Wythnos Therapi Galwedigaethol 2023

Mae Wythnos Therapi Galwedigaethol yn ymgyrch codi ymwybyddiaeth genedlaethol sy'n dathlu pŵer therapi galwedigaethol, a all newid bywydau.

Cynhelir Wythnos Therapi Galwedigaethol gan Goleg Brenhinol y Therapyddion Galwedigaethol, rhwng 6 Tachwedd a 12 Tachwedd, ac rydym am rannu'r hyn y mae therapi galwedigaethol yn ei olygu a pham mae’n bwysig.

Yr wythnos hon, byddwn yn egluro galwedigaethau yng nghyd-destun therapi galwedigaethol.  

 

Social media option 2 for posts - WelshYng nghyd-destun therapi galwedigaethol, beth yw galwedigaeth?

Galwedigaeth yw unrhyw weithgaredd y mae arnom ei angen, ei eisiau neu yr ydym yn ei hoffi i fyw ac i ofalu am ein hiechyd corfforol a meddyliol, a’n llesiant emosiynol ac ysbrydol. Rydym yn cyflawni galwedigaethau o’r eiliad yr ydym yn cael ein geni, ar ein pennau ein hunain neu gydag eraill.

Nid eich gwaith neu weithgareddau byw bob dydd yn unig yw galwedigaeth. Gall galwedigaeth fod yn ofalu am eich hunan, fel ymolchi, bwyta neu gysgu; cynhyrchiol, fel gwaith, astudio, gofalu neu weithgareddau domestig; a hamdden, fel chwarae chwaraeon, diddordebau neu gymdeithasu.

Galwedigaethau yw blociau adeiladu bywyd. Ond pam eu bod yn bwysig?

Mae galwedigaethau yn hanfodol i fyw. Maen nhw yn rhoi ystyr, diben a strwythur i’n bywydau. Maen nhw yn helpu i siapio pwy ydyn ni, ein cysylltu ag eraill a helpu i greu ein hunaniaeth a’n hymdeimlad o berthyn. Trwy alwedigaeth rydym yn cryfhau ein hiechyd ac ansawdd ein bywydau.

Mae canolbwyntio ar alwedigaeth yn arwain at welliannau yn ein gallu i wneud y pethau y mae arnom angen ac eisiau eu gwneud, ein cysylltiadau a’n cyfathrebu cymdeithasol yn ogystal â’n hwyliau, gorffwys a chwsg.

Therapi galwedigaethol yn rhoi ansawdd i’ch bywyd

Mae therapyddion galwedigaethol yn gweld tu hwnt i ddiagnosis a chyfyngiadau ar obeithion a dyheadau. Maen nhw yn edrych ar y berthynas rhwng eich galwedigaethau, yr heriau yr ydych yn eu hwynebu a’ch amgylchedd.

Mae therapi galwedigaethol yn eich helpu i fyw eich bywyd gorau gartref, yn y gwaith – a phob man arall.

Am ragor o wybodaeth ewch i:

Royal College of Occupational Therapy

Therapyddion Galwedigaethol yn y Fro

Bydd Therapyddion Galwedigaethol sy'n cael eu cyflogi gan y Gwasanaethau Cymdeithasol yn cynnig asesiad ymarferol i bobl anabl o bob oedran, er mwyn eu helpu i fyw mor annibynnol ag sy'n bosibl yn eu cartrefi eu hunain.

Gallwn helpu drwy ddysgu technegau newydd ar gyfer byw'n annibynnol, helpu pobl i drefnu cyfarpar ac addasu adeiladau.

Cyfeirio cleientiaid

Gellwch wneud cais am gyfeirio unigolyn at Therapydd Galwedigaethol ar gyfer ei asesu drwy anfon llythyr neu alw heibio i'r Ganolfan Wybodaeth a Chyswllt. Mae croeso i unigolion a'u teuluoedd a'u ffrindiau yn ogystal â gweithwyr proffesiynol eraill wneud ceisiadau o'r math hwn.

Oherwydd y nifer uchel o atgyfeiriadau am Wasanaethau Therapi Galwedigaethol, mae angen blaenoriaethu. 

Rhoddir blaenoriaeth uchel i gais o dan yr amgylchiadau canlynol:

  • Os yw'r unigolyn yn dioddef o salwch angheuol
  • Pan fydd problemau'n codi ynghylch diogelwch wrth ddarparu gofal i'r unigolyn
  • Pan fydd y trefniadau ar gyfer gofalu am unigolyn yn methu ac yn ei roi/ei rhoi mewn perygl

Gellir cyfeirio unigolyn

  • Pan fydd yn methu ymdopi â gofal personol megis mynd i'r toiled, ymolchi, gwisgo a bwyta
  • Pan fo'n anodd iddo/iddi symud, defnyddio cyfleusterau hanfodol megis grisiau, mynd i mewn i'r tŷ, dod allan o'r tŷ a symud o gwmpas ei gartref/chartref
  • Pan fo'n anodd iddo/iddi newid safle - er enghraifft eistedd mewn cadair, codi o gadair, mynd i mewn i'r gwely a dod allan ohono

Am ragor o wybodaeth, ewch i'r Dudalen Therapi Galwedigaethol:

Therapi Galwedigaethol

I wneud atgyfeiriad, cysylltwch â Cyswllt Un Fro: