Yr Wythnos Gyda Rob
19 Mai 2023
Annwyl gydweithwyr,
Rwy'n falch iawn o allu dechrau neges yr wythnos hon trwy rannu newyddion gwych. Ddoe cefais gadarnhad bod ein tîm Trafnidiaeth wedi sicrhau mwy na £4m o gyllid ar gyfer gwelliannau teithio llesol ym Mro Morgannwg.

Mae annog a galluogi teithio llesol – cerdded, beicio, ac unrhyw ddull arall o deithio sy'n cynnwys gweithgarwch corfforol – yn rhan bwysig o'n gwaith i adeiladu cymunedau cryfach ac iachach yn y Fro. Mae gan weithgarwch corfforol lawer o fanteision i iechyd pobl a dangosir bod ymarfer corff yn yr awyr agored hefyd yn amddiffyn rhag pryder ac iselder. Mae annog symud sylfaenol i gerdded, defnyddio olwynion a beicio hefyd yn un o'r ffyrdd mwyaf cost-effeithiol o leihau allyriadau trafnidiaeth, a sicrhau aer glanach yn ein trefi a'n pentrefi.
Bydd y cyllid newydd hwn yn cael ei ddefnyddio i gyflawni ein prosiectau â’r flaenoriaeth uchaf ar gyfer 2023/24. Mae Kyle Phillips a Lisa Elliot, sy'n llywio llawer o'n hagenda teithio llesol, wedi bod yn allweddol wrth sicrhau'r cyllid hwn. Hoffwn ddiolch i'r ddau ohonynt a chydnabod yn benodol waith dygn Lisa yn meithrin perthynas â Llywodraeth Cymru, Trafnidiaeth Cymru, Sustrans, a llawer o asiantaethau eraill. Da iawn Lisa

Nid yw'n gyd-ddigwyddiad bod y newyddion yma’n cael ei rannu ar ddiwedd wythnos Cerdded i'r Ysgol. Menter y mae'r tîm wedi bod yn helpu i'w hyrwyddo ledled y Fro. Efallai bod rhai ohonoch eisoes wedi'u gweld ar amryw o gyfryngau cyfryngau cymdeithasol ac yn y wasg, y lluniau cyn ac ar ôl trawiadol sy'n dangos effaith cau'r ffordd dros dro y mae'r tîm wedi'i threfnu i helpu disgyblion a rhieni Ysgol Gynradd Fairfield ym Mhenarth i gerdded a beicio i'r ysgol.
Dyfynnwyd y Pennaeth Sian Lewis yn gynharach yr wythnos hon yn dweud "Rydym wrth ein bodd gyda’r ffaith bod cynllun Stryd Ysgol Fairfield wedi ei roi ar waith. Mae gennym bellach amgylchedd llawer mwy diogel ac iachach ar ddechrau a diwedd y diwrnod ysgol, gyda'r cynllun newydd a'r gerddi glaw yn gwella'r ardal leol yn aruthrol. Mae wedi bod yn wych gweithio gyda'r gymuned, Sustrans a'r awdurdod lleol i sicrhau bod y prosiect hwn yn cael ei gwblhau."
Mae hon yn enghraifft wych o sut mae'r agenda teithio llesol yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl. Mae ein tîm Trafnidiaeth yn treulio oriau maith yn rheoli'r gwaith o gyflawni cynlluniau fel hyn a diolch i'r platfform y mae'r tîm wedi'i adeiladu, a'r cyllid y maen nhw wedi'i sicrhau, mae cyfnod cyffrous iawn o'n blaenau. Gwych iawn. Diolcho galon.
Ddydd Iau yr wythnos hon, bu modd i fi weld drosof fy hun enghraifft arall o sut mae ein timau'n gweithio i ymgysylltu cymunedau'r Fro yn ein gwaith pan es i i ddigwyddiad cymdeithasol Fforwm 50+ y Fro yng Nghanolfan Gymunedol Penarth Isaf. Gyda phoblogaeth sy'n heneiddio yn y sir, mae'n hanfodol bod ein gwasanaethau'n gallu diwallu anghenion pobl hŷn. Mae'r Fforwm 50+ yn cyflawni gwaith hollbwysig yn eiriol dros bobl hŷn a chefais adborth gwych yn bersonol yn ystod y cyfnod byr a dreuliais yn siarad â phobl yn y digwyddiad. Cefnogir y Fforwm gan Sian Clemett-Davies yn ein tîm Strategaeth a Pholisi a hoffwn ddiolch i Sian a gweddill y tîm am drefnu’r digwyddiad ac am sicrhau ei fod yn brofiad mor gadarnhaol i'r rhai oedd yn bresennol.

Mae ymgysylltu â chydweithwyr yn ein gwaith yr un mor bwysig. Fel y gweloch chi gobeithio ddydd Mercher, yn rhan o’r Wythnos Dysgu yn y Gwaith lansiodd cydweithwyr o’n tîm AD yr ymgynghoriad mewnol ar Strategaeth Pobl newydd y Cyngor.
Datblygwyd y Strategaeth Pobl i gefnogi'r Cyngor i gyflawni ei amcanion ac mae'n gosod y cyfeiriad i ni fel sefydliad o safbwynt AD. Ei nod yw dangos sut mae'r Cyngor yn gwerthfawrogi ac yn trin ei staff, gan gydnabod hefyd yr heriau y mae'r sefydliad yn eu hwynebu a'r hyn y mae angen i ni ei wneud i gefnogi staff i wynebu'r heriau hyn. Mae'r strategaeth yn canolbwyntio ar dair thema allweddol: Ailgynllunio ar gyfer Ymatebol, Gyrru Profiadau’r Gweithwyr, ac Anelu at Berfformiad Uchel.
Rydyn ni’n sefydliad sy'n gwerthfawrogi mewnbwn pawb ac rwyf am i bob aelod staff chwarae rhan yn y gwaith o gwblhau'r strategaeth. Mae trosolwg o'n strategaeth ar gael i'r holl gydweithwyr yn ogystal â'r fersiwn lawn ac mae ein tîm AD wedi creu ffurflen adborth syml i bawb ei defnyddio. Mae'r ymgynghoriad ar agor tan 26 Mai ac rwy'n eich annog i gyd i neilltuo amser i ddarllen y ddogfen a rhannu eich barn.
Mae'r wythnos hon hefyd wedi gweld carreg filltir arwyddocaol arall yn ein taith ddigidol. Fel gyda llawer o'r prosiectau digidol sy'n digwydd y tu ôl i'r llenni y gwir fesur llwyddiant yw mai ychydig iawn o gydweithwyr fydd hyd yn oed wedi sylwi bod nifer o wefannau a safleoedd mewnrwyd y Cyngor wedi mudo i lwyfan arloesol newydd ddydd Mercher a dydd Iau. Nid tasg fach oedd hon ac fe'i gwnaed yn bosibl trwy fisoedd o baratoi a chynllunio gan gydweithwyr yn ein timau Gwasanaethau TGCh a Chyfathrebu.
Wedi'i reoli'n arbennig gan ein Golygydd Gwe Amy Auton a Rheolwr y Tîm Datblygu TGCh Dave Esseen, bydd y prosiect llwyddiannus yn galluogi gwelliannau mawr i'r ffordd rydyn ni’n cyflwyno gwybodaeth ac yn caniatáu i bobl gael mynediad at ein gwasanaethau ar-lein. Ni fyddai wedi bod yn bosibl heb Nick Farnham ac Alex Heywood yn y tîm Datblygu, Myke Morgan yn ein tîm Rhwydweithiau a George Lambrev, Gavin Roberts, Russell Bligh yn ein tîm Gweinyddwyr. Gwaith gwych gan bawb.
Yn fy neges ddydd Gwener diwethaf soniais y byddai’r Pythefnos Gofal Maeth yn dechrau ddydd Llun. Yn rhan o’n dathliadau gofal maeth, cynhaliodd tîm Maethu Cymru y Fro ddigwyddiad cydnabyddiaeth ddydd Mercher i ddiolch i bob gofalwr sy'n maethu drwy'r awdurdod lleol. Yn ystod y digwyddiad, derbyniodd pob gofalwr maeth dusw o flodau a thystysgrif am eu hymroddiad gan Lance Carver a'r Cynghorydd Eddie Williams. Mae lluniau'r digwyddiad yn dangos cymaint roedd yn ei olygu i'r rhai gafodd eu hanrhydeddu a hoffwn ddiolch i Megan Parry a'i chydweithwyr yn y Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc a wnaeth y digwyddiad yn un mor arbennig.
Mewn digwyddiad arall a gynhesodd y galon ac a ysgogodd y meddwl a gynhaliwyd gan ein cydweithwyr yr wythnos hon cynhaliodd Ysgol Gynradd Heol Holltwn arddangosfa gelf yn Sgwâr y Brenin ddydd Iau. Mae'r prosiect celf Amrywiaeth, gyda chefnogaeth ein rhwydwaith Amrywiol, yn cynnwys hunanbortreadau a phortreadau o staff ysgolion a bydd yn agor cyn bo hir i'r cyhoedd. Mae'n cyflwyno gwaith disgyblion ar amrywiaeth ac yn dathlu'r hyn y mae'n ei olygu iddyn nhw fod yn rhan o'r mwyafrif byd-eang ac os cewch gyfle i'w weld yn Oriel Gelf Ganolog byddwn yn argymell yr arddangosfa’n fawr. Diolch yn fawr iawn i'r cydweithwyr hynny yn Ysgol Gynradd Heol Holltwn ac o rwydwaith Amrywiol a helpodd y grŵp talentog iawn o bobl ifanc i arddangos eu talent a herio ein meddylfryd ar yr un pryd.
Hefyd ar ein sianeli mewnol ac allanol yr wythnos hon bu ein cefnogaeth i’r wythnos ymwybyddiaeth iechyd meddwl. Y thema eleni yw gorbryder, rhywbeth y gall pob un ohonon ni ddioddef ohono o bryd i'w gilydd. Cynhaliodd Care First gyfres o weminarau sy'n dal ar gael i'w gweld. Hoffwn ddiolch i'n Hyrwyddwyr Lles am eu gwaith parhaus yn cefnogi cydweithwyr. Ddydd Iau gwelwyd yr ail sesiwn myfyrdod misol a bydd llawer o gydweithwyr yn mynychu'r sesiwn llesiant coetiroedd ddiweddaraf heddiw. Mae llawer o ffyrdd y gallwch gael amser i ffwrdd o'ch gwaith i ofalu amdanoch eich hun. Mae ein cynnig eang wedi'i gynllunio i gynnig rhywbeth addas i bawb, felly bwriwch olwg dros yr hyn sydd ar gael.
Hoffwn orffen yr wythnos hon drwy ddiolch i Rachel Matthews yn ein tîm Gwasanaethau Cymdeithasol. Cysylltwyd â fi’n ddiweddar i ddweud bod Rachel bob amser yn edrych ymlaen at fy e-byst crynhoi wythnosol ac yn frwdfrydig iawn o ran sicrhau bod y crynodeb yn cael ei rannu gyda'i chydweithwyr, ac yn cloi wythnos waith arall. Wel Rachel, mae gen i ofn na allaf roi cyfarwyddyd uniongyrchol i chi i gau’r siop a mynd ati’n syth i bartïa am y penwythnos ond rwy'n gobeithio eich bod chi'n dod yn agos iawn at ddiwedd eich wythnos a bod gyda chi gynlluniau braf ar gyfer y penwythnos. Diolch a Mwynhewch!
Diolch i chi i gyd am eich ymdrechion yr wythnos hon. Diolch yn fawr bawb.
Rob