Staffnet+ >
Dewch i gwrdd â Chadeirydd newydd GLAM Lee Boyland
Dewch i gwrdd â Chadeirydd newydd GLAM Lee Boyland
02 Tachwedd 2023

Rhwydwaith o gydweithwyr a chynghreiriaid LHDTC+ yw GLAM, sy'n gweithio i gael effaith gadarnhaol ar ran cydweithwyr LHDTC+ yn y gweithle. Mae eu diwylliant o fod yn agored a chynhwysol yn rhoi lle diogel i staff lle gallant fod yn nhw eu hunain heb ofni beirniadaeth.
Yn gynharach eleni, cafodd Lee Boyland, a ymunodd â'r Fro y llynedd fel Cydlynydd yn y tîm Cymunedau am Waith a Mwy, ei benodi'n Gadeirydd newydd GLAM. I Lee, roedd cael mynediad at rwydwaith staff LHDTC+ yn ffactor pwysig wrth ymgeisio am swydd yn y Fro.
"Rwyf wedi gweld newid mor gadarnhaol yn symud o'r sector preifat i'r Cyngor. Mae yna system well o gefnogaeth a hefyd mwy o weithio mewn partneriaeth yn fy rôl o ddydd i ddydd ond mae dod i mewn a gallu gweithio gyda GLAM wedi bod yn brofiad mor gadarnhaol.
"Mewn rolau blaenorol, nid oedd y fath beth â rhwydwaith staff, yn enwedig i gydweithwyr LHDTC+. Fe wnes i gyflwyno’r syniad o geisio dechrau un yn fy rôl ddiwethaf, ond gan fod ein gwaith yn cael ei sbarduno gymaint gan dargedau, doedd dim digon o adnoddau i sefydlu rhywbeth fel yna.
"Pan oeddwn yn chwilio am swydd newydd, un o'r ffactorau mwyaf i mi oedd dod o hyd i amgylchedd gwaith oedd â'r math yna o rwydwaith cymorth. Roedd yn bendant yn dynfa i mi wrth wneud cais am swyddi, ac un o'r rhesymau pam es i am y swydd gyda'r Fro oedd oherwydd GLAM.
"Rwy'n credu fy mod wedi anfon cais aelodaeth fwy neu lai o fewn y mis cyntaf o weithio yn y Cyngor. Hyd yn hyn, mae wedi bod yn brofiad gwerth chweil. Mae'r bobl rwyf wedi cwrdd â nhw drwy GLAM a'r sgyrsiau rwyf wedi eu cael gydag uwch reolwyr wedi gwneud cymaint o wahaniaeth cadarnhaol i fy mywyd proffesiynol - mae'n sefydliad croesawgar iawn."

Mae gwybod bod rhwydwaith staff ar waith i gefnogi Lee yn y gwaith yn un o'r rhesymau pam ei fod yn cydnabod eu harwyddocâd i staff yn gyffredinol.
"Mae mor bwysig cael rhwydweithiau staff. P'un ag ydych yn berson traws, hoyw, deurywiol, neu hyd yn oed yn gyfaill, mae'n rhoi cyfle i unigolion sy'n ymuno â'r rhwydweithiau hyn leisio eu barn, ceisio cefnogaeth, a chael pobl i droi atynt pan fydd problem.
"Gan siarad o brofiad personol, mae'r unigolion sy'n ymuno â'r rhwydweithiau staff wedi profi adegau anodd o bosib yn eu bywydau - mae cael cefnogaeth gan eraill a allai fod yn mynd trwy neu sydd wedi delio ag anawsterau tebyg yn bwysig iawn.
"Efallai fod y gymuned hoyw wedi datblygu, ac mae newid cadarnhaol iawn wedi bod yn yr agweddau tuag at ddynion a menywod hoyw dros y blynyddoedd, ond mae clystyrau o homoffobia, deuffobia a thrawsffobia o hyd.
"Ar hyn o bryd, mae'r gymuned draws dan ymosodiad. Mae sylwadau atgas a negyddoldeb gan y cyfryngau a'r wasg yn treiddio i'n cymdeithas. Fel dyn hoyw, i mi, mae'n ymwneud ag amddiffyn a bod yn gyfaill i'r gymuned draws nawr a'u cefnogi drwy'r cyfnod anodd hwn."
Er mai un o brif swyddogaethau GLAM yw gwasanaethu fel canolbwynt cymorth i staff LHDTC+, mae ganddynt arwyddocâd ehangach o ran dod â materion LHDTC+ i sylw eu cydweithwyr.
"Yn ogystal â gweithredu fel rhwydwaith cymorth, mae GLAM yn sylfaen wybodaeth bwysig i staff ar draws y Cyngor o ran LHDTC+ i gael y wybodaeth ddiweddaraf am newidiadau a materion yn y gymuned.
"Pan ddes i allan yn 18 oed, doeddwn i erioed wedi clywed am unrhyw un oedd yn anneuaidd na'r defnydd o ragenwau - mae hynny ond wedi digwydd mewn gwirionedd yn y pum mlynedd diwethaf. Mae GLAM yn chwarae rhan mor bwysig wrth addysgu unigolion - hyd yn oed pobl hoyw a deurywiol - am y gymuned wrth iddi esblygu. Yn enwedig o fewn sefydliadau fel ni, mae angen i ni sicrhau bod pobl yn deall y newidiadau yn y gymuned a pha heriau mae pobl LHDTC+ yn eu hwynebu.
"Rydym yn cefnogi ond hefyd yn cynghori. Rhan bwysig o'n gwaith yw'r cyngor a roddwn i AD ar wneud newidiadau cadarnhaol i bolisïau a'r amgylchedd y mae pobl yn gweithio ynddo. Rydyn ni yma i helpu. Er enghraifft, os oes gan reolwr unigolyn ar ei dîm sy'n dod allan yn anneuaidd, rydym yn rhoi arweiniad a chefnogaeth i'r rheolwr hwnnw ar y ffordd y gallant addasu i hynny a sicrhau bod yr unigolyn nid yn unig yn cael eu derbyn ond hefyd yn cael eu cefnogi."
I Lee, mae undod y Cyngor gyda'r gymuned LHDTC+ wedi bod yn newydd iddo yn broffesiynol.
"Mae GLAM yn bodoli i greu amgylchedd gwaith mwy cynhwysol i unigolion, er mwyn i bobl beidio gorfod poeni pwy ydyn nhw rhwng 9-5, o ddydd Llun i ddydd Gwener. Mae mor braf gweithio i sefydliad sydd nid yn unig yn cefnogi unigolion LHDTC+ ond yn gweithredu drostyn nhw hefyd.

"Ni allaf ganfod unrhyw fai ar y Prif Weithredwr nac unrhyw un o'r Uwch Dîm Arwain yn y ffordd y maent wedi derbyn GLAM. Yn gynharach eleni, cafodd Carl a minnau wahoddiad i gyflwyno rhai o'n syniadau i’r UDA – roedd pawb mor gefnogol o'r camau yr oeddem eisiau eu cymryd. Nid wyf erioed wedi gweithio i sefydliad sydd wedi bod mor gynhwysol neu flaengar o ran y ffordd y gallant gefnogi'r Gymuned LHDTC+.
"Yn ddiweddar, rydym wedi diweddaru ein tudalen Staffnet gydag adnoddau a deunyddiau newydd sy'n cynnwys Pecyn Nerth Cynghreiriaeth newydd sbon. Rydym wedi llunio'r adnodd hwn ar gyfer y cynghreiriaid yr ydym yn gweithio gyda nhw neu'r unigolion sydd o bosibl eisiau bod yn gynghreiriad o fewn GLAM ar ystyr a phwysigrwydd cynghreiriad a'r hyn sydd ei angen i fod yn gynghreiriad.
"Mae ein tudalen hefyd yn cynnwys ffurflen holi unrhyw beth i ni, lle gall unigolion ofyn cwestiynau dienw i ni a fydd yn dod yn uniongyrchol ataf i fy hun neu Carl."
Wrth i GLAM edrych tua'r dyfodol, bydd eu gwaith yn cynnwys mwy o gydweithio gyda'r Rhwydwaith Staff Amrywiol a'r Rhwydwaith Anabledd.
"Ar hyn o bryd, gyda'r Tîm Cydraddoldeb rydyn ni'n trafod pwysigrwydd croestoriadedd. Mae'n bwysig ein bod fel Cyngor yn edrych ar y ffordd y mae'r tri rhwydwaith yn cydweithio i sicrhau bod unigolion sy'n croesi pob un o'r tri grŵp ymylol yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt."
Mae GLAM yn agored i bawb. Ceir mwy o wybodaeth am GLAM, yn cynnwys ffurflen aelodaeth, ar eu Tudalen Staffnet.