Staffnet+ >
Infuse Courses Inspire Innovation
Cyrsiau cydweithredol yn ymdrechu i ysbrydoli arloesedd yn y sector cyhoeddus.
Rhaglen a gynhelir ar draws yr holl Awdurdodau Lleol ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd yw Infuse

Nod Cyn-fyfyrwyr Infuse yw adeiladu rhwydwaith arloesi cefnogol gydag ystod amrywiol o safbwyntiau a phrofiadau awdurdodau lleol gan gynnwys Cyngor Bro Morgannwg.
Gan ysbrydoli arloesedd a chydweithio, nod y cyrsiau yw dod â meddyliau miniog ynghyd mewn un lle i edrych ar ddyfodol gwasanaethau cyhoeddus a sut y gellir gwella'r rhain trwy drafodaethau creadigol a throchol. Gellir gweld enghreifftiau o'r rhain ar dudalen Gwasanaeth/Gwas Cyhoeddus yr 21ain Ganrif.
Prif nod y cwrs yw meithrin perthynas waith gyda chydweithwyr o awdurdodau lleol cyfagos a sefydliadau'r sector cyhoeddus, gan rannu profiadau a helpu eich gilydd i ddod o hyd i ffyrdd arloesol o fynd i'r afael â materion cyfredol ar draws yr holl wasanaethau yn y sector cyhoeddus. I gael rhagor o wybodaeth am y cyrsiau hyn, gallwch danysgrifio i gylchlythyr Infuse.