Pythefnos Gofal Maeth

Foster Wales LogoYn y Pythefnos Gofal Maeth hwn, 15 - 28 Mai, bydd Maethu Cymru a'r Rhwydwaith Maethu yn defnyddio'r thema 'cymunedau maethu' i ddathlu'r gwahaniaeth cadarnhaol y mae gofalwyr maeth awdurdodau lleol wedi'i wneud i fywydau plant.

Mae'r Fro yn un o 22 o wasanaethau maethu Awdurdodau Lleol Cymru, gan gydweithio i adeiladu dyfodol gwell i blant lleol.

Mae tîm Maethu Cymru Bro Morgannwg yn gweithio'n galed i sicrhau bod gofalwyr maeth yn y Fro yn cael eu cefnogi, eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, a'u bod yn cael y dysgu a'r datblygiad angenrheidiol i fod y gorau y gallant fod.  

I ddathlu #FCF23, yn ddiweddarach yr wythnos hon, mae'r tîm yn cynnal Digwyddiad Cydnabod i ddiolch a chydnabod pob un o ofalwyr maeth y Sir.

Gallwch ddysgu mwy am faethu ym Mro Morgannwg ar wefan Maethu Cymru.