Wythnos Cynhwysiant Pobl Ddu 2023

Mae Wythnos Cynhwysiant Pobl Ddu yn ddigwyddiad blynyddol sydd â’r nod o ddathlu ac amlygu pwysigrwydd cynhwysiant a chynnydd pobl ddu, a rhoi sylw i leisiau Du, a’u chwyddo, ledled y Deyrnas Unedig. Mae Wythnos Cynhwysiant Pobl Ddu eisiau dod ag unigolion, sefydliadau, a chymunedau ynghyd i gydweithio er mwyn adeiladu cymdeithas deg a chyfiawn. Pwysleisir hyn gan thema eleni, Gweithredu Gyda'n Gilydd.

 

Black inclusion week 2023 logo

Nodau Wythnos Cynhwysiant Pobl Ddu 2023 yw:

  • Ein gwneud ni'n gryfach fel un gymuned gyda'n gilydd

  • Creu ymrwymiad at newid

  • Dathlu pobl ddu mewn cymdeithas

  • Grymuso pawb a hwyluso cynnydd

  • Ein cysylltu ni i gyd drwy gydweithredu

Dysgwch fwy ar wefan Wythnos Cynhwysiant Pobl Ddu.

Gallwch hefyd weld manylion am ystod o ddigwyddiadau amrywiol a difyr i ddathlu cydweithredu Wythnos Cynhwysiant Pobl Ddu.

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi derbyn statws Awdurdod Arloesi Race Equality Matters (REM) i gydnabod ei waith yn mynd i'r afael ag anghydraddoldeb hiliol drwy greu Mannau Diogel.  Mae dod yn Awdurdod Arloesi’n golygu bod y gwaith y mae'r Cyngor wedi'i wneud wedi arwain at newid ac effaith drwy’r sefydliad cyfan, gan fynd i'r afael ag anghydraddoldeb hiliol a dod yn sefydliad mwy amrywiol, cynhwysol a chyfartal. 

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi ymrwymo i hyrwyddo cynhwysiant ac annog amrywiaeth ymhlith ein staff. Rydym am i'n gweithlu gynrychioli pob rhan o gymdeithas. Gallwch helpu i ddatblygu diwylliant gweithle mwy cynhwysol drwy ymuno â'r Rhwydwaith Staff Amrywiol.  Mae’r Rhwydwaith Staff Amrywiol yn hyrwyddo gweithle cynhwysol sy'n dathlu ei gymuned a'i weithlu amrywiol.

Mae croeso i bob aelod o staff ymuno â'r rhwydwaith a chefnogi ei genhadaeth i helpu'r Cyngor i ddod yn gyflogwr o ddewis i bobl o gymunedau amrywiol. I ymuno, cwblhewch y ffurflen aelodaeth ar-lein.


Yn rhan o'r genhadaeth hon, nod y grŵp yw:

  • Cael effaith gadarnhaol ar gydweithwyr o gymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn y gweithle

  • Codi ymwybyddiaeth gyffredinol o'i waith, a’i wneud yn weladwy

  • Creu amgylchedd cymdeithasol a chefnogol

Mae sefydlu'r rhwydwaith yn gam tuag at ddechrau'r sgwrs am gydraddoldeb hiliol yn y Cyngor mewn ffordd adeiladol ac agored a dangos y gall sgyrsiau anghyfforddus arwain at newid gwirioneddol.

Os ydych chi’n pryderu am wahaniaethu neu aflonyddu, neu os ydych chi am gael rhagor o wybodaeth am sut i adrodd am hyn, gweler polisi cwynion Cyngor Bro Morgannwg.