Diwrnod Rhyngwladol yn Erbyn Homoffobia, Deuffobia a Thrawsffobia 2023

IDAHOBIT Together always united in diversity 2023Mae Diwrnod Rhyngwladol yn Erbyn Homoffobia, Deuffobia a Thrawsffobia (IDAHOBIT) yn cael ei ddathlu bob blwyddyn ar 17 Mai mewn dros 130 o wledydd ledled y byd.

Dewiswyd y dyddiad yn benodol i goffáu penderfyniad Sefydliad Iechyd y Byd ym 1990 i ddatgan nad anhwylder meddyliol yw bod yn hoyw.

Pam mae angen IDAHOBIT?

Mae IDAHOBIT yn ein hatgoffa er bod cynrychiolaeth LHDTC+ yn cynyddu a bod llawer mwy o unigolion yn teimlo'n fwy diogel i gael eu gweld ac i fod yn weladwy, mae troseddau casineb hefyd yn cynyddu ac mae unigolion LHDTC+ yn dal i wynebu rhwystrau bob dydd.

Er enghraifft, yn y DU roedd 2,799 o droseddau casineb yn beryn pobl drawsryweddol  yn 2020/21. Cynyddodd hyn i 4,355 yn 2021/22. Cynyddodd nifer y troseddau casineb ar sail cyfeiriadedd rhywiol yn y DU o 18,596 yn 2020/21 i 26,152 yn 2021/22.

 Mae IDAHOBIT yn gyfle i sefydliadau daflu goleuni ar y gwahaniaethu y mae'r gymuned LHDTC+ yn ei brofi ac annog a hyrwyddo cynhwysiant LHDTC+.

Y thema eleni yw ‘BOB AMSER GYDA'N GILYDD:  UNEDIG MEWN AMRYWIAETH'

Mae'r thema yn caniatáu i wahanol grwpiau LHDTCRh+ ledled y byd eirioli a dathlu mewn sawl ffordd – gan gynnwys sefydliadau hawliau dynol, rhwydweithiau LHDTCRh+, neu gynghreiriaid.

IDAHOBIT Together always united in diversity 2023 poster 2Mae'r thema hefyd yn hyrwyddo nerth undod, cynghreiriad a chymuned ar draws hunaniaethau, ffiniau a mudiadau. Mae hyn yn arbennig o bwysig pan fydd datblygiadau y bu brwydro mawr amdanyn nhw mewn cydraddoldeb a chynhwysiant yn teimlo dan fygythiad.

Mae IGLA World (y Gymdeithas Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Rhyngrywiol Ryngwladol) wedi gweithio gydag artist o Chile i gynhyrchu amrywiaeth o ddarluniau sy'n dathlu amrywiaeth fyd-eang ac yn hyrwyddo thema eleni. Gallwch weld rhagor o ddarluniadau a sut i rannu yma.

I gael rhagor o wybodaeth am IDAHOBIT a sut gallwch chi nodi'r diwrnod, ewch i May17.org, ILGA Worldneu  Stonewall.

Mae'r Cyngor yn gweithio'n galed iawn i sicrhau ein bod yn cynnig lle diogel a dymunol i bobl LHDTC+ weithio ac i sicrhau bod Bro Morgannwg yn amgylchedd cadarnhaol a meithringar. Os hoffech chi gymryd rhan yn hyn, neu os oes gennych chi unrhyw awgrymiadau ar sut i wneud pethau'n well, cysylltwch â GLAM, ein Rhwydwaith Staff LHDTC+.

Mae rhai cyrsiau defnyddiol a diddorol hefyd ar gael i'r holl staff ar iDev.

Os ydych chi’n pryderu am wahaniaethu neu aflonyddu, neu os ydych chi am gael rhagor o wybodaeth am sut i adrodd am hyn, gweler polisi cwynion. Cyngor Bro Morgannwg.