Staffnet+ >
Neges gan yr Arweinydd ar Prif Weithredwr ar y gyllideb
Neges gan yr Arweinydd a'r Prif Weithredwr ar y gyllideb
Annwyl gydweithwyr,
Roeddem am eich diweddaru ar gam olaf y broses o osod y gyllideb, a gynhaliwyd nos Lun.
Pleidleisiwyd o blaid cynigion y gyllideb mewn cyfarfod o'r Cyngor Llawn a byddant yn dod i rym o ddechrau'r flwyddyn ariannol newydd ar 1 Ebrill.
Daw hynny yn dilyn ystyriaeth lawn o'r holl sylwadau a gafwyd yn dilyn cyfnod o ymgynghori cyhoeddus yn ogystal â thrafodaeth gan bob un o bwyllgorau craffu'r Cyngor.
Rydym wedi cyrraedd y cam hwn ar ôl misoedd o waith caled gan gydweithwyr ar draws y sefydliad. Fodd bynnag, hoffem sôn yn benodol am Matt Bowmer, Gemma Jones a llawer o rai eraill yn y timau Cyllid ac Arweinyddiaeth Strategol. Gwaith caled y cydweithwyr hyn sydd wedi ein cael i'r cam hwn ac mae'r ymdrechion yma’n cael eu gwerthfawrogi'n fawr.
Fel y byddwch yn gwybod o negeseuon blaenorol, er gwaethaf setliad gwell na'r disgwyl gan Lywodraeth Cymru, mae'r Cyngor yn parhau mewn sefyllfa ariannol heriol i raddau helaeth oherwydd yr argyfwng costau byw wrth i brisiau, chwyddiant a chyfraddau llog oll godi'n ddramatig.
Prif ffynhonnell incwm y Cyngor yw setliad ariannol gan Lywodraeth Cymru sydd, gan gynnwys cyfraniad o ardrethi busnes cyfun, yn rhoi tua 69 y cant o'r £294 miliwn sydd ei angen er mwyn darparu'r holl wasanaethau. Daw’r 31% sy’n weddill o’r Dreth Gyngor.
Bwriad y gyllideb yw amddiffyn ysgolion a chefnogi gwasanaethau i'r preswylwyr mwyaf agored i niwed yn ystod y cyfnod anodd hwn.
Mae'n cynnwys cynnydd yn y Dreth Gyngor, sydd wedi ei chadw cyn lleied a phosib am ein bod yn gwerthfawrogi'r pwysau sy'n wynebu aelwydydd ar hyn o bryd.
Bydd y Dreth Gyngor yn gweld cynnydd o 4.9 y cant, y disgwylir iddo fod yn llai na'r cynnydd a gyflwynir gan y rhan fwyaf o Awdurdodau Lleol eraill Cymru ac a ddylai olygu bod trigolion y Fro yn parhau i dalu llai na'r cyfartaledd sy'n cael ei godi yng Nghymru.
Roedd angen gwneud rhai penderfyniadau anodd ynglŷn â darpariaeth gwasanaethau gan nad oes digon o arian i gynnal y rhain i gyd ar y lefelau presennol, tra bydd cynnydd hefyd yn y taliadau am rai gwasanaethau nad ydynt yn hanfodol.
Mae'r mesurau hyn yn angenrheidiol wrth i'r Awdurdod geisio pontio diffyg ariannol o £9.7 miliwn.
Bydd arbedion sy'n creu hyd at £7.4 miliwn, ynghyd â'r defnydd gofalus o arian dros ben y Cyngor, sef y cronfeydd wrth gefn, yn helpu i bontio'r bwlch cyllido.
Unwaith eto, diolch enfawr i bawb sydd wedi ein cael ni i'r pwynt hwn. Rydym yn parhau'n hyderus, er gwaethaf y cyfnod heriol hwn, y bydd ein holl gydweithwyr ar draws y sefydliad yn parhau i wneud eu gorau glas dros ein trigolion a'n cymunedau.
Diolch yn fawr iawn,
Lis a Rob.