Digwyddiad GLAM 06 Mehefin - Dewch i ddweud helo a chynllunio ar gyfer Pride

Efallai y byddwch yn cofio ein bod wedi gofyn yn ddiweddar i holl aelodau presennol a phosibl GLAM a chefnogwyr i gyflwyno eu hunain ar gyfer arweinyddiaeth y rhwydwaith.  Diolch i bawb sydd wedi ymateb.  Mae’n bleser gennym nawr gyhoeddi eich tîm arwain newydd.

Cadeirydd newydd GLAM yw Lee Boyland a'r is-gadeirydd yw Carl Culverwell.

Tim Howells yw'r gwirfoddolwr cyntaf i gefnogi a chynghori'r tîm arwain ar ei newydd wedd.  Mae Tim yn edrych ymlaen at helpu pan fydd wedi ymgartrefu yn ei rôl newydd yn y Cyngor.  Byddai'n wych cael mwy o bobl - nid yw'n rhy hwyr i gymryd rhan.

GLAM-LogoHoffem eich gwahodd i gwrdd â'ch Cadeirydd a'ch Is-gadeirydd newydd ar ddydd Mawrth 06 Mehefin yn yr Ystafell Gorfforaethol.  Gallwch alw heibio unrhyw bryd rhwng 2pm a 5pm i ddweud helo, cael gwybod mwy, a rhoi gwybod i ni sut gallwch gefnogi'r rhwydwaith.

Rydym yn gobeithio gweld cymaint ohonoch â phosibl ar 6 Mehefin.  Rydym hefyd yn croesawu aelodau newydd ac aelodau o ysgolion.  Edrychwn ymlaen at gynnal cyfarfodydd yn y dyfodol ar wahanol adegau er mwyn i bobl ar draws gwasanaethau'r Cyngor ac ysgolion allu mynychu.

Mae mis Mehefin yn Fis Pride felly gobeithiwn eich cynnwys yn rhai o weithgareddau cynllunio Pride ar 6 Mehefin – dewch â phapur a phennau ysgrifennu!

Os hoffech chi gymryd rhan yn hyn cysylltwch â GLAM, ein Rhwydwaith Staff LHDTC+.