Bywyd fel gofalwr maeth rhan amser

Mae Christine a Mike wedi bod yn ofalwyr maeth cymeradwy ers 20 mlynedd. Mae ganddyn nhw ddau o blant sydd bellach yn oedolion ac yn byw eu bywydau eu hunain. Yn ystod eu 15 mlynedd cyntaf o faethu, cawsant gyfoeth o brofiad yn maethu'n llawn amser. Fe benderfynon nhw newid i faethu rhan amser ar ôl iddyn nhw ymgymryd â'r ymrwymiad i fod yn ofal plant i’w hŵyr tra bod eu merch a'i gŵr yn gweithio'n llawn amser. Dyma eu stori nhw.

Beth ysgogodd eich diddordeb mewn maethu yn gyntaf?

"Roedd ein plant ein hunain yn tyfu i fyny felly fe siaradon ni amdano fel teulu a phenderfynu y byddai'n beth da i roi rhywbeth yn ôl. Mae gan Mike frawd mabwysiadol, felly mae wedi cael profiadau cadarnhaol gyda'r gwasanaethau cymdeithasol ac roedd gennym ni ymwybyddiaeth o faethu."

Mae bob amser yn bwysig cael y trafodaethau hyn gyda'ch teulu i sicrhau eich bod ar y cam cywir yn eich bywydau i faethu. 

Sut mae maethu seibiant byr yn ffitio o amgylch eich bywyd?

"Mae’r un cwpl o blant yn dod bob yn ail penwythnos ac mae hynny'n rhoi seibiant rheolaidd i'w gofalwr llawn amser. Ry’n ni wedi gwneud hyn ers tua 4 blynedd ac mae'n ymrwymiad rheolaidd sy'n gweithio'n dda o gwmpas ein hymrwymiadau eraill mewn bywyd. Ry'n ni hefyd yn ofalwyr seibiant gwyliau i ofalwyr eraill pan allwn ni ffitio popeth i mewn."

Dyma enghraifft wych o sut y gellir mowldio seibiant byr yn hawdd o amgylch eich bywyd. Os ydych chi'n gweithio’n llawn amser, mae seibiant byr yn rhywbeth y gallech chi ei wneud ar benwythnosau neu wyliau. Mae’n dibynnu’n llwyr ar beth rydych chi’n teimlo y gallwch chi wneud.

Beth yw’r manteision?

"Gyda maethu hirdymor mae ‘na ymrwymiad 24/7 gan gynnwys cyfarfodydd gyda gweithwyr proffesiynol eraill, hwyluso cyswllt gyda'u teuluoedd a gwneud gwaith manwl i gefnogi'r plant a'u symud i gartrefi parhaol. Gyda seibiannau byr, mae llawer mwy o hyblygrwydd.  Ry’n ni’n rhydd i ddweud ie neu na yn dibynnu ar ein hymrwymiadau. Ry’n ni'n dal i allu magu perthynas hyfryd gyda'r plant - yn enwedig y rhai rydyn ni'n eu gweld yn rheolaidd. Yn bwysig, ry’n ni’n rhoi cyfle i ofalwyr maeth eraill gael seibiant haeddiannol."

Mae'n bwysig deall pa fath o faethu fyddai'n gweddu orau i'ch bywyd chi. Os ydych chi'n chwilio am ffordd o helpu plant a fydd yn cymryd llai o’ch amser, yna mae seibiannau byr yn opsiwn gwych. 

Pa gyngor fyddech chi'n ei roi i rywun sy'n ystyried gofal seibiant?

"Mae seibiannau byr yn rhan hanfodol o'r gymuned faethu - gall gofalwyr maeth fod yn dawel eu meddwl y bydd eu plant yn ddiogel ac yn cael cefnogaeth a gofal tra’u bod yn cael seibiant. Os ydych chi eisiau bod yn rhan o fywydau plant heb ymrwymiad llawn amser, ystyriwch ofal rhan amser. Byddwn i'n dweud hefyd, ceisiwch gael cymaint o wybodaeth â phosib am bob plentyn gan ei ofalwr rheolaidd. Patrymau dyddiol, hoff a chas fwydydd, gwybodaeth iechyd ac ati. Cynlluniwch gwrdd â'r plant cyn iddyn nhw ddod i aros, er mwyn iddyn nhw gael gweld ble fyddan nhw'n byw a dod i’ch nabod chi. Mae hyn yn atal llawer o bryder y gallen nhw fod yn ei deimlo."

Mae dod i nabod pob plentyn sy'n aros gyda chi yn bwysig er mwyn iddyn nhw allu teimlo mor gyfforddus ag y gallan nhw. Yn ddigon buan byddwch chi'n gwybod popeth am eu hoff a chas fwydydd!

"Cofiwch ystyried pa gefnogaeth neu unrhyw beth ymarferol sydd ei angen arnoch gan eich awdurdod lleol, a gwnewch yn siŵr bod gennych rifau cyswllt eich tîm maethu."

Mae'n bwysig cofio nad ydych chi ar eich pen eich hun, rydyn ni yma gyda chi bob cam o'r ffordd. Bydd wastad rhywun o'n tîm ni ar ben arall y ffôn i'ch cefnogi. 

Beth mae maethu yn ei olygu i chi?

"Rydw i a Mike wedi cael llawer o uchafbwyntiau ac isafbwyntiau ar ein taith faethu. Ry’n ni wedi croesawu tua 60 neu 70 o blant agored i niwed i'n cartref. Mae rhai plant wedi bod yn haws nag eraill ond mae adeiladu'r perthnasau ‘na ac ennill ffydd y plant, a allai fod wedi dioddef trawma sylweddol, yn bwysig iawn i ni. Mae gwylio'r plant yn symud i gartref parhaol yn hynod o werthfawr ac ry’n ni’n gwybod y gall ein mewnbwn wneud gwahaniaeth mawr i'w bywydau. Ry’n ni’n cadw mewn cysylltiad gyda thipyn o'r plant sydd wedi symud ‘mlaen i fabwysiadu. Ry’n ni hefyd yn cefnogi unigolyn sy’n ddyn ifanc bellach, y gwnaethom ei faethu tua 15 mlynedd yn ôl. Ry’n ni’n cynnig cyngor pan fo angen ac, yn amlach, clust i wrando pan mae mae ein hangen ni arno."

Nid yw maethu rhan amser yn golygu na fyddwch chi’n creu bond anhygoel gyda'r plant yn eich gofal. Mae Christine a Mike yn enghraifft wych o sut gallwch chi barhau i gefnogi plentyn a bod yn rhan o’i fywyd hyd yn oed ar ôl iddo dyfu i fyny.

"Ry’n ni’n hapus ein bod wedi cael y cyfle i wneud gwahaniaeth i fywydau'r holl blant ‘ma. Gyda maethu rhan amser, ry’n ni’n dal i gael y cyfle i feithrin y perthnasoedd ‘na wrth wneud gweithgareddau hwyl gyda'r plant. Maen nhw’n ystyried y saib o’u gofalwr rheolaidd fel rhyw fath o wyliau bach."

Os yw stori Christine a Mike wedi eich ysbrydoli i gymryd y cam cyntaf ‘na, cysylltwch â ni am sgwrs gyfeillgar ac anffurfiol am faethu:

 

  • 01446 729600

 

  • fostercare@valeofglamorgan.gov.uk