Staffnet+ >
Neges gan yr Arweinydd ar Prif Weithredwr

Neges gan yr Arweinydd a'r Prif Weithredwr
10 Tachwedd 2023
Annwyl gydweithwyr,
Roeddem am roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am sefyllfa ariannol bresennol y Cyngor.
Fel y gwyddoch, mewn termau real, mae cyllidebau Awdurdodau Lleol wedi bod yn crebachu ers dros ddegawd oherwydd mesurau llymder a llai o gyllid ar gael yn wyneb costau cynyddol.
Yn ddiweddar, mae'r sefyllfa wedi dod hyd yn oed yn fwy difrifol gan arwain at sefyllfa bresennol y gyllideb, sef y mwyaf heriol yr ydym erioed wedi'i wynebu.
Rhagwelir y bydd pwysau costau yn codi mwy na £38.525 miliwn ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. Yn syml, dyma faint yn ddrutach fydd parhau i weithredu’r gwasanaethau ar y lefelau presennol.
Ar ôl cymryd camau i reoli'r pwysau hynny, mae'r ffigwr wedi gostwng bellach i ddechrau i £20.767 miliwn. Nid yw hyn yn golygu nad yw'r pwysau hynny'n bodoli mwyach - maen nhw yno o hyd. Mae'n golygu y bydd angen i ni eu rheoli o fewn y cyllidebau sydd ar gael, tasg a fydd yn heriol ynddo'i hun.
Fodd bynnag, mae hynny'n dal i adael diffyg cyllideb o fwy na £10.5 miliwn ar ôl ffactora’r cynnydd a ragwelir mewn cyllid y bydd y Cyngor yn ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru a ffynonellau eraill.
Y ffaith syml yw bod costau'n cynyddu ar gyfradd llawer uwch na ffrydiau cyllido.
Mae prisiau ynni yn parhau i fod yn uchel iawn, yn ogystal â chwyddiant a chyfraddau llog.
Ar ben hyn, mae'r Cyngor yn gwario mwy ar ddarpariaeth ar gyfer poblogaeth sy'n heneiddio a nifer cynyddol o ddisgyblion ysgol ag Anghenion Dysgu Ychwanegol.
Mae'r galw am ofal cymdeithasol ymhlith oedolion a phlant yn cynyddu, gyda mwy o angen am lety digartrefedd hefyd yn cynyddu ein costau.
Yn erbyn y cefndir hwn o wariant sy’n cynyddu, amcangyfrifir y bydd yr arian y mae'r Cyngor yn ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru yn codi ond dri y cant y flwyddyn nesaf ac un y cant ar ôl hynny.
Mae'r arian a ddaw o'r Dreth Gyngor hefyd yn debygol o gynyddu'n gymharol gymedrol gan y byddai'n annheg gofyn i drigolion dalu llawer mwy ar adeg pan fo llawer eisoes yn dioddef yn ariannol.
Ers yr haf, mae pob Cyfarwyddiaeth wedi bod yn archwilio posibiliadau arbed costau, a bydd angen defnyddio cronfeydd wrth gefn y Cyngor hefyd i fynd i'r afael â'r materion hyn.
Hyd yn oed wedyn, mae rhai penderfyniadau anodd ac annymunol o'n blaenau wrth i ni anelu at ddyrannu’r arian sydd ar gael orau a mantoli'r llyfrau.
Yr hyn sy'n parhau i fod yn flaenoriaeth lwyr yw cynnal y gwasanaethau y mae ein trigolion mwyaf agored i niwed yn dibynnu arnynt.
Byddwn bob amser yn sicrhau bod ein plant, ein pobl hŷn, y rhai ag anghenion ychwanegol a phobl heb gartref yn derbyn gofal priodol.
Rydym yn falch bod gan Dîm Arwain Strategol y Cyngor a chydweithwyr o bob rhan o'r sefydliad cyfan hanes o oresgyn rhwystrau ariannol ar ôl patrwm o gyllidebau sy'n lleihau yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Mae'n glir iawn y bydd yn rhaid i ni weithio mewn modd cydweithredol ar draws y sefydliad a chyda phartneriaid i fantoli'r gyllideb a bydd angen i ni gofleidio dulliau newydd arloesol i gyflawni hyn yn unol â'n hagenda ail-lunio.
Ers ei sefydlu yn 2014, mae’r rhaglen waith Ail-lunio wedi helpu'r Cyngor i ymateb i ystod o amgylchiadau anodd, gan gynnwys pandemig Covid-19, yr argyfwng costau byw a heriau eraill.
Law yn llaw â'r gwaith strategol hwn, mae angen i bob aelod o staff fod yn hynod ofalus wrth wario ar adeg pan fo cadw adnoddau yn bwysicach nag erioed.
Mae arbedion bach oll yn bwysig ac mae gan bob un ohonom gyfle i'n rhoi mewn sefyllfa gryfach trwy wneud penderfyniadau doeth.
Er bod hon yn sefyllfa ddifrifol, mae'n un y down allan ohoni. Mewn cyfarfod o'r holl Brif Swyddogion yr wythnos hon, roedd yn galonogol bod y ffocws ar sut y gallwn ddarparu gwasanaethau hanfodol mewn ffyrdd newydd a fydd yn cael effaith hyd yn oed mwy cadarnhaol ar ein cymunedau.
Pan wynebwyd heriau anodd yn y gorffennol, rydym wedi dod drwy'r anawsterau hyn trwy weithio gyda'n gilydd, bod yn agored i ffyrdd newydd o weithio a thrwy fod yn greadigol, yn arloesol a thrwy drawsnewid gwasanaethau. Mae hwn yn ddull y mae'n rhaid i ni ei gofleidio unwaith eto.
Trefnir nifer o sesiynau Hawl i Holi gyda chydweithwyr, a fydd yn cynnig cyfle i drafod ymhellach unrhyw un o'r materion a godwyd yn y neges hon.
Yn y cyfamser, hoffem ddiolch i'r holl staff am eu hymdrech a'u hymrwymiad parhaus – mae'n cael ei werthfawrogi'n fawr.
Diolch yn fawr iawn,
Lis a Rob.