolion i fwynhau cymaint o annibyniaeth â phosibl yn eu cartrefi eu hunain. Mae hwn yn waith hynod bwysig, sy'n newid bywyd yn wirioneddol i lawer sy'n derbyn eu cefnogaeth.  Ar ran pawb y mae eu bywydau wedi eu gwella o’u herwydd, hoffwn ddiolch i'n OTs am eu gwaith rhagorol. Gallwch ddysgu mwy am y gwasanaeth a sut mae dinasyddion yn cael eu hatgyfeirio am gymorth ar ein gwefan.

Yn olaf, a chan fyfyrio ar yr amodau tywydd ofnadwy dros y 24 awr diwethaf, hoffwn sôn hefyd am ein cydweithwyr yn y Gwasanaethau Cymdogaeth a ymatebodd mor gyflym i ardaloedd o lifogydd lleol ar rai priffyrdd yn dilyn glaw sylweddol Ddydd Iau. Dwi'n gwybod eu bod wedi ymateb yn gyflym ar draws sawl rhan o'r Fro.   Diolch.

Fel bob amser felly, diolch i bawb am eich ymdrechion yr wythnos hon. Mwynhewch benwythnos hamddenol ac ymlaciol. 

Rob.