Wythnos Diogelu Genedlaethol: Fearless - Sesiwn Llinellau Cyffuriau a Throseddau Cyllyll

Mae sesiwn ar-lein sy'n archwilio llinellau cyffuriau a throseddau cyllyll yn rhan o raglen Wythnos Diogelu Genedlaethol (Tachwedd 13- 17) yng Nghaerdydd a'r Fro.

Mae'r sesiwn yn canolbwyntio ar sut i adnabod arwyddion y problemau hyn, straeon personol o weithio gyda phobl ifanc sy’n ymwneud â’r materion hyn, y gyfraith ynghylch troseddau cyllyll, risgiau a chanlyniadau a mwy.

Cynhelir 'Fearless – Llinellau Cyffuriau a Throseddau Cyllyll' ddydd Iau, Tachwedd 16 am 10am trwy Microsoft Teams ac mae'n addas i unrhyw un sy'n gweithio gyda phobl ifanc. Mae lleoedd ar gael o hyd os hoffech fynychu. E-bostiwch BDRhCaerdyddarFro@caerdydd.gov.uk i gadw’ch lle.

I weld y rhaglen lawn ar gyfer Wythnos Diogelu Genedlaethol, gan gynnwys Cynhadledd Bwrdd Diogelu Caerdydd a'r Fro ddiwedd yr wythnos, Mwy o wybodaeth yma