Sesiynau Celf er Lles

Mae Breathcreative, mewn partneriaeth â Chyngor Bro Morgannwg, yn cynnal cwrs Celf er Lles wythnosol yn Llyfrgell y Barri, diolch i gyllid gan Gyngor Celfyddydau Cymru a'r Loteri Genedlaethol.
Cynhelir y sesiynau celf ar ddydd Iau ochr yn ochr â'r sesiynau galw heibio i Wcrainiaid sy'n byw yn y Fro.
Yn ddiweddar, cafodd gwaith un artist lleol a ddaeth i'r sesiynau ei ddewis ar gyfer yr arddangosfa 'International Woman' yn yr Oriel Gelf Ganolog yn Y Barri.
Wrth glywed y newyddion da dywedodd yr artist: "Alla i ddim aros i ddweud wrth fy mam. Mae hi wastad wedi credu ynof fi ac yn dweud y bydd fy ngwaith mewn oriel."
Teitl y paentiad a ddewiswyd ar gyfer yr arddangosfa yw 'Gyda'n Gilydd Trwy'r Storm' ac mae'n darlunio golygfa liwgar o bobl yn dal ymbarelau amryliw ynghanol cefndir stormus.
Mae croeso i unrhyw un ddod i’r sesiynau Celf er Lles hyn.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am Breathcreative trwy edrych ar eu gwefan.