Staffnet+ >
Yr Wythnos Gyda Rob 10 Mawrth 2023
Yr Wythnos Gyda Rob
10 Mawrth 2023
Annwyl gydweithwyr,
Yn fwy na’r arfer, mae hon yn teimlo fel wythnos brysur iawn i geisio ei chrynhoi, gyda gwaith gwych yn cael ei wneud ar draws y Cyngor.
Pleidleisiwyd o blaid cynigion y gyllideb mewn cyfarfod Cyngor Llawn nos Lun a byddant yn dod i rym o ddechrau'r flwyddyn ariannol newydd. Gobeithio y byddwch eisoes wedi gweld neges ar y cyd ddydd Iau gan yr Arweinydd a minnau ar y gyllideb. Fel y byddwch yn gwybod o negeseuon blaenorol, er gwaethaf setliad gwell na'r disgwyl gan Lywodraeth Cymru, mae'r Cyngor yn parhau i wynebu sefyllfa ariannol heriol, i raddau helaeth oherwydd yr argyfwng costau byw wrth i brisiau, chwyddiant a chyfraddau llog oll godi'n ddramatig.

Bwriad strategaeth y gyllideb oedd amddiffyn ysgolion a chefnogi gwasanaethau i'r preswylwyr mwyaf agored i niwed yn ystod y cyfnod anodd hwn. Rwy'n credu mai dyma beth rydyn ni wedi'i gyflawni. Bydd cynnydd o 4.9% yn y Dreth Gyngor; cynnydd sydd wedi ei gadw mor isel â phosib am ein bod yn gwerthfawrogi'r pwysau sy'n wynebu aelwydydd ar hyn o bryd. Ochr yn ochr â hyn bydd cynnydd yn y taliadau am rai gwasanaethau anhanfodol. Bu’n rhaid gwneud rhai penderfyniadau anodd hefyd ynglŷn â gwasanaethau oherwydd, yn syml, does dim digon o arian i gynnal y rhain i gyd ar y lefelau presennol.
Cytunwyd hefyd yn yr un cyfarfod ar Gynllun Cyflawni Blynyddol 2023/24. Mae ein sefyllfa ariannol yn un o nifer o ffactorau sy'n gyrru llawer o newid o fewn y sefydliad. Yn y CCB newydd rydym wedi alinio gwaith y Cyngor â'r tair her fwyaf critigol sy'n wynebu cymunedau yn y Fro ac i ni fel sefydliad – costau byw, Project Sero, a gwydnwch sefydliadol.
Gyda'r gyllideb wedi'i chytuno, cyfarfu’r UDA a'r Cabinet ddydd Iau i drafod sut y gallwn gydweithio i gyflawni ar gyfer preswylwyr a chydweithwyr. Buom yn trafod y tair her gritigol, fel y nodir yn y CCB, a'r gweithgarwch galluogol sydd gennym ar waith - pethau diwylliannol a gweithredol, fel ymgysylltiad a lles staff, yn ogystal â defnyddio ac adrodd data. Gyda'n gilydd, cytunon ni ar ein meysydd gwaith y mae angen eu blaenoriaethu a sut y gallwn ni i gyd newid y ffyrdd rydyn ni'n gweithio. Bydd gen i ddiweddariad llawnach ar sut y gallwn gyflawni ein hymrwymiadau CCB yn ystod yr wythnosau nesaf, ond mae un peth yn glir – mae angen i bob un ohonom barhau â gwaith rhagorol y blynyddoedd diwethaf sydd wedi caniatáu i ni drawsnewid fel sefydliad. Bydd angen canolbwyntio o'r newydd ar greadigrwydd ac arloesedd, fel y gallwn ymateb i heriau ariannol yn uniongyrchol wrth barhau i gyflawni dros ein cymunedau.

Dydd Iau oedd Diwrnod Prydau Ysgol Rhyngwladol, ac nid oes enghraifft well o’n harloesi llwyddiannus na sut rydym yn darparu ein gwasanaeth prydau ysgol erbyn hyn. I gydnabod eu gwaith rhagorol drwy gydol y flwyddyn, hoffwn ddiolch i'r tîm yn Big Fresh a'n cydweithwyr yn Dysgu a Sgiliau sy’n gweithio'n agos gyda nhw i ddarparu gwasanaeth rhagorol i'r Fro.

Y llynedd gwnaeth Llywodraeth Cymru ymrwymiad i gynnig prydau ysgol am ddim i bob disgybl cynradd erbyn 2024. Rwy'n falch iawn ein bod ni, yn y Fro, ar y trywydd iawn i gael y gwasanaeth yn ei le ymhell cyn y dyddiad targed hwnnw. Yn wir, ar ôl i'r Fro gofnodi'r lefelau prydau ysgol am ddim uchaf yng Nghymru yn ystod Medi a Hydref 2022, gwnaeth ein Tîm Cymhwysedd Prydau Ysgol Am Ddim (cPYADd) gipio'r wobr am 'Ymrwymiad eithriadol i ddiogelu plant' yng Ngwobrau Diogelu Caerdydd a’r Fro yn fuan wedyn.
Ddydd Mercher, cynhaliodd Cyngor Bro Morgannwg ei ddigwyddiad mwyaf erioed i nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod ym Mhafiliwn Pier Penarth. Dan ofal Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Lis Burnett, roedd y digwyddiad yn cynnwys prif siaradwyr yn archwilio thema'r ymgyrch, 'pam nad yw cyfle cyfartal yn ddigon mwyach'. Gwnaeth gwesteion fwynhau Te Prynhawn wrth glywed perfformiadau cerddorol gan fyfyrwyr o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.
Trefnwyd y digwyddiad merched-yn-unig yn fewnol ac fe'i hariannwyd drwy nawdd. Roedd nifer fawr o'n cydweithwyr yn bresennol. Mae'r adborth ar bob elfen wedi bod yn ardderchog ac roedd y diwrnod yn arddangosfa ddisglair o fenywod gwych o bob rhan o'r Fro. Gallwch ddal i fyny ar rai o'r uchafbwyntiau a dysgu mwy am y materion sy'n cael eu trafod ar StaffNet+ nawr. Diolch i bawb a fynychodd ac a gyfrannodd ar y dydd, a hoffwn ddiolch i Jaci Cilia a weithiodd mor galed yn y dyddiau ac wythnosau cyn y digwyddiad i sicrhau ei fod mor drefnus. Diolch hefyd i’n cydweithwyr eraill yn y pafiliwn - Karen a'r tîm Big Fresh, ein tîm cyfathrebu ac Angela Bobbett a wnaeth, ochr yn ochr â Jaci, helpu i drefnu'r diwrnod ei hun. Diolch pawb.

Yr wythnos hon hefyd cawsom atgoffâd ingol o'r cyfraniad mawr y mae menywod yn ei wneud i fywyd cyhoeddus yn y Fro. Gyda thristwch mawr yr ysgrifennodd yr Arweinydd a minnau i hysbysu cydweithwyr am farwolaeth y cyn-gynghorydd, Anne Moore. Gwasanaethodd Anne fel aelod etholedig am bron i 30 mlynedd gan gamu i lawr cyn yr etholiad diwethaf. Roedd Anne yn wraig i gyn-Arweinydd y Cyngor, Neil Moore, a fu hefyd yn cynrychioli ward Cadoc am dros 30 mlynedd. Unwaith eto hoffwn estyn ein cydymdeimlad dwysaf i Neil, Rhiannon a'u teulu cyfan yn ystod y cyfnod anodd hwn.
Hefyd ddydd Mercher, ces i gyfle i gwrdd â nifer o'n cydweithwyr newyddach mewn sesiwn Croeso i'r Fro fawr. Mae'r sesiynau bob amser wedi bod yn ffordd wych o helpu i greu cysylltiadau rhwng cydweithwyr ac yn gyfle i ni gyflwyno rhai o brif werthoedd y Cyngor i'r rhai sy'n newydd i'r sefydliad. Mae'r holl staff sydd wedi ymuno â'r Cyngor yn 2023 wedi cofrestru ar raglen gyflwyno newydd, sy'n cynnwys cyfle i ymrwymo i ddigwyddiad Croeso i'r Fro. Mae'r rhain bellach yn rhedeg yn fisol, ac roedd sesiwn yr wythnos hon dan ei sang. Diolch eto i bawb a ddaeth. Edrychaf ymlaen at gael gweithio gyda chi yn y dyfodol.

Mae’n bosib y bydd gan gydweithwyr hen a newydd ddiddordeb clywed bod GLAM, ein Rhwydwaith Staff LHDTCRh+ yn gobeithio adnewyddu eu harweinyddiaeth ac yn gwahodd datganiadau o ddiddordeb ar gyfer rolau’r Cadeirydd, Is-gadeirydd a saith Aelod Grŵp Llywio. Mae GLAM yn cynnig cefnogaeth i gydweithwyr LHDTCRh+, yn rhedeg ac yn cymryd rhan mewn digwyddiadau, yn gweithio tuag at welliannau ac yn rhoi adborth i'r Cyngor ar bolisi ac ymarfer. Os hoffech ymuno â GLAM fel aelod neu gynghreiriad, llenwch y ffurflen aelodaeth. Os hoffech fynegi diddordeb yn rolau'r Cadeirydd, Is-gadeirydd neu Grŵp Llywio, e-bostiwch GLAM erbyn 22 Mawrth 2023. Os hoffech gael sgwrs am hyn, cysylltwch â Nicola Hinton neu Elyn Hannah.

Yn olaf, uchafbwynt mawr arall - yr wythnos hon gwelwyd mwy o ganmoliaeth proffil-uchel yn y cyfryngau cenedlaethol i waith ein cydweithwyr. Mae ail gyfres rhaglen ddogfen y BBC, A Special School, yn cael ei darlledu ar hyn o bryd a chyhoeddwyd darn yn tynnu sylw at waith gwych staff yn Ysgol y Deri yn y Sunday Mirror y penwythnos diwethaf. Mae rhaglen y BBC yn dilyn staff a disgyblion ymroddedig yr ysgol o ddosbarthiadau cyn meithrin i Lefel A. Mae ‘na reswm pam ei bod wedi’i chanmol i’r cymylau - os nad ydych chi wedi ei gwylio eto, ffeindiwch hi ar BBCiPlayer cyn ei bod hi'n rhy hwyr. Diolch i Chris Britten, y pennaeth, a'r tîm cyfan yn YYD am eu hymroddiad a'u hymrwymiad ac am ddenu sylw mor gadarnhaol i’r ysgol a'r Fro ac, yn bwysicach, llongyfarchiadau enfawr ar eich enwogrwydd newydd i sêr go iawn y sioe – y disgyblion. Rydych chi wedi creu argraff mor dda, ac yn ysbrydoliaeth.
Diolch i chi i gyd am eich ymdrechion yr wythnos hon. Diolch yn fawr bawb.
Rob.