Diwrnod Rhyngwladol Prydau Ysgol yw hi heddiw

09 Mawrth 2023

International School Meals Day Poster

Nod y diwrnod yw codi ymwybyddiaeth o faeth da i bob plentyn, ni waeth beth yw eu hamgylchiadau, a'r thema eleni yw 'Ein bwyd newidiol – dulliau, bwydlenni a phrydau bwyd'.

Yng Nghymru, bydd holl blant ysgolion cynradd Cymru yn cael prydau ysgol am ddim erbyn 2024 mewn ymdrech i fynd i'r afael â thlodi plant a sicrhau na fydd yr un plentyn yn llwgu yn yr ysgol.

Ym mis Tachwedd 2022, cafodd Cyngor Bro Morgannwg ei gydnabod am ei 'Ymrwymiad Eithriadol i ddiogelu plant' yng Ngwobrau Cydnabod Bwrdd Diogelu Caerdydd a'r Fro yn ddiweddar.

Ar ôl i'r Fro gofnodi'r derbyniad uchaf o Brydau Ysgol am Ddim yng Nghymru yn ystod mis Medi a mis Hydref 2022, roedd ein Tîm Cymwys ar gyfer Prydau Ysgol Am Ddim (cPYADd) hefyd wedi cipio'r wobr am 'Ymrwymiad Eithriadol i ddiogelu plant' yn y gwobrau.

Yng nghyfnod cynnar y pandemig, aeth grŵp bach iawn o swyddogion ati'u hunain yn wirfoddol i sicrhau bod prydau ysgol am ddim, boed hynny ar ffurf dosbarthu bwyd, taliadau neu dalebau archfarchnadoedd, yn cael eu danfon i ddisgyblion sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim.

Gweithredodd y tîm yn gyflym, gan lwyddo i sicrhau’r 2,000 o dalebau archfarchnad cyntaf yn ystod pythefnos cyntaf y pandemig.

Gweithredodd y tîm yn gyflym, gan lwyddo i sicrhau’r 2,000 o dalebau archfarchnad cyntaf yn ystod pythefnos cyntaf y pandemig.

Dair blynedd yn ddiweddarach, mae gwaith tîm cPYADd y Fro yn parhau i fod yn allweddol i gefnogi ein teuluoedd sy’n agored i niwed.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am Brydau Ysgol am Ddim ym Mro Morgannwg ar ein Hyb cymorth costau byw ar-lein.