Dysgu am y Rhwydwaith Anabledd gydag Elyn Hannah

20 Tachwedd 2023

Elyn HannahMae Elyn wedi treulio ei holl fywyd gwaith gyda'r Cyngor gan ddechrau gyda'r Adran Budd-daliadau 17 mlynedd yn ôl. 18 mis yn ôl, cymerodd rôl hollol newydd fel Swyddog Cydraddoldeb a'r Gymraeg a oedd yn antur newydd a gwahanol, ond cyffrous iawn iddi.

Mae Elyn wedi gweithio'n agos gyda GLAM, Diverse, a nawr y Rhwydwaith Anabledd.

Y Rhwydwaith Anabledd, a ffurfiwyd yn gynharach eleni, yw’r rhwydwaith staff diweddaraf sy’n ceisio mynd i'r afael â'r heriau y gallai cydweithwyr eu hwynebu a sicrhau bod y Cyngor yn fwy cynhwysol o bobl ag anableddau, niwroamrywiaeth a salwch meddwl. 

"Mae'n hynod bwysig bod gennym y rhwydweithiau staff hyn sy'n cynrychioli pobl â nodweddion gwarchodedig gwahanol, fel GLAM ar gyfer LHDTC+ a Diverse i staff Du, Asiaidd a Mwyafrif Byd-eang.

"O weld y llwyddiant a'r newid cadarnhaol y mae GLAM a Diverse eisoes wedi'i wneud, mae mor bwysig bod gennym rwydwaith anabledd hefyd bellach. Mae cymaint o staff y gallai fod ganddyn nhw, neu aelodau o'u teulu, anabledd neu gallent hyd yn oed fod yn gweithio gyda phobl ag anableddau.

"Mae ychwanegu'r Rhwydwaith Anabledd yn hollbwysig i'r Cyngor wrth i ni weithio tuag at gynwysoldeb a chydraddoldeb - dylem adlewyrchu'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu, felly mae hyrwyddo a chefnogi staff ag anableddau yn gam sylfaenol yn ein taith."

Er mai dim ond yn gynharach eleni y sefydlwyd y rhwydwaith, mae'r grŵp llywio eisoes wedi cwblhau eu cylch gorchwyl ac wedi trafod yr hyn y maent am ei gyflawni fel rhwydwaith.

"Mae sefydlu'r rhwydwaith wedi bod yn broses eithaf hir. Rydym am sicrhau ein bod yn ei gael yn iawn ac yn cynrychioli'r holl bartïon perthnasol yn gywir. Mae anabledd, niwroamrywiaeth a salwch meddwl yn sbectrwm mor eang o nodweddion y mae angen i ni eu hystyried, ac mae'r grŵp yn mynd i olygu rhywbeth gwahanol i wahanol bobl ar wahanol adegau.

"Ein nod craidd yw bod yn ganolbwynt cymorth i staff ag anableddau, yn y byd ehangach yn ogystal ag ym myd gwaith. Gallai hyn gynnwys helpu aelod o staff i gael cymorth ychwanegol gan ei reolwr llinell neu dynnu sylw at ba gymorth sydd ar gael gan wasanaethau ehangach. Yn y bôn, rydym am hyrwyddo a sbarduno canlyniadau gwell i staff ag anableddau.

"Yn yr un modd â GLAM a Diverse, bydd y Rhwydwaith Anabledd yn cynrychioli staff ag anableddau drwy ymgyngoriadau ag AD ac yn tynnu sylw at faterion cyflogaeth amrywiol y gallent eu hwynebu.

"Rydym hefyd yn ceisio hyrwyddo cynhwysiant, hygyrchedd, ymwybyddiaeth a derbyniad ar draws y sefydliad ac, yn bwysicaf oll, darparu amgylchedd i staff ag anableddau rannu eu safbwynt a'u profiad i helpu i wella'r berthynas rhwng y sefydliad a phobl ag anableddau."

Wellbeing Champions

Mae'r grŵp hefyd am herio'r rhagdybiaeth bod anableddau ond yn effeithio ar bobl yn gorfforol. Mae cefnogaeth a chynrychiolaeth y grŵp hefyd yn ymestyn i niwroamrywiaeth a salwch meddwl.

"Mae'r Cyngor eisoes wedi gwneud llawer o waith da gyda'r Pencampwyr Lles, a byddwn yn gweithio'n agos gyda nhw gan fod elfennau o’n gwaith yn gorgyffwrdd o ran yr hyn rydyn ni'n ei wneud a phwy rydyn ni'n eu cynrychioli.

"Ochr yn ochr ag anableddau corfforol, mae'n bwysig ein bod yn cydnabod ac yn hyrwyddo anableddau anweledig. Mae llawer o bobl ag anableddau cudd ac rydym am roi’r lle blaenaf i hynny o ran rheolwyr a gwneud penderfyniadau. Nid oes rhaid i rywun fod mewn cadair olwyn i fod angen cymorth ychwanegol."

Fel hyrwyddwr a chynrychiolydd staff ag anableddau, bydd y rhwydwaith hefyd yn chwarae rhan hanfodol wrth ymgynghori â staff ynghylch newidiadau mewn polisïau a chymorth i staff yn y gweithle.

"Mae’n hynod o bwysig cael clywed lleisiau staff wrth lunio polisïau. Mae GLAM a Diverse eisoes wedi cael dylanwad sylweddol ar bolisi staff, gan helpu Adnoddau Dynol ac adrannau eraill i sicrhau eu bod yn cael effaith gadarnhaol.

"Bydd ymgynghori â'r Rhwydwaith Anabledd yn symleiddio'r broses o ymgynghori â staff ac yn sicrhau y bydd unrhyw newidiadau yn cael effaith fwy effeithiol ar staff."

Disability diversity

Yr hyn sy'n bwysig i'r rhwydwaith yw sicrhau bod staff yn ymwneud â'i waith. Mae’r rhwydwaith yn rhoi cefnogaeth a chyfle i gymdeithasu, mae’n fan lle gall staff gyfarfod, rhannu eu profiadau, ac ymgysylltu â staff ym mhob rhan o’r Cyngor.

"Mae'r Rhwydwaith Anabledd, fel GLAM a Diverse, yn agored i bawb. Po fwyaf o leisiau sy'n cael eu clywed y gorau yw safon y canlyniadau.

"Fel cynghreiriad i'r rhwydwaith, rwy'n credu ei bod mor bwysig clywed profiadau pobl eraill oherwydd gallant gael effaith mor ddwys ar eich gweithredoedd a’ch helpu i fyw eich bywyd eich hun mewn ffordd well.

"Ond mae hefyd mor bwysig cael aelodau sydd â’r nodweddion gwarchodedig hyn yn y grŵp hefyd. Os ydych yn chwilio am gymorth neu gyngor penodol, efallai y bydd rhywun sydd wedi cael profiad tebyg iawn yn gallu cynnig arweiniad i chi.

"Fel y soniais i, mae anabledd yn sbectrwm mor eang. Efallai bod gennych rwystr neu gyflwr iechyd hirdymor rydych chi’n ei nodi eich hun yn hytrach nag anabledd sydd ag enw penodol. Mae'r rhwydwaith eisiau eich cefnogi chi os a phryd y bydd angen."

"Ry’n ni'n gobeithio cadarnhau enw'r rhwydwaith a chynnal lansiad swyddogol cyn y Nadolig.

"Yn wahanol i rai Awdurdodau Lleol eraill, mae gan ein rhwydweithiau staff eu hunaniaeth eu hunain - dydyn nhw ddim yn gysylltiedig ag unrhyw gyfarwyddiaeth neu dîm penodol o fewn y Cyngor. Ond dyma pam mae hi wedi cymryd cyhyd i ni gadarnhau’r enw, oherwydd ein bod ni am sicrhau ei fod yn cwmpasu profiadau'r staff rydyn ni'n eu cynrychioli.

"Rydyn ni hefyd wastad yn agored i aelodau newydd. Os oes unrhyw un eisiau helpu neu os oes ganddynt ddiddordeb mewn dod yn gadeirydd y grŵp, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych."

Mae'r Rhwydwaith Anabledd yn agored i bawb. Os hoffech ddysgu mwy a chymryd rhan, cysylltwch ag Elyn Hannah ar ehannah@valeofglamorgan.gov.uk