Staffnet+ >
Yr Wythnos Gyda Rob 24 Mawrth 2023
Yr Wythnos Gyda Rob
24 Mawrth 2023
Annwyl gydweithwyr,
Gobeithio eich bod chi i gyd yn iawn ar ddiwedd wythnos brysur arall.

Dros y misoedd diwethaf, rydw i wedi siarad llawer am y gyllideb, y sefyllfa ariannol anodd y mae'r Cyngor ynddi a ffyrdd y gallwn oresgyn yr her hon.
Nid yw sefyllfa o'r fath yn ddelfrydol, ond mae'n cynnig cyfle i archwilio ffyrdd newydd ac arloesol o gynhyrchu incwm.
Mae'r Big Fresh Catering Company yn enghraifft wych o hynny fel menter hunangynhaliol sy'n ailfuddsoddi’r warged yn ysgolion y Fro a'r busnes ei hun.
Mae 'na ffyrdd eraill hefyd y mae'r Cyngor yn bod yn greadigol yn ei ymdrechion i godi arian.
Mae un o'r rhain yn cynnwys hyrwyddo adeiladau'r Fro - rhai ohonynt yn eiddo i'r Cyngor - fel lleoliadau priodas.
Lansiodd Rachel Protheroe a'r tîm Gwasanaethau Cofrestru y wefan Eich Seremoni yn y Fro yn 2021, sy'n caniatáu i gyplau weld y lleoliadau ysblennydd sydd ar gael yn y Sir, archebu, ac ychwanegu cyffyrddiadau personol at eu diwrnod mawr i gyd mewn un lle.
Mae gan y Fro amrywiaeth o becynnau seremoni ar gael, o leoliadau hanesyddol, gwledig ac arfordirol trawiadol i leoliadau bach clyd.

Mae ein cofrestryddion yn cynnal seremonïau priodas a phartneriaeth sifil mewn lleoliadau ar draws y Fro ac yn cynnig amrywiaeth o becynnau ar gyfer y Swyddfeydd Dinesig, Llynnoedd Cosmeston, Pafiliwn Pier Penarth, Cytiau Traeth Ynys y Barri a Pharc Gwledig Porthceri.
Mae ein cydweithwyr o Twristiaeth a Chyfathrebu wedi bod yn rhan o'r gwaith cyhoeddusrwydd cysylltiedig, a welodd yr wythnos hon lansiad ymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol.
Da iawn i bawb a fu’n rhan o hyn – gwaith ardderchog. Diolch!
Tra’n bod ni’n siarad am gydweithio, mae'r staff yn Adfywio a Chynllunio wedi bod yn gweithio gyda Chronfa Goffa Richard Taylor a Chwaraeon Cymru i adeiladu Parc Sglefrio newydd yn y Cnap yn y Barri.
Bydd hwn yn strwythur sydd wedi'i ddylunio'n arbennig i gymryd lle'r cyfleuster presennol a enwyd ar ôl Richard, a oedd yn sgïwr a sglefriwr uchel-ei-barch o'r Barri.

Codwyd cyfanswm o dros £400,000 ar gyfer y prosiect drwy gyfraniadau gan Chwaraeon Cymru, cyllid cyfalaf gan y Cyngor, cyllid y Loteri Genedlaethol a rhodd gan Gronfa Goffa Richard Taylor.
Bydd hyn yn helpu i gyflawni dyluniad blaengar a gynhyrchwyd ar ôl ymgynghori'n helaeth â Bendcrete Leisure Ltd a'r gymuned sglefrio leol.
Roed angen ymrwymiad i weithio mewn partneriaeth i gyflawni'r prosiect hwn ac rwy'n siŵr y bydd pawb a fu’n rhan o'r digwyddiad wrth eu bodd gyda'r canlyniad.
Ddiwedd mis Ionawr, fe rannon ni'r newyddion fod Strategaeth a Map Digidol newydd yn cael eu datblygu ar gyfer y sefydliad.
Ers hynny, rydym wedi cynnal cyfres o weithdai gyda dros 100 o gydweithwyr o lefelau amrywiol o'r sefydliad ar draws y pum Cyfarwyddiaeth.
Hoffwn ddiolch i'r rhai ohonoch sydd wedi ymgysylltu â'r broses hon hyd yn hyn. Mae eich mewnbwn yn amhrisiadwy.
Rydym bellach ar y cam lle mae'r Gymdeithas Arloesi, Technoleg a Moderneiddio (SOCITM), sydd wedi cefnogi'r gweithdai, wedi dadansoddi'r wybodaeth a dechrau adrodd canfyddiadau i gydweithwyr.
Byddant hefyd yn dechrau gweithio ar weledigaeth ar gyfer y sefydliad wrth i ni ddechrau ar gam olaf y prosiect.
Byddaf yn parhau i roi’r diweddaraf i chi wrth i’r gwaith pwysig hwn fynd yn ei flaen.
Mae disgwyl i'r llwyth nesaf o newidiadau gwastraff gael eu cyflwyno ganol fis nesaf wrth i'r Cyngor geisio dod yn wyrddach fyth.
Mae newid i gasgliadau Didoli ar Garreg y Drws yn y Fro Wledig a'r Barri dros y blynyddoedd diwethaf wedi gweld ein perfformiad ailgylchu yn cael ei sgorio ymhlith y gorau yng Nghymru, sydd ei hun yn arwain y byd yn y maes hwn.
Nawr, rydym yn dod â'r system honno i Benarth, Dinas Powys, Llandochau, Sili a'r cyffiniau ar Ebrill 17.
O'r dyddiad hwnnw, bydd angen i drigolion yn y lleoliadau hyn drefnu eu hailgylchu i mewn i gynwysyddion ar wahân yn seiliedig ar ddeunydd.
Bydd y cynwysyddion hyn yn cael eu danfon i’r cartrefi perthnasol rhwng dydd Llun 6 a dydd Gwener 14 o Ebrill, ynghyd â thaflen yn egluro'r eitemau y dylid eu rhoi ym mhob un.
Nid yw'r newidiadau'n berthnasol i bobl sy'n byw mewn fflat â biniau ailgylchu a gwastraff cymunedol.
Mae sesiynau gwybodaeth yn cael eu cynnal mewn amrywiaeth o leoliadau cyn y newidiadau, tra bod manylion pellach ar gael ar y wefan.
Rwy'n gwybod bod Colin Smith, y Tîm Gwastraff a chydweithwyr eraill ar draws y Cyngor yn gweithio'n galed i sicrhau bod y newid yn mynd mor esmwyth â phosib.
Bydd y cam hwn yn helpu'r Cyngor i fod hyd yn oed yn fwy ecogyfeillgar ac mae'n rhan bwysig o'n hymrwymiad Prosiect Sero i fod yn garbon niwtral erbyn 2030. Diolch i bawb sydd wedi bod yn rhan o reoli'r broses hon ac rwy'n siŵr y bydd popeth yn mynd yn esmwyth.
O ran newid hinsawdd, rydym wedi bod yn gweithio gyda Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd a Connected Kerb, cwmni sy'n ceisio gwneud trafnidiaeth yn gynaliadwy, i osod pwyntiau gwefru cerbydau trydan ar draws y Fro.
Ar hyn o bryd mae pwyntiau gwefru byw ym:
- Maes Parcio Cliff Parade
- Maes Parcio Knap Terrace
- Maes Parcio Kendrick Road
- Maes Parcio Bron y Môr
- Maes Parcio Neuadd y Dref y Bont-faen
- Maes Parcio Neuadd y Dref Llanilltud
- Maes Parcio a Theithio Cyfnewidfa'r Rhws
- BSC2, Hood Road
Ac mae rhagor o bwyntiau wedi'u cynllunio ar gyfer:
- Maes Parcio Wyndham Street
- Maes Parcio Trwyn Nell
- Parcio Harbour Road
- Maes Parcio Thompson Street
- Maes Parcio Parc Gwledig Llynnoedd Cosmeston
- Maes Parcio Parc Porthceri
- Maes Parcio a Theithio Gorsaf Reilffordd Llanilltud Fawr
- Maes Parcio Aml-lawr Court Road
- Albert Road (y tu allan i Barnums)
- Maes Parcio Wine Street
Mae cyflwyno'r pwyntiau gwefru hyn yn bwysig ac yn tanlinellu ymrwymiad y Cyngor i gynaliadwyedd a gwarchod y blaned.
Er mwyn pwysleisio'r safiad hwnnw ymhellach, yfory (dydd Sadwrn, 25 Mawrth), byddwn yn diffodd goleuadau anhanfodol y tu mewn a'r tu allan i'r Swyddfeydd Dinesig i nodi Awr y Ddaear, mudiad i weithredu ar faterion amgylcheddol.
Gobeithio y mwynhewch chi beth bynnag rydych chi wedi'i gynllunio ar gyfer y penwythnos ac, unwaith eto, diolch yn fawr am eich ymdrechion yr wythnos hon – maent bob amser yn cael eu gwerthfawrogi'n fawr.
Diolch yn fawr iawn,
Rob