Salwch a DiG – pob rheolwr i ddal gafael ar ffurflenni salwch o heddiw ac yna’u mewnbynnu’n uniongyrchol i Fusion o 3 Ebrill.

Oracle-Fusion-Project-Header

Dylai Rheolwyr gadw pob dogfen sy'n gysylltiedig â salwch - gan gynnwys ffurflenni a fyddai fel arfer yn cael eu cyflwyno - o heddiw ac yna eu cofnodi'n uniongyrchol ar y system Oracle Fusion newydd o Ddydd Llun 3 Ebrill, sef y dyddiad gweithredu.

Noder na fydd unrhyw ddogfennau sy’n gysylltiedig â Salwch (e.e. ffurflenni Diwrnod 1, ffurflenni Diwrnod 4, ffurflenni Dychwelyd i’r Gwaith, Nodiadau Ffitrwydd) sy’n cael eu cyflwyno i'r tîm Cyflogres ar ôl 5pm Ddydd Mawrth 21 yn cael eu prosesu gan ddefnyddio'r system bresennol. Bydd pob ffurflen yn cael ei dychwelyd i’r defnyddwyr i'w chyflwyno'n uniongyrchol trwy Oracle Fusion.

Unwaith y bydd y system newydd ar waith ym mis Ebrill, gall yr holl staff gyflwyno gwybodaeth am salwch gan ddefnyddio'r platfform Oracle Fusion newydd. Bydd cyflwyniadau salwch yn cael eu prosesu'n ddigidol o'r dyddiad hwn ymlaen.  

Mae hyfforddiant ar gael ar IDev ar sut i brosesu absenoldebau drwy Fusion.

Cysylltwch â'r tîm drwy’r ddolen isod os oes gennych unrhyw bryderon.

Cysylltwch â'r tîm