Y Prif Weinidog yn cael ysgrifbin arbennig gan un o fynychwyr y Ganolfan Ddydd.
Mae ysgrifbin wedi'i wneud â llaw, wedi'i grefftio gan oroeswr strôc o Ganolfan Ddydd New Horizons, yn cael ei ddefnyddio gan y Prif Weinidog Rishi Sunak.
Mae Paul Beechey yn ymweld â’r Ganolfan ac yn defnyddio peiriannau i greu beiros. Gofynnodd Aelod Seneddol Bro Morgannwg, Alun Cairns, iddo greu un ar gyfer y Prif Weinidog, a chytunodd e i wneud hynny.

Yn gynharach y mis hwn, cyflwynodd Mr Cairns lythyr wedi'i lofnodi gan Brif Weinidog y DU, gan ddiolch iddo am yr ysgrifbin a'i roddion elusennol drwy werthu ei grefftau pren.
Cafodd Paul ei gyfeirio at y ganolfan ychydig flynyddoedd yn ôl yn dilyn strôc sydd wedi’i adael â symudedd cyfyngedig. Cafodd ei annog i gymryd rhan mewn gwahanol weithgareddau, ac roedd wrth ei fodd yn y gweithdy.
Dywedodd Faye Harding, Swyddog Gwasanaeth Gofal Dydd: "Daeth Paul atom ni yn 2019 ac fe wnaethon ni ei annog i gymryd rhan mewn gweithgareddau amrywiol. Roedd yn mwynhau gweithio gyda'i ddwylo a defnyddio'r turn yn y gweithdy. Yn fuan ar ôl hynny, dysgodd i wneud eitemau bach o bren, a dechreuodd werthu’r eitemau mewn ffeiriau crefft.
“Mae'r Gwasanaeth Dydd yn rhan o Gyngor Bro Morgannwg, Adran Gwasanaethau Cymdeithasol. Ein nod yw gwella lles pobl mewn amgylchedd cefnogol, llawn anogaeth.
"Mae Paul wedi dod yn eiriolwr cryf ac yn hyrwyddwr i’r gwasanaeth. Mae hynny’n amlwg yn y gwaith y mae bellach yn ei wneud yn y ganolfan."
Esboniodd Paul sut roedd New Horizons wedi ei helpu i ailadeiladu ei hunan-barch a'i hyder ar ôl ei salwch a chanmolodd y staff sydd wedi ei gynorthwyo ar hyd y daith.
Mewn ymateb i'r llythyr a lofnodwyd, dywedodd Paul: "Roedd yn anrhydedd i mi fod Alun Cairns wedi gofyn i mi roi un o fy ysgrifbinnau i'r Prif Weinidog.
"Rwy'n teimlo'n hynod falch o wybod bod fy ysgrifbin yn cael ei ddefnyddio gan arweinydd y wlad. Hoffwn ddiolch i'r staff yn New Horizons am fy helpu i wella.”
Mae New Horizons yn darparu gwasanaeth dydd i bobl rhwng 18 a 65 oed sydd ag anabledd corfforol parhaol neu sylweddol. Wedi'i gyflwyno gan dîm ymroddedig a phrofiadol o staff, mae'n cynnig amrywiaeth o weithgareddau therapiwtig a chreadigol gan gynnwys gwaith coed a'r celfyddydau a chrefft.
Mae rhagor o wybodaeth am Ganolfan Gofal Dydd New Horizons ar gael ar gwefan Dewis Cymru.