Cadwch eich lle ar Gwrs Sgiliau Digidol

Awyddus i ddatblygu eich sgiliau digidol? Mae ein tîm Dysgu Oedolion yn y Gymuned yn cynnal Cyrsiau Sgiliau Digidol am ddim mewn lleoliadau ar draws y Fro.

Mae'r cyrsiau bellach ar gael i staff Cyngor Bro Morgannwg hefyd.

Wrth i seilwaith digidol y Cyngor gael ei ddatblygu, mae mwy o'n gwasanaethau yn symud ar-lein. Bydd y cyrsiau wyneb yn wyneb hyn yn rhoi cymorth a chefnogaeth i chi, gan eich galluogi i gyflawni tasgau digidol yn hyderus.

Mae'r sesiynau yn agored i bawb o bob gallu a byddant yn canolbwyntio ar ddiogelwch ar-lein, sgiliau digidol hanfodol, prosesu geiriau, taenlenni, a chyflwyniadau.

Mewn lleoliadau ar draws y Fro, cynhelir y cyrsiau ar foreau, prynhawniau a nosweithiau i gyd-fynd â’r wythnos waith.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Chanolfan Dysgu Cymunedol Palmerston:

  • 01446 733762