Llwybr Bwyd y Fro i lansio yn ddiweddarach yr wythnos hon

Mae Llwybr Bwyd y Fro yn galendr o ddigwyddiadau wedi’u cynllunio i ddod â phobl yn agosach at gynhyrchwyr bwyd a busnesau yn yr ardal leol.
Yn unol ag Addewid Prosiect Sero y Cyngor i leihau allyriadau carbon i sero net erbyn 2030, nod yr ŵyl yw hyrwyddo arferion bwyd cynaliadwy yn yr ardal leol
Mae timau Adfywio Economaidd a Strategaeth a Phartneriaethau Cyngor Bro Morgannwg yn helpu i drefnu'r digwyddiad eleni ynghyd â llwyth o bartneriaethau cefnogol.
Bydd y digwyddiad yn rhedeg o 09 Mehefin tan 18 Mehefin mewn gwahanol ranbarthau ledled Bro Morgannwg, gan gynnwys -
Bydd ymwelwyr a phobl leol yn gallu teithio o amgylch y rhanbarth, gan ymweld yn annibynnol â mwy na deg ar hugain o gynhyrchwyr, bwytai a busnesau eraill sy'n arddangos bwyd sy'n dda i'r hinsawdd a byd natur.
Mae’r ŵyl wedi derbyn cyllid drwy grant ymgyrch Economi Bwyd Da Lleoedd Bwyd Cynaliadwy, a grant 'Arian i Bawb' y Loteri Genedlaethol.
Dywedodd Louise Denham, cydlynydd Lleoedd Bwyd Cynaliadwy yn Bwyd y Fro: "Mae'n gyffrous gweld y cynlluniau ar gyfer Llwybr Bwyd y Fro yn dod at ei gilydd, a dychmygu sut gallai'r llwybr hwn helpu i feithrin gwerthfawrogiad gwell o'n ffermwyr a'n busnesau bwyd lleol - yn ogystal â’r posibilrwydd o greu tir ffrwythlon i fusnesau cynaliadwy dyfu yn y Fro."
Mae rhagor o fanylion am ddigwyddiadau penodol, busnesau sy'n cymryd rhan a sut i archebu tocynnau ar gyfer pob digwyddiad ar gael nawr yn www.valefoodtrail.com