Yr Wythnos Gyda Rob

03 Tachwedd 2023

Annwyl gydweithwyr,

Hoffwn ddechrau neges yr wythnos hon gyda newyddion am lwyddiant dwbl yn ein Cyfarwyddiaeth Dysgu a Sgiliau.

Big Fresh at LACA Awards

Cafodd Cwmni Arlwyo Big Fresh y Cyngor ei enwi'n Dîm Rheoli Arlwyo'r Flwyddyn ac enillodd wobr Bwyd mewn Ysgolion Llywodraeth Cymru hefyd yng Ngwobrau Cymdeithas Arlwyo Awdurdodau Lleol Cymru.

Daw hyn ar ôl 12 mis lle mae Big Fresh wedi parhau i fynd o nerth i nerth.

Yn ogystal â darparu prydau ysgol maethlon, mae'r cwmni hefyd yn gweithredu gwasanaeth arlwyo masnachol, bar a chaffi ym Mhafiliwn Pier Penarth a nawr siop goffi ym Mhafiliwn Belle Vue.

Mae model busnes arloesol yn caniatáu i'r cwmni weithredu’n annibynnol o’r Cyngor, gyda'r holl warged yn cael ei ddychwelyd i ysgolion neu'n cael ei ddefnyddio i gynnal y busnes ei hun.

Mae'r ail wobr yn cydnabod y gwaith caled sydd wedi cael ei wneud i ddarparu prydau ysgol am ddim i bob disgybl cynradd, gyda'r Fro yn un o lond llaw yn unig o Awdurdodau Lleol Cymru i gynnig y ddarpariaeth hon i blant ym mlynyddoedd un i chwech.

Big Fresh TrophyDa iawn bawb.  Mae Big Fresh wedi bod yn llwyddiant ysgubol i'r Cyngor diolch i'r gwaith caled a wnaed gan y tîm cyfan. Llongyfarchiadau. 

Roedd y Tîm Dysgu a Rheoli Sgiliau ym Mhafiliwn Belle Vue yn gynharach yr wythnos hon wrth iddynt baratoi ar gyfer ymweliad yr adran gan Estyn, arolygydd addysg a hyfforddiant Cymru.

Mae hwn yn un o sawl gweithdy sy'n cael eu cynnal dros yr wythnosau nesaf ac yn cynnig cyfle i gydweithwyr fyfyrio ar y cyfraniadau y maent wedi'u gwneud i lwyddiant y Gyfarwyddiaeth.

Rwy'n siŵr bod llawer i'w drafod o ystyried cyflawniadau niferus yr adran honno.

Ar bwnc cyflawniadau, hoffwn rannu rhywfaint o ganmoliaeth a dderbyniodd aelod o'n Tîm Gwasanaethau Cymdeithasol.

Cafodd Donwyn Lynch ei ganmol gan ferch defnyddiwr gwasanaeth ar ôl iddo weithio ar yr achos yn ddiweddar.

Trosglwyddodd y neges "ganmoliaeth a diolch aruthrol" i Donwyn am ei "waith diflino" yn sicrhau gofal i'r unigolyn yma, gan sicrhau nad oedd angen iddynt aros yn yr ysbyty am fwy o amser nag oedd angen.

Hoffwn adleisio'r teimladau hynny a hefyd mynegi fy ngwerthfawrogiad am ymrwymiad o'r fath. Da Iawn, Donwyn. Mae eich ymdrechion wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'r person hwnnw a'r teulu, a dyna hanfod gweithio i Awdurdod Lleol yn y pen draw. Ein nod bob amser yw gwella bywydau ein preswylwyr.

Active SolesWrth gwrs, mae helpu cydweithwyr hefyd yn bwysig a dyna pam mae'r Cyngor yn cefnogi'r fenter Gwadnau Gweithgar

Dyma ymgyrch i gynnig cyfle i staff wisgo esgidiau ymarfer yn y gwaith, yn hytrach na mathau eraill mwy traddodiadol o esgidiau.

Mae esgidiau cyfforddus yn helpu i hybu gweithgarwch corfforol, gan annog mwy o symud ac mae'n rhoi amrywiaeth o fuddion iechyd hefyd.

Mae pobl sy'n gweithio mewn swyddfeydd yn treulio hyd at 75% o'u horiau gwaith yn eistedd sy'n cynyddu'r risg o amrywiaeth o gyflyrau iechyd gan gynnwys gordewdra, diabetes math 2 a chlefyd cardiofasgwlaidd.

Mae tystiolaeth yn dangos bod hyd yn oed y rhai sy'n gwneud ymarfer corff yn rheolaidd yn agored i'r problemau iechyd sy'n gysylltiedig â ffordd o fyw eisteddog os ydynt yn treulio'r rhan fwyaf o'r dydd yn eistedd.

Nod yr ymgyrch Gwadnau Gweithgar yw cael staff i wisgo esgidiau ymarfer, dod allan o'u cadeiriau a symud mwy, rhywbeth yr wyf i a gweddill yr UDA yn ei gefnogi'n fawr.

Bron Blake Smith

Nesaf, rhaid i mi rannu’r newyddion trist iawn bod ein cyn-gydweithiwr Bron Blake-Smith wedi marw yr wythnos hon.

Bu farw gartref yn dilyn brwydr gyda salwch a bydd yn cael ei cholli'n fawr gan y rhai oedd yn ei hadnabod ac yn gweithio gyda hi.

Ymunodd Bron â'r Cyngor am y tro cyntaf fel aelod o staff asiantaeth yn 2002 cyn ymgymryd â swydd lawn amser o fewn Uned Amddiffyn Plant ac Adolygu y Gwasanaethau Cymdeithasol yn 2004.

Rhwng 2010 a 2014, bu'n gweithio gyda'r Tîm Tai fel Cynorthwyydd Strategaeth, gan symud ymlaen i rôl fel Swyddog Gwasanaethau Cwsmeriaid o fewn Cymorth Busnes.

Yn y swydd honno, bu'n gweithio ar brosiectau proffil uchel amrywiol, yn cynnwys cyflwyno ailgylchu ar wahân yn 2019, ymgyrch The Big Fill a Stamp It Out, ymgyrch gorfodi’n ymwneud â gwastraff.

Ymddeolodd Bron oherwydd afiechyd ym mis Mawrth a chaiff ei chofio am y ffordd garedig a siriol yr oedd bob amser yn trin eraill.

Rwy'n siŵr y byddwch yn ymuno â mi i rannu ein cydymdeimlad dwysaf â theulu Bron yn ystod y cyfnod anodd hwn.

Byddaf yn rhannu manylion yr angladd cyn gynted ag y byddaf yn eu derbyn.

24 Hour Advice Line and Information Line

Mae'n ymddangos bod hwn yn bwynt priodol i sôn am linell gynghori newydd ar gyfer staff, sydd ar gael 24 awr y dydd i roi cymorth gydag amrywiaeth eang o faterion.

Mae’r gwasanaeth, a ddarperir gan Westfield Health, yn cynnig arweiniad cyfrinachol ar broblemau meddygol, cyfreithiol a domestig gan gwnselwyr cymwys, arbenigwyr cyfreithiol a nyrsys.

Gall helpu gyda straen, profedigaeth, anawsterau perthynas a phryderon ariannol ac mae'n hygyrch ar unrhyw adeg o'r dydd neu'r nos drwy ffonio 0800 092 0987, rhoi rhif y cynllun, sef 72115, ac enwi'r Cyngor fel cyflogwr.

Gellir gwneud galwadau'n ddienw, ac mae eu cynnwys yn cael ei drin yn gwbl gyfrinachol, gyda'r manylion ond yn cael eu datgelu os yw rhywun mewn perygl o niwed difrifol.

Yn anffodus, bu'n rhaid i mi ysgrifennu at staff am farwolaeth nifer o gydweithwyr yn ddiweddar a phan fyddaf yn gwneud hynny, byddaf bob amser yn annog y rhai sydd ei angen i geisio cymorth.

Rwy’n ailadrodd y neges honno nawr, nid yn unig mewn perthynas â phrofedigaeth, ond wrth ddelio â llu o faterion a all effeithio ar iechyd meddwl. Mae'n bwysig iawn gofalu am eich lles ac mae'n rhywbeth yr ydym ni fel sefydliad yn gwbl gefnogol ohono.

Stonewall Cymru Logo

Rydym yn gwerthfawrogi ein holl staff, a dyna pam mae'r Cyngor yn cymryd rhan yn Holiadur Adborth Staff Stonewall.

Mae hwn wedi'i gynllunio i sicrhau bod y Cyngor yn lle diogel, croesawgar a derbyngar i weithio i bawb, drwy ddarganfod beth mae pobl yn ei feddwl am gynhwysiant LHDTC+ o fewn y sefydliad.

Fel Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, rydym am sicrhau bod pawb yn gallu bod yn nhw eu hunain yn y gwaith, beth bynnag yw eu cyfeiriadedd rhywiol neu eu hunaniaeth rhywedd.

Drwy gwblhau'r arolwg, sy'n rhedeg tan 15 Rhagfyr, gallwch helpu i sefydlu’r hyn mae'r Cyngor yn ei wneud yn dda a meysydd sydd angen mwy o sylw.

Unwaith eto, gellir darparu gwybodaeth yn ddienw ac mae'r ymatebion yn gyfrinachol.

Gall unrhyw un sydd eisiau helpu i wneud y Cyngor yn fan lle gall staff lesbiaidd, hoyw, deurywiol, trawsryweddol a grwpiau eraill o leiafrifoedd rhywiol a rhyweddol fod yn nhw eu hunain a chyflawni eu potensial, ymuno â GLAM, sef Rhwydwaith LHDTC+ a’u Cynghreiriaid y Cyngor.

Pumpkin Carving Contest Entrants and Winner

Yn y cyfnod cyn Calan Gaeaf, cynhaliodd yr Adran Gyllid eu cystadleuaeth cerfio pwmpen flynyddol.

Y beirniad oedd Matt Bowmer ac aeth y wobr gyntaf, sef bag o Cadbury Heroes, i Andrew Badcock-Jones, bocs o Maltesers am yr ail wobr yn mynd i Sean James a'r Tîm Budd-daliadau Tai yn hawlio bocs o Celebrations am ddod yn drydydd.

Roedd gan y Tîm Budd-daliadau Tai y swyddfa a addurnwyd orau hefyd, ac aeth Helen Huggins adref gyda gwobr gysur, sef bag o liquorice Allsorts am roi cynnig arni o leiaf!

Ty Dewi Staff Halloween PartyAeth staff cartrefi gofal Tŷ Dyfan a Thŷ Dewi Sant i ysbryd yr ŵyl arswydus hefyd gan wisgo i fyny i nodi Calan Gaeaf, ynghyd â’r preswylwyr.

O'r lluniau, mae'n edrych fel bod pawb wedi cael llawer o hwyl

Gyda Noson Tân Gwyllt ar y gorwel, y digwyddiad nesaf fydd y Nadolig ac ar y pwnc hwnnw, mae Alison Maher yn trefnu digwyddiad cyfnewid dillad ar thema’r Nadolig.

Mae hynny'n dilyn llwyddiant cynllun tebyg yn gynharach yn y flwyddyn, a gynhaliwyd yn Siambr y Cyngor, pan ddaeth staff at ei gilydd i gyfnewid dillad nad oedden nhw eu heisiau mwyach.

Y bwriad yw trefnu digwyddiad cyfnewid dillad arall ddechrau mis Rhagfyr, ac mae angen gwirfoddolwyr i'w drefnu.

Gofynnir i unrhyw un sydd â diddordeb mewn cynorthwyo i gysylltu.

Wrth sôn am y Nadolig, hoffwn dynnu eich sylw at drefniadau gweithio yn ystod y cyfnod hwn.

Dros y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd, y bwriad yw dilyn patrwm y blynyddoedd blaenorol a chau swyddfeydd y Cyngor ar gyfer gwasanaethau rheng flaen nad ydynt yn hanfodol o 4.30 ddydd Gwener, 22 Rhagfyr tan fore Mawrth, 2 Ionawr.

Wrth gwrs, ers y pandemig, mae llawer ohonom yn y swyddfa am lai o amser nawr beth bynnag gan ein bod wedi newid i ffordd fwy hyblyg, hybrid o weithio.

Yn naturiol, bydd angen i wasanaethau'r Cyngor barhau i weithredu a mater i reolwyr yw sicrhau bod digon o staff yn eu lle ar gyfer tymor yr ŵyl.

Mae gan gydweithwyr sydd am gymryd saib estynedig dros y Nadolig gyfle i gymryd gwyliau, yn amodol ar anghenion y gwasanaeth, a gall unrhyw un sy'n gweithio o bell barhau i wneud hynny os ydynt yn dymuno.

Gellir gwneud trefniadau ar gyfer y rhai sydd fel arfer yn mynd i'r gwaith i weithio gartref neu mewn lleoliad arall os nad ydynt am gymryd gwyliau.

Fel arfer, diolch yn fawr i chi am eich ymdrechion yr wythnos hon – cânt eu gwerthfawrogi'n fawr.

Mwynhewch y tân gwyllt, ond yn fwy na dim, gobeithio y cewch benwythnos hamddenol a phleserus.

Diolch yn fawr iawn,

Rob