Wythnos Dysgu yn y Gwaith 

15 - 21 Mai

Yr wythnos nesaf byddwn yn ymuno â sefydliadau ledled y wlad i ddathlu pwysigrwydd dysgu a datblygu parhaus.

Mae thema eleni 'Creu'r dyfodol' yn archwilio sut y gall dysgu gydol oes yn y gwaith ein helpu ni i gyd, yn bersonol ac ar y cyd, i greu ein dyfodol – o gyflawni nodau bywyd a gwaith, i lywio ein bywydau a'n cymunedau, i sbarduno arloesedd a chyflawni ein huchelgeisiau sefydliadol. 

I nodi'r wythnos, mae'r tîm Datblygu a Dysgu Sefydliadol wedi creu amrywiaeth o gyfleoedd dysgu, gan gynnwys gweithdai a gweminarau, a'r cyfan wedi'u cynllunio i'ch helpu i dyfu a llwyddo. 

Cyfleoedd Dysgu 

Creu Dyfodol Gwell Gyda'n Gilydd: Trafod Ymdrechion Newid Hinsawdd Project Sero a'ch Syniadau Chi 

  • Dydd Mawrth 16 Mai
  • 11am – 12pm     
  • Ar-lein 

Ymunwch â Thîm Project Sero am drafodaeth addysgiadol a gafaelgar ar fater brys yr argyfwng yn yr hinsawdd a'r hyn sy'n digwydd yng Nghymru. Byddwn yn archwilio'r newyddion diweddaraf gan Lywodraeth Cymru a'r BGC ar fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd.  Nod y digwyddiad yw codi ymwybyddiaeth o Brosiect Sero a'i amcanion, gan gynnwys pwy sy'n cymryd rhan, yr hyn ddywedon ni y bydden ni'n ei wneud, beth rydyn ni'n ei wneud, a lle rydyn ni eisiau cyrraedd.   

Archebwch y sesiwn hon

Dysgu i Ddysgu  

  • Dydd Mawrth 16 Mai         
  • 1:15pm – 2:15pm   
  • Ystafell Dunraven, Y Swyddfa Ddinesig 

Os ydych chi'n teimlo'n sownd yn eich taith datblygu personol neu'n chwilio am ffyrdd o wella eich sgiliau, mae’r union sesiwn gennym ar eich cyfer! Bwriad ein gweithdy arfaethedig yw eich helpu i adnabod eich anghenion dysgu, datblygu cynllun datblygu personol, a darganfod sut y gallwch ddysgu orau.

P'un a ydych chi'n cael trafferth gyda'r hyn i'w roi ar eich cynllun datblygu personol neu'n ansicr o ble i ddechrau, bydd y sesiwn hon yn rhoi awgrymiadau a thechnegau ymarferol i chi i'ch helpu i gyflawni eich nodau. 

Byddwn hefyd yn ymdrin ag arddulliau a strategaethau dysgu amrywiol, fel y gallwch ddod o hyd i'r dull sy'n gweithio orau i chi. Gyda gweithgareddau rhyngweithiol a chyfleoedd i fyfyrio, mae'r gweithdy hwn yn argoeli i fod yn brofiad dysgu gwerthfawr a deniadol.

Peidiwch â cholli‘r cyfle hwn i fuddsoddi ynoch chi'ch hun a mynd â'ch datblygiad personol i'r lefel nesaf!

Archebwch y sesiwn hon

 

Ydych chi erioed wedi meddwl sut gall bwyd ddylanwadu ar eich hwyliau? 

  • Dydd Iau 18 Mai  
  • 1pm – 2pm     
  • Ar-lein  

Rydyn ni i gyd yn cael dyddiau da a drwg – ond a oes unrhyw beth y gallwn ei wneud i ddylanwadu ar hwyliau?  Gan fod ein hymennydd yn dibynnu ar amrywiaeth o faetholion i weithredu, nid yw'n syndod mewn gwirionedd fod yr hyn rydyn ni'n ei fwyta a’i yfed hefyd yn chwarae rôl. Dewch i'r gweithdy ar-lein hwn i glywed am yr ymchwil diweddaraf ac am awgrymiadau dietegol ymarferol a allai roi hwb y gallech fod eisiau rhoi cynnig arnynt. 

Archebwch y sesiwn hon

 

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y digwyddiadau uchod, Wythnos Dysgu yn y Gwaith, eich datblygiad neu'r Caffi Dysgu anfonwch e-bost at: learningcafe@valeofglamorgan.gov.uk