Staffnet+ >
Mae ein Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd eisiau eich adborth
Mae ein Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd eisiau eich adborth!
Mae ein gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd yn gwahodd defnyddwyr gwasanaethau a staff i gwblhau arolwg byr am Newyddlen Rhifyn yr haf eleni.
Y Mynegai gan Teuluoedd yn Gyntaf a chaiff ei weinyddu gan Wasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd y Fro.
Mae'r Swyddog Mynegai yn rhoi llwyfan arbenigol yn y gwasanaeth i ddarparu gwybodaeth ac arweiniad i deuluoedd plant a phobl ifanc (0-18 oed) sydd ag anabledd, angen ychwanegol neu angen datblygol.
Trwy gwblhau ffurflen gofrestru, mae teuluoedd yn cofrestru i'r Mynegai hyd nes bydd eu plentyn yn troi'n 18 oed neu pan fyddant yn symud allan o’r ardal a byddant yn dechrau derbyn cylchlythyr y Mynegai ddwywaith y flwyddyn ac e-fwletinau rheolaidd i'w cadw mewn cyswllt â gweithgareddau a gwasanaethau cymorth ym Mro Morgannwg.
Mae gan y Mynegai dros 1000 o deuluoedd wedi cofrestru â’r Mynegai ac mae'r data a gasglwn wrth gofrestru a thrwy adolygiadau yn ein galluogi i arddangos darlun cliriach o angen yn y Fro, ac mae hyn yn helpu darparwyr i wella gweithgareddau a gwasanaethau lleol lle nodir bylchau.
Ar ôl cyhoeddi rhifyn y Haf eleni yn ddiweddar, mae'r tîm eisiau adborth gan staff a thrigolion ar ei fformat a'i gynnwys, cynnwys a hygyrchedd.