Staffnet+ >
Ydyn ni'n Gyflogwr Cynhwysol LHDTC
Ydyn ni'n Gyflogwr Cynhwysol LHDTC+?
Rydym ni'n cymryd rhan yn Holiadur Adborth Staff Stonewall i ddod i wybod am eich syniadau ynghylch cynwysoldeb yn y Cyngor.

Llenwch yr arolwg erbyn 15 Rhagfyr i rannu eich barn gyda ni.
Fel Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, rydym am sicrhau bod pawb yn gallu bod pwy ydynt yn y gwaith, beth bynnag fo'u cyfeiriadedd rhywiol neu eu hunaniaeth rhywedd.
Drwy gwblhau'r arolwg, byddwch yn ein helpu i weld sut rydym yn gwneud a'r hyn y mae angen i ni ganolbwyntio arno nesaf. Mae'r holl wybodaeth a ddarperir gennych yn ddienw ac yn gwbl gyfrinachol; nid yw'n bosibl i unigolion gael eu hadnabod drwy eu hymatebion i'r arolwg.
Cwblhau’r Arolwg
Os ydych chi eisiau helpu i wneud Cyngor Bro Morgannwg yn fan lle gall staff lesbiaidd, hoyw, deurywiol, trawsryweddol a grwpiau eraill o leiafrifoedd rhywiol a rhyweddol (LHDTC+) fod yn nhw eu hunain a chyflawni eu potensial, gallech hefyd ystyried ymuno â Rhwydwaith LHDTC+ a Chynghreiriaid y Cyngor, GLAM.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am GLAM drwy ymweld â hyb GLAM ar Staffnet+.