Staffnet+ >
Yr Wythnos Gyda Rob 03 Mawrth 2023
Yr Wythnos Gyda Rob
03 Mawrth 2023
Annwyl gydweithwyr,
Gobeithio eich bod chi i gyd yn iawn ar ddiwedd wythnos brysur arall.

Gyda Dydd Gŵyl Dewi wedi dod a mynd, mae’r gwanwyn yn sicr ar y gorwel a gobeithio bod y tywydd braf diweddar wedi rhoi hwb i bawb.
Hoffwn ddechrau'r neges hon drwy roi diweddariad arall ar gynigion y gyllideb.
Fel y gwyddoch, mae'r cynigion hyn wedi bod yn gwneud eu ffordd drwy'r system wleidyddol ac fe'u cyflwynwyd hefyd i drigolion drwy ymgynghoriad cyhoeddus.
Cawson nhw eu cymeradwyo gan y Cabinet yr wythnos hon a byddant nawr yn cael eu hystyried gan y Cyngor Llawn ddydd Llun.
Os cânt eu cymeradwyo yn y cyfarfod hwnnw, byddan nhw wedyn yn cael eu gweithredu o fis Ebrill, ar ddechrau'r flwyddyn ariannol newydd.
Rydw i wedi sôn yn flaenorol am ba mor heriol y mae llunio cyllideb y flwyddyn nesaf oherwydd y pwysau ariannol y mae'r Cyngor yn ei brofi.
Mae hynny'n golygu penderfyniadau gwleidyddol anodd, ond hefyd yn creu heriau sylweddol i'r sefydliad wrth weithio i roi cynllun cydlynol at ei gilydd.
Mae Matt Bowmer, Gemma Jones a'r Tîm Cyllid cyfan wedi gweithio'n hynod o galed i gyrraedd y cam hwn. Hoffwn ddiolch iddyn nhw unwaith eto, a’r holl staff a fu’n rhan o'r ymdrech wych hon. Hoffwn ddiolch hefyd i bawb a gymerodd ran yn yr ymgynghoriad.
Yr wythnos hon, cymeradwyodd y Cabinet hefyd y Cynllun Cyflawni Blynyddol (CCB).
Mae'r CCB yn ddogfen gymhleth sy'n nodi blaenoriaethau a bwriadau'r Awdurdod ar gyfer y flwyddyn i ddod.
Mae'n cynnwys camau i gyflawni amcanion lles y Cyngor, sef:
- Gweithio gyda, a thros ein cymunedau
- Cefnogi dysgu, cyflogaeth a thwf economaidd cynaliadwy
- Cynorthwyo pobl gartref ac yn eu cymuned
- Parchu, gwella a mwynhau ein hamgylchedd.
Nod y cynllun yw mynd i'r afael â thair her benodol:
- Yr argyfwng costau byw
- Prosiect Sero – cynllun y Cyngor i fod yn garbon niwtral erbyn 2030
- Hybu gwydnwch sefydliadol
Bydd hi’n heriol cyflawni yn erbyn y Cynllun o ystyried y cyd-destun ariannol, ond mae'n hanfodol ein bod yn cadw ein ffocws ar symud ‘mlaen o ystyried y materion pwysig yn ymwneud â chostau byw cynyddol, yr argyfwng hinsawdd a'n gwydnwch fel sefydliad i helpu a chefnogi ein trigolion a'n cymunedau.

Ddydd Mercher roedd dathliadau Dydd Gŵyl Dewi ar eu hanterth wrth i blant o Ysgol Gynradd Tregatwg ddod i'r Ganolfan Ddinesig i ganu amrywiaeth o ganeuon Cymraeg traddodiadol, gan gynnwys Hen Wlad Fy Nhadau, Calon Lân ac Ar Lan y Môr.
Cafodd y rhain eu perfformio yn y dderbynfa ac Ystafell Cosmeston, lle mwynhaodd y staff fore coffi, gan gynnwys gacennau cri hyfryd Big Fresh.
Hoffwn ddiolch i ddisgyblion a staff Ysgol Gynradd Tregatwg – rwy'n gwybod bod y rhai a fynychodd wedi cael amser gwych. Gwn hefyd i nifer o ysgolion eraill gymryd rhan mewn dathliadau ledled y sir, boed hynny yn yr ysgol ei hun neu yn ein trefi a'n cymunedau. Da iawn bawb. Gobeithio y cawsoch chi i gyd ddiwrnod gwych.
Rydym hanner ffordd trwy Bythefnos Masnach Deg, menter gan y Sefydliad Masnach Deg sy'n rhedeg o 27 Chwefror tan 12 Mawrth ac sy'n ceisio hyrwyddo cynhyrchion Masnach Deg.
Eleni, nod y digwyddiad yw tynnu sylw at y bygythiad brys i ddyfodol y bwydydd rydyn ni'n eu caru a bywoliaeth y bobl sy'n eu tyfu, a hynny wrth iddyn nhw wynebu effeithiau gwaethaf yr argyfwng hinsawdd.

Yn ystod y bythefnos hon a thu hwnt, mae’r Sefydliad Masnach Deg yn gofyn i siopwyr ddewis Masnach Deg a chefnogi'r ffermwyr y tu ôl i rai o'n hoff gynhyrchion.
Bydd gwneud hynny'n helpu i sicrhau eu bod yn cael eu talu'n deg ac yn gallu parhau i ffermio drwy'r cyfnod hynod anodd hwn.
Mae pobl hefyd yn cael eu hannog i feddwl am effaith amgylcheddol eu siopa bwyd oherwydd, yn rhy aml o lawer, mae'r bwyd rydyn ni'n ei fwyta yn teithio pellteroedd mawr - weithiau cannoedd neu filoedd o filltiroedd - i gyrraedd ein platiau.
Fel rhan o'n hymrwymiad Prosiect Sero, sy'n ceisio gwneud yr Awdurdod yn garbon niwtral erbyn 2030, rydym wedi cymryd camau i leihau taith bwyd ledled y Cyngor.
Mae hyn wedi golygu newid i gyflenwyr lleol, rhoi’r gorau i blastigau untro yn y Big Fresh Catering Company a hyrwyddo cynnyrch lleol.

Nesaf, hoffwn roi rhywfaint o gydnabyddiaeth i'r gwaith rhagorol sy'n cael ei wneud i’n helpu i greu Bro sy'n Dda i Bobl Hŷn.
Yn y Fro, mae gennym boblogaeth hŷn fawr y rhagwelir y bydd yn parhau i dyfu yn ystod y blynyddoedd nesaf.
Erbyn 2030, mae disgwyl i nifer y bobl dros 65 oed sy'n byw yn y Fro gynyddu 22% y cant, yr ail gynnydd amcangyfrifedig mwyaf yn unrhyw sir yng Nghymru.
Hefyd mae disgwyl i nifer y bobl dros 80 oed gynyddu 39 y cant.
Gan weithio ochr yn ochr â Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Bro Morgannwg, mae'r Cyngor wedi ymrwymo i gefnogi pobl o bob oed i fyw ac i heneiddio'n dda ar draws y Sir.
Arweinir y gwaith hwn gan Sian Clemett-Davies, a benodwyd yn ddiweddar i rôl newydd, Swyddog Da i Bobl Hŷn.

Mae Siân wedi bod yn cynnwys pobl hŷn yn y broses o ddod yn gymuned sy’n well i bobl hŷn.
Mae hi hefyd wedi cefnogi'r Fforwm Strategaeth 50+ hirsefydlog i ddatblygu calendr prysur o weithgareddau ymgysylltu ar gyfer 2023 a gallwch gysylltu â hi os hoffech gael cefnogaeth Bro sy’n Dda i Bobl Hŷn ar gyfer digwyddiad.
Ar hyn o bryd mae'r Cyngor yn gweithio ar gais, ar ran y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, sy'n ymrwymo'n ffurfiol i wneud y Fro yn lle gwell i bobl hŷn, gan ddefnyddio Canllaw Dinasoedd Byd-eang sy’n Dda i Bobl Hŷn Sefydliad Iechyd y Byd fel model.
Diolch unwaith eto am eich ymdrechion yr wythnos hon, maent bob amser yn cael eu gwerthfawrogi'n fawr. Gobeithio y cewch chi i gyd benwythnos hapus a hwyliog.
Diolch yn fawr iawn,
Rob