Staffnet+ >
Yr Wythnos gyda Marcus 17 Mawrth 2023

Yr Wythnos gyda Marcus
17 Mawrth 2023
Annwyl gydweithwyr,
Mae Rob ar wyliau blynyddol heddiw, felly mae wedi pasio'r pen, neu'r bysellfwrdd, ‘mlaen i fi ar gyfer y crynhoad wythnosol ac, i'r rhai ohonoch sydd ddim yn fy nabod i, fi yw'r Cyfarwyddwr Lleoedd, cyfarwyddiaeth sy'n cynnwys cynllunio a rheoli adeiladau, adfywio, yr economi, cefn gwlad a thwristiaeth, ond i enwi rhai. Byddaf yn dechrau gydag ychydig o newyddion gan fy nghydweithwyr yn Lleoedd.

Mae dwy gronfa grant gymunedol newydd wedi’u lansio'r wythnos hon i helpu i gefnogi gweledigaeth y Cyngor o Gymunedau Cryf â Dyfodol Disglair. Y gyntaf yw'r Gronfa Grant Cymunedau Cryf. Nod y gronfa yw gwella gwytnwch grwpiau a diogelu gweithgareddau cymunedol gwerthfawr. Ariannodd y cynllun rhagflaenol rai prosiectau a gafodd adborth arbennig o dda, gan adeiladu cysylltiadau gwych rhwng y Cyngor a'i gymunedau, does gen i ddim amheuaeth y bydd hon yr un mor llwyddiannus. Yn rhedeg ochr yn ochr â'r gronfa hon rydym hefyd wedi agor y cynllun Grant Ffyniant Cyffredin i gefnogi prosiectau cymunedol mwy, yn enwedig rhai sy'n canolbwyntio ar gyflogaeth, teithio, prosiectau diwylliannol a threftadaeth leol, neu gyfleoedd i wirfoddoli.

Mae datblygu a gweinyddu'r cynlluniau hyn yn broses gymhleth, ac yn aml yn un sydd wedi’i chyfyngu gan amserlenni allanol. Mae llawer iawn o waith i'w wneud hefyd ar ôl iddynt gael eu lansio i helpu i gefnogi grwpiau cymunedol i gynhyrchu eu cynlluniau busnes. Fodd bynnag, nid oes modd tanbwysleisio'r effaith ar adeiladu cymunedau cryf. Fel bob amser, mae ein cydweithwyr yn Lleoedd wedi gwneud gwaith gwych yn dod â'r gwahanol elfennau at ei gilydd. Diolch i bawb a gymerodd ran.

Ar bwnc prosiectau cymunedol llawr gwlad, yr wythnos hon mae'r Cyngor wedi bod yn dathlu gwaith anhygoel gwirfoddolwyr yng Ngardd Gymunedol CF61 GGM fel rhan o Wythnos Ymwybyddiaeth Compost y DU. Gan ddefnyddio gwastraff bwyd ailgylchedig y sir, mae gwirfoddolwyr CF61 wedi datblygu systemau compostio gan ddefnyddio bin compost a baeau compost a grëwyd o baletau pren. Yr wythnos hon, mae gwirfoddolwyr wedi bod yn brysur yn creu abwydfa a fydd yn cael ei defnyddio i gynhyrchu compost a bwydydd planhigion. Wedi’i halinio’n daclus gydag agenda Prosiect Sero’r Cyngor, nod yr ardd, sydd wedi ei lleoli yng Nghanolfan Gymunedol CF61 GGM yn Llanilltud Fawr, yw creu lle i'r gymuned ei fwynhau ac annog trigolion i helpu i gynnal a gwella eu cymuned. Enghraifft ardderchog o waith partneriaeth.
Ar ran Rob a gweddill yr UDA hoffwn ddweud diolch i'r cydweithwyr hynny a gynhaliodd ddwy sesiwn galw heibio gymunedol yn Llanilltud Fawr dros y pythefnos diwethaf. Cyn hir bydd y gwaith adeiladu'n dechrau ar gynllun hynod arloesol a phwysig i ddarparu cartrefi dros dro i ffoaduriaid Wcreinaidd ar gyn-safle Ysgol Gynradd Eagleswell. Mae'r cynlluniau wedi ennyn llawer o ddiddordeb yn lleol ac felly treuliodd cydweithwyr o'n timau Tai a Chyfathrebu ddeuddydd yn siarad â thrigolion lleol am y cynlluniau.
Dim ond un o'r nifer o ffyrdd y mae'r Cyngor yn cefnogi ffoaduriaid. Bydd y datblygiad yn croesawu ei deuluoedd cyntaf yn ddiweddarach eleni. Yn y cyfamser, mae ein Tîm Cymorth Wcráin yn gobeithio denu lletywyr dros dro newydd i deuluoedd Wcreinaidd sydd wedi cyrraedd Cymru, ar ôl ffoi rhag y gwrthdaro parhaus yn Wcráin. Gofynnir i letywyr ymrwymo i 6 mis o letya a bydd ganddynt hawl i daliad diolch misol o £500. Mae'r tîm wrth law i gefnogi lletywyr ar bob cam o'u gwaith hynod werthfawr i integreiddio ein gwesteion i fywyd yn y Fro. Os hoffech wybod mwy yna gallwch gysylltu â'r tîm yn uniongyrchol.
Gyda chyfradd newydd y Dreth Gyngor wedi'i chytuno yr wythnos diwethaf, ddydd Llun dechreuodd un o gyfnodau prysuraf y flwyddyn i'n cydweithwyr sy'n gweithio yng Ngwasanaethau’r Trysorlys ac yng Nghanolfan Gyswllt Un Fro. Mae dros 60,000 o filiau wrthi’n glanio ar fatiau drws neu mewn mewnflychau ar hyd a lled y Fro ac yn naturiol mae hyn yn arwain at lawer o ymholiadau i'n tîm Treth Gyngor. Ochr yn ochr â hyn mae tua 10,500 o hysbysiadau budd-daliadau wedi'u hanfon i'r trigolion hynny sy'n derbyn Budd-dal Tai a Gostyngiad y Dreth Gyngor, gan gadw ein tîm Budd-daliadau yn brysur iawn. Mae Ardrethi Busnes yn llawn mor brysur hefyd, wedi cyhoeddi bron i 4000 o filiau i berchnogion busnesau. Mae'r timau'n cael eu cefnogi gyda’r galwadau gan Ganolfan Gyswllt Un Fro a, gyda'i gilydd, mae hyn yn golygu bod nifer fawr o'n cydweithwyr yn eithriadol o brysur yn siarad â chwsmeriaid ar hyn o bryd. Hoffwn ddweud diolch ar ran yr holl sefydliad am eu gwaith fel y pwynt cyswllt cyntaf i gynifer o bobl.
Hoffwn roi sylw arbennig i Ronnie Alder, un o'n Swyddogion Lles yn Cysylltiadau Cwsmeriaid. Ysgrifennodd un o'n cwsmeriaid yn ddiweddar i ganmol y gefnogaeth yr oedd hi wedi'i darparu, gan ddweud, "Fe wnaeth ei charedigrwydd argraff fawr iawn arna i, gyda'i hagwedd broffesiynol a'i phenderfyniad i wneud i rywbeth ddigwydd. Drwy gydol fy ngyrfa dydw i erioed wedi cwrdd ag unrhyw un sydd ag agwedd mor ystyrlon at fater ac ar ôl pob sgwrs gyda Ronnie ro’n i'n teimlo'n well. Mae hi'n glod i'w phroffesiwn a'ch gwasanaeth."
Mae’r tîm wedi dweud wrtha i ei bod hi wir yn mynd yr ail filltir ar bob achos y mae hi'n delio ag ef, ac nad dyma'r cwsmer cyntaf i ysgrifennu atom ni i ddiolch iddi. Mae clywed am ei hymdrechion yn fy ngwneud i’n falch o weithio ochr yn ochr â rhywun sydd mor benderfynol o wneud gwahaniaeth i fywydau pobl. Diolch, Ronnie.
Yr haf diwethaf, bu ein tîm Byw'n Iach yn gweithio gyda'n Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd a chyfres o grwpiau lleol i greu amserlen lawn o weithgareddau am ddim i blant a phobl ifanc fel rhan o'n Haf o Hwyl. Mae adroddiad canmoliaethus bellach wedi ei gyhoeddi ar y rhaglen, a welodd bron i 20,000 o bobl yn mynychu ar hyd yr haf. Mewn cyfnod o gostau byw cynyddol, bydd hyn wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i nifer o deuluoedd. Gallwch ddysgu mwy am yr hyn a wnaeth y cynllun yn gymaint o lwyddiant ar StaffNet+ nawr.
Hoffwn orffen gyda chanmoliaeth i rai o'r timau yn y gyfarwyddiaeth Lleoedd. Os byddwch chi’n ymlacio o flaen y teledu y penwythnos hwn, mae'n bosib iawn y gwelwch chi Barc Gwledig Cosmeston. Mae'r parc yn rhan o gyfres newydd Dan Snow, Black Death, ar Channel 5. Gwasanaethodd y pentref canoloesol fel lleoliad ar gyfer sawl golygfa, gyda nifer o'n staff a'n gwirfoddolwyr hefyd yn ymddangos fel dioddefwyr y pla du. Hefyd, dros ddwy flynedd yn ôl croesawodd y parc y ffotograffydd bywyd gwyllt a'r cyflwynydd Simon King. Treuliodd Simon oriau lawer yn ffilmio'r Gwyachod Mawr Copog yn y parc a bydd rhai o'r lluniau yn ymddangos yn y gyfres BBC newydd, Wild Isles. Gobeithio y cewch chi i gyd gyfle i weld gwaith ein tîm Cefn Gwlad ar y sgrin.
Yn olaf, bydd y sawl sydd wedi bod i Barc Porthceri wedi gweld y parc chwarae newydd yn cymryd siâp, fel y gallwch weld o’r lluniau o’r gwaith. Rwy'n siŵr y cytunwch y bydd hyn yn gwella'r cyfleusterau yn y parc gwych hwn yn sylweddol.
Diolch wrth gwrs i'r holl staff sy'n cadw nid yn unig ein parciau gwledig, ond lleoliadau ar draws y Fro, mewn cyflwr cystal. Diolch yn fawr bawb.
Gobeithio y cewch chi i gyd benwythnos hyfryd. Diolch ar ran y Cyngor i bawb am eu gwaith caled yr wythnos hon.
Marcus.