Staffnet+ >
Maer Ystadegau Haf o Hwyl wedi cyrraedd
Mae’r Ystadegau Haf o Hwyl wedi cyrraedd!
Yng ngwir ysbryd y Fro, roedd Haf o Hwyl 2022 yn ymdrech gydweithredol enfawr.
Yr haf diwethaf, bu ein tîm Byw'n Iach yn gweithio gyda'n Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd, adrannau mewnol eraill a sefydliadau lleol i greu amserlen llawn hwyl a llawn gweithgareddau am ddim i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed dros fisoedd yr haf.
Mae’r Tîm Datblygu Chwaraeon, Tîm Datblygu Chwarae, Gwasanaeth Llyfrgelloedd, Tîm Twristiaeth a Digwyddiadau, Gwasanaethau Cefn Gwlad, Gwasanaethau Ieuenctid, Gwasanaeth Datblygu'r Celfyddydau, Tîm Dechrau’n Deg a’r Tîm Diogelwch Cymunedol i gyd wedi darparu digwyddiadau ar gyfer y rhaglen.
Mae'r prosiect yn cael ei ystyried yn llwyddiant ysgubol yn dilyn adroddiad canmoliaethus, gyda'r cyfraddau cyfranogi a nifer y sesiynau yn torri record.
Cymerwch olwg ar rai o'r uchafbwyntiau yn ein fideo byr:
Mewn partneriaeth â 130 o dimau a sefydliadau, cyflwynodd y cynllun 147 o weithgareddau ar draws 946 o sesiynau dros 23 ardal yn y Fro, gan gynnwys hel ffosilau, saethyddiaeth, sesiynau chwarae, dosbarthiadau dawns a gweithdai radio.
Nod y gweithgareddau oedd annog pobl i ailymgysylltu â gweithgareddau cymunedol yn dilyn effaith cyfyngiadau Covid, annog gweithgarwch corfforol, cofleidio'r awyr agored a gwella hyder a sgiliau cymdeithasol mewn amgylchedd hwyl, cyfeillgar.
Yn ystod y rhaglen gwnaeth 19,571 o bobl gymryd rhan, a chyda chynwysoldeb wrth galon y cynllun, roedd 24% o'r rhain yn bobl ifanc ag anghenion ychwanegol, anabledd neu nam a 29% yn deuluoedd sy’n cael eu heffeithio gan yr argyfwng costau byw.
Yn dilyn y prosiect Haf o Hwyl, gofynnodd tîm Byw'n Iach y Cyngor am adborth gan gyfranogwyr, ac roedd y rhan fwyaf yn gadarnhaol iawn.
Dywedodd un cyfranogwr: "Roedd e mor wych.
"Roedd cymaint o gyfleoedd gwych.
"Diolch am werthfawrogi ein pobl ifanc."
Dywedodd un arall: "Fyddai hi ddim wedi bod yn bosibl i fi dalu am yr holl weithgareddau hyn.
"Roedd fy mhlentyn naw oed mor gyffrous o wybod ei bod hi’n gallu cymryd rhan mewn gweithgareddau yn hytrach na bod yn sownd yn y tŷ."