Staffnet+ >
Digwyddiad DRhM yn Llwyddiant Ysgubol
Digwyddiad DRhM yn Llwyddiant Ysgubol
Cynhaliodd y Cyngor ei ddigwyddiad mwyaf erioed i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod (DRhM) ddydd Mercher 8 Mawrth.
Cafodd y digwyddiad a’i gyfranogwyr yn fenywod i gyd, ei ariannu’n llawn gan y noddwyr - Y Sefydliad Waterloo, ISG, a chyfreithwyr CJCH, ac fe'i cefnogwyd gan Arlwyo Big Fresh. Roedd gwesteion yn mwynhau Te Prynhawn wrth glywed perfformiadau cerddorol gan fyfyrwyr o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.
Dan ofal Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Lis Burnett, roedd y digwyddiad yn cynnwys prif siaradwyr sy'n archwilio thema'r ymgyrch 'pam nad yw cyfleoedd cyfartal yn ddigon mwyach'.
Y siaradwyr oedd Heather Stevens CBE, Cadeirydd Ymddiriedolwyr y Sefydliad Waterloo, Jane O'Leary, Cyfarwyddwr Sector Addysg ISG a Kellie Beirne, Cyfarwyddwr, Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.
Rhannodd pob un o'r menywod a siaradodd eu profiadau o gael eu trin yn wahanol yn y gwaith a goresgyn rhagfarnau i symud ymlaen yn eu gyrfaoedd. A soniodd pob un am eu hymrwymiad i fwrw ymlaen â chyfleoedd teg i fenywod.
Wrth agor y digwyddiad dywedodd y Cynghorydd Burnett: "Gallwn ni edrych yn ôl ar ba mor bell rydyn ni wedi cyrraedd ond mae angen i ni hefyd edrych ar ba mor bell mae rhaid i ni fynd.
"Rwy'n falch iawn bod gennym ni Gabinet a Chyngor cytbwys o ran rhywedd. Rwy'n un o bedwar Arweinydd benywaidd yng Nghymru, sy'n swnio'n dda iawn ond mae yna 22 o awdurdodau lleol."
Ac wrth gloi'r digwyddiad ychwanegodd, "Ni fyddwn ni wedi gallu dod at ein gilydd heddiw i ddathlu heb gefnogaeth hael ein noddwyr a'n siaradwyr sydd wedi bod yn ysbrydoledig. Diolch, beth am wneud hyn eto?", a dderbyniodd gymeradwyaeth frwd.
Mynychwyd y digwyddiad gan staff y Cyngor, aelodau etholedig, partneriaid, disgyblion ysgolion lleol a noddwyr. Dyma oedd ganddyn nhw i ddweud ar y diwrnod.
"Roedd hwn yn ddigwyddiad gwych a oedd yn dathlu cyflawniadau menywod ysbrydoledig o fewn ein sefydliad ac yn gyfle i gwrdd ag eraill sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yn ein cymunedau ehangach a chlywed ganddyn nhw". - Lorna Cross, Rheolwr Gweithredol Eiddo
"Mae'n wych gallu mynychu digwyddiad fel hwn, clywed gan y menywod ysbrydoledig yma a chael pobl ifanc yma gyda ni." - Alex Thomas, Uwch Weithiwr Ymgysylltu Ieuenctid (Cyfranogi)
"Roedd yn lle mor bositif ac ysbrydoledig i fod, ac fe wnes i gymryd cymaint o'r prynhawn yn bersonol ac fe wnes i fwynhau treulio amser yn sgwrsio a rhwydweithio gyda menywod mor anhygoel a hoffus.
"Pasiwch ein diolch i'r Arweinydd am y cyfle i noddi ac i fynychu digwyddiad mor bwysig a threfnus." – Jodi Winter, Uwch Partner, CJCH Solicitors
