Diwrnod Gwelededd Trawsryweddol
Mae 31 Mawrth yn Ddiwrnod Rhyngwladol Gwelededd Traws. Mae'r diwrnod hwn yn ymroddedig i ddathlu pobl draws gan godi ymwybyddiaeth hefyd o'r gwahaniaethu, anfantais a’r rhagfarn sy'n wynebu pobl draws ac anneuaidd ar draws y byd. Mae Diwrnod Gwelededd Traws hefyd yn rhoi cyfle i gydweithio i wneud i bobl draws deimlo eu bod yn cael eu gweld, eu deall, a'u diogelu.
Ar Ddiwrnod Gwelededd Traws, gadewch i ni oedi i gydnabod a chymeradwyo'r bobl sy'n byw'n ddilys fel nhw eu hunain gyda dewrder. Gadewch i ni ddathlu eu gwytnwch yn wyneb y gwahaniaethu a'r cam-drin trawsffobig a geir yn y cyfryngau asgell dde a’r cyfryngau cymdeithasol.
Mae Diwrnod Gwelededd Traws yn bwysig iawn yn ein hatgoffa bod pob person yn haeddu cael ei drin ag urddas, waeth beth yw ei hunaniaeth neu fynegiant rhywedd. Mae'n amser i ddathlu amrywiaeth ac i weithio tuag at fyd lle mae pob person yn cael ei dderbyn, ei barchu, a'i werthfawrogi am bwy ydyn nhw.
Gallwch ddarllen myfyrdodau person traws ar Ddiwrnod Gwelededd Traws yma
Gwelededd traws
Lluniodd Stonewall eu hadroddiad ‘Rainbow Britain’ ym mis Tachwedd 2022 yn seiliedig ar arolwg gan Ipsos o dros 2000 o bobl. O'r arolwg hwn, dywedodd llai na 2% o'r ymatebwyr eu bod yn draws.
Mae'r diagram canlynol yn dangos cysylltiadau traws y bobl yn yr arolwg.

Mae set ddiddorol arall o ganlyniadau yn hidlo hyn fesul oedran gyda chenedlaethau hŷn wedi cael mwy o gyfle o fod wedi cwrdd â pherson traws dros amser, a chenedlaethau iau yn cael mwy o gyfle o ganlyniad i welededd. Yn y bôn, mae pobl iau yn fwy tebygol o fod â chysylltiadau dwfn â phobl draws sy'n adlewyrchu’r ffaith bod pobl draws yn fwy gweledol.
Gallwch ddarllen yr adroddiad llawn yma neu www.stonewall.org.uk/resources/rainbow-britain-report-2022
Darn pwysig arall o waith gan Stonewall yw eu hymgyrch Gwahardd Therapi Trosi. Nod therapi trosi yw dileu gwelededd pobl draws yn ogystal â llawer o bobl LHDTC+ eraill. O'r herwydd, mae'n hollbwysig meddwl amdano ar Ddiwrnod Gwelededd Traws. Am fwy o fanylion am yr ymgyrch yn ogystal â ffilm sy'n procio'r meddwl, ewch i Gwahardd Therapi Trosi | Stonewall
Beth rydym yn ei wneud?
Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi ymrwymo i fod yn lle diogel, cynhwysol a chroesawgar i bobl fyw, gweithio a mwynhau.
Yn ddiweddar, cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus trwy’r porth Cymryd Rhan ar y Pecyn Cymorth Trawsryweddol i Ysgolion. Cynhaliwyd ymgynghoriad hefyd gydag ysgolion, llywodraethwyr, rhwydweithiau staff a grwpiau gan gynnwys y Fforwm Ymgynghorol Cydraddoldeb.
Mae gennym adnodd Pontio yn y Gwaith a Chwestiynau ac Atebion ar faterion traws. Gallwch ddod o hyd i'r rhain drwy chwilio ar Staffnet.
Rydym yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau cydraddoldeb ac amrywiaeth ar iDev gan gynnwys Ymwybyddiaeth Traws a Hunaniaeth Rhywedd y gallwch gael mynediad ato ar unrhyw adeg i ddatblygu eich gwybodaeth a'ch dealltwriaeth, a helpu i gyfrannu at weithle mwy cynhwysol.
Beth gallwch chi ei wneud?
Bod yn gynghreiriad gweladwy. Gallech ymuno â GLAM, rhwydwaith staff Cyngor Bro Morgannwg ar gyfer staff a chynghreiriaid LHDTC+. Gallech wisgo laniard neu fathodyn enfys. Gallech gynnwys eich rhagenwau yn eich llofnod e-bost – gall hyn ei gwneud hi'n haws i eraill rannu eu rhagenwau hefyd.
Gallech ddathlu Diwrnod Gwelededd Traws trwy wrando ar bodlediadau traws, darllen gweithiau gan awduron traws, gwylio rhaglenni dogfen am bobl draws, a dysgu mwy am bobl traws ar draws y byd. Mae rhai syniadau gwych yma
Dyma rai awgrymiadau eraill –
Parchu enwau a rhagenwau - Peidiwch â gofyn i berson traws neu anneuaidd beth yw ei enw "go iawn". Parchwch yr enw a'r rhagenwau y maent wedi gofyn i chi eu defnyddio. Os gwnewch gamgymeriad, ymddiheurwch, cywirwch eich hun a symudwch ymlaen. Os nad ydych yn siŵr pa ragenwau i'w defnyddio, mae'n iawn gofyn - ond rhannwch eich rhagenwau eich hun hefyd.
Osgoi rhagdybiaethau - Nid yw pobl draws ac anneuaidd i gyd o’r un pryd a gwedd, ac nid oes rhaid i chi fod o bryd a gwedd benodol i fod o ryw benodol. Efallai na fydd mynegiant rhyw person – h.y. ei ddillad, ei lais, ei foesau, neu agweddau eraill ar ei ymddangosiad – bob amser yn adlewyrchu ei hunaniaeth rhywedd yn y ffordd y gallech ddisgwyl.
Gwrando ar bobl draws am eu hunaniaeth a'u profiad ac ymddiried ynddynt - Y person traws neu anneuaidd yw'r arbenigwr ar ei brofiadau ei hun. Nid oes un ffordd "gywir" o fod yn draws; mae gan bob person traws brofiad unigryw. Mae rhai pobl draws yn profi dysfforia rhyw; dyw eraill ddim. Mae rhai pobl draws am drawsnewid yn feddygol; dyw eraill ddim.
Cefnogi pobl draws i ddefnyddio'r ystafelloedd ymolchi y maent am eu defnyddio - Mae cefnogi ac eirioli dros ystafelloedd ymolchi sy'n niwtral o ran y rhywiau yn ffordd wych o helpu. Gall ystafelloedd ymolchi niwtral o ran y rhywiau fod yn opsiwn mwy diogel i bobl draws sy'n ofni profi trawsffobia mewn ystafelloedd ymolchi deuaidd; maent hefyd yn gynhwysol i bobl anneuaidd.
Byddwch yn ofalus ynghylch cyfrinachedd a "dod â rhywun allan" - Mae rhai pobl draws yn teimlo'n gyfforddus yn dweud wrth eraill am eu hanes o ran rhywedd; dyw eraill ddim. Os bydd rhywun yn dod allan i chi fel rhywun traws neu anneuaidd, peidiwch â rhannu'r wybodaeth hon ag eraill heb eu caniatâd. Gadewch iddyn nhw ddewis os a sut maen nhw am ddweud wrth bobl eraill.
Herio trawsffobia - Os ydych chi'n clywed iaith neu jôcs trawsffobig, heriwch nhw. Os clywch rywun yn cam-ryweddu person traws neu anneuaidd, cywirwch nhw a gwnewch yn siŵr eu bod yn gwybod beth yw'r geiriau cywir i'w defnyddio

Mae'r Cyngor yn gweithio'n galed iawn i sicrhau ein bod yn cynnig lle diogel a dymunol i bobl LHDTC+ weithio ac i sicrhau bod Bro Morgannwg yn amgylchedd cadarnhaol a meithringar. Os hoffech gymryd rhan yn hyn, neu os oes gennych unrhyw awgrymiadau ar sut i wneud pethau'n well, cysylltwch â GLAM, ein Rhwydwaith Staff LHDTC+.
Mae rhai cyrsiau defnyddiol a diddorol hefyd ar gael i'r holl staff ar iDev.
Os ydych yn pryderu am wahaniaethu neu aflonyddu, neu os ydych am gael rhagor o wybodaeth am sut i adrodd am hyn, gweler polisi cwynion Cyngor Bro Morgannwg.