Diwrnod Gwelededd Panrywiol 24 Mai 2023

Pansexual Visibility Day 2023Mae'r Diwrnod Gwelededd Panrywiol a elwir hefyd yn Ddiwrnod Ymwybyddiaeth Pan yn gyfle i anrhydeddu, dathlu a chydnabod y rhai sy'n nodi eu bod yn banrywiol a'u profiadau.

Mae panrywioldeb yn aml yn cael ei gamddeall neu ei dangynrychioli, a nod y Diwrnod Gwelededd Panrywiol yw mynd i'r afael â hyn drwy gydnabod a dathlu bodolaeth pobl panrywiol.

Beth mae 'panrywiol' yn ei olygu?

Ystyr pan yw pawb neu bopeth felly mae panrywioldeb yn atyniad i BOB hunaniaeth rhywedd neu atyniad WAETH beth yw hunaniaeth rhywedd. Mewn cyferbyniad, deurywioldeb yw'r atyniad at hunaniaethau rhywedd lluosog.

Efallai y bydd rhai unigolion yn cyd-fynd â'r ffordd y diffinnir panrywioldeb ond yn uniaethu â'r term 'deurywiol', ac mae hynny'n gwbl ddilys. Gall eraill ddefnyddio panrywiol a deurywiol yn gyfnewidiol. Mae ein hunaniaeth yn bersonol ac yn benodol i bob un ohonom - dyna sy'n ein gwneud ni i gyd yn unigryw!

Efallai y byddwch hefyd yn clywed am bobl panramantus. Mae hyn yn cyfeirio at bobl sy'n cael eu denu'n rhamantus ond nad ydynt o reidrwydd yn cael eu denu'n rhywiol, i bobl eraill waeth beth yw eu hunaniaeth rhywedd neu ryw fiolegol.

Ewch i’r gwefannau canlynol i gael rhagor o wybodaeth:

LGBT Foundation

Papyrus UK

Heckin' Unicorn

Stonewall

GLAM-LogoMae'r Cyngor yn gweithio'n galed iawn i sicrhau ein bod yn cynnig lle diogel a dymunol i bobl LHDTC+ weithio ac i sicrhau bod Bro Morgannwg yn amgylchedd cadarnhaol a meithringar. Os hoffech chi gymryd rhan yn hyn, neu os oes gennych chi unrhyw awgrymiadau ar sut i wneud pethau'n well, cysylltwch â GLAM, ein Rhwydwaith Staff LHDTC+.

 

Os ydych chi’n pryderu am wahaniaethu neu aflonyddu, neu os ydych chi am gael rhagor o wybodaeth am sut i adrodd am hyn, gweler polisi cwynion. Cyngor Bro Morgannwg.