Staffnet+ >
Yr Wythnos Gyda Rob 30 Mehefin 2023
Yr Wythnos Gyda Rob
30 Mehefin 2023
Annwyl gydweithwyr,
Dechreuodd yr wythnos hon gydag ymweliad gan y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chyllid, Rebecca Evans AoS, â Llanilltud Fawr. Daeth y Gweinidog i weld y gwaith rhagorol sy'n cael ei wneud yn y dref a'r cyffiniau gan ein cydweithwyr a'n partneriaid.

Yn gyntaf roedd ymweliad â Crawshay Court a thaith o amgylch datblygiad newydd llety dros dro ar gyfer ffoaduriaid o Wcráin ger safle Eagleswell. Siaradodd cydweithwyr o'n gwasanaeth Tai yn helaeth am y datblygiad arloesol a'n gwaith ehangach i gefnogi teuluoedd Wcreinaidd sy'n byw yn y Fro. Rwy'n gwybod bod y Gweinidog yn arbennig o falch o gwrdd â Shona Ure, ein Harweinydd Tîm Cymorth Ffoaduriaid, a Kristina Ivanashko a Kateryna Hudyma – dwy o'n gweithwyr cymorth a adawodd Wcráin eu hunain y llynedd. Wrth gwrs, mae cynlluniau ar gyfer y cartrefi dros dro newydd a'r safle adeiladu yn drawiadol ond gwnaeth Shona a'r tîm jobyn ardderchog o ddangos gwir ehangder y cymorth y mae’r Cyngor yn ei gynnig.

Ar ôl taith o’r safle adeiladu, aeth y tîm Gweinidogol ymlaen wedyn i ganolfan CF61 yn Llanilltud lle gwnaeth cydweithwyr o'n tîm Polisi gwrdd â nhw. Mae'r gwaith i gefnogi teuluoedd yn Llanilltud trwy'r argyfwng costau byw yn CF61 yn gydymdrech wirioneddol. Roedd cynrychiolwyr o Wasanaethau Gwirfoddol Morgannwg (GGM), Banc Bwyd y Fro, a thîm iechyd cyhoeddus lleol Bwrdd Iechyd Cyhoeddus Caerdydd a'r Fro hefyd yn bresennol. Yn ogystal â chlywed gan Tom Bowring a Phrif Weithredwr GGM, Rachel Connor, siaradodd y Gweinidog â'n Swyddog Polisi, Jo Beynon, am gynlluniau'r Cyngor i ehangu'r ddarpariaeth hon yn y dyfodol ac yn ô pob sôn gadawodd y digwyddiad yn dweud wrth fy nghydweithwyr mai dyma'r union fath o feddwl arloesol y mae'r Fro yn enwog amdano.
Diolch yn fawr iawn i'r holl gydweithwyr hynny a gefnogodd yr ymweliad. Mae digwyddiadau fel hyn yn hynod bwysig wrth sicrhau yn gyntaf fod ein cydweithwyr yn cael y gydnabyddiaeth y maent yn ei haeddu, ond hefyd fod y rhai sy'n gwneud penderfyniadau cenedlaethol yn gwybod yn union ble mae'r gwaith gorau yng Nghymru yn cael ei wneud. Does gen i ddim amheuaeth y cawn gyfle i weithio'n agosach gyda thimau yn Llywodraeth Cymru a chynnig cefnogaeth well fyth i gymunedau yn y Fro o ganlyniad i'r ffordd y cyflwynwyd ein cyflawniadau ddydd Llun.

Wythnos yma yw Wythnos Gwaith Ieuenctid. Nos Fercher roeddwn yn falch iawn o gael fy ngwahodd i - a mynychu - Gwobrau Ieuenctid y Fro, a gynhaliwyd gan Wasanaeth Ieuenctid y Fro, yng Nghlwb Pêl-droed y Barri. Roedd y noson wobrwyo yn ddathliad o gyflawniadau'r bobl ifanc ym Mro Morgannwg a'r rhai sy'n helpu i'w cefnogi i gyrraedd eu potensial.
Mae Wythnos Gwaith Ieuenctid yn gyfle i arddangos a dathlu effaith ac amrywiaeth gwaith ieuenctid yn y Fro. Mae hefyd yn ffordd wych o helpu'r rhai nad ydynt yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc yn uniongyrchol i gael gwell dealltwriaeth o waith ieuenctid a'r gwahaniaeth y mae'n ei wneud i fywydau pobl. Rydw i wedi mwynhau dilyn cyfrifon cyfryngau cymdeithasol Gwasanaeth Ieuenctid y Fro yr wythnos hon wrth iddynt arddangos yr holl gyfleoedd gwych sydd ar gael i bobl ifanc ym Mro Morgannwg ac mae'r rhain yn werth eu gweld os hoffech wybod mwy.

Yn y digwyddiad, cyflwynais y Wobr Gwirfoddolwr Ifanc, sy'n dathlu'r bobl ifanc hynny sy'n rhoi o'u hamser a'u hymroddiad i brosiectau lleol yn wirfoddol. Gwnaeth pawb ar y rhestr fer argraff fawr arnaf fi, ond ymrwymiad yr enillydd Ashleigh Watkins ddaeth i’r brig. Mae hi'n aelod gweithgar o Gyngor Ieuenctid y Fro, prosiect Her Voice Wales (prosiect sydd wedi ennill gwobrau) a'n grŵp Cenhadon Hawliau. Mae Ashleigh hefyd yn aelod o Senedd Ieuenctid y DU, ac arweinydd y grŵp llywio dros Gymru. Mae hi hefyd yn gwirfoddoli gyda'r bwrdd iechyd ac roedd yn allweddol wrth sefydlu cyngor ysgol yn Ysgol Uwchradd Whitmore. Gwnaeth siarad am hyn i gyd gyda hi roi gobaith enfawr i mi ar gyfer y dyfodol, gan fy atgoffa mai'r peth gorau y gallwn ei wneud yn aml fel sefydliad cyhoeddus yw adeiladu gwasanaethau, yn union fel Gwasanaeth Ieuenctid y Fro, sy'n rhoi'r lle a'r sgiliau i bobl fel Ashleigh wneud gwahaniaeth.
Llongyfarchiadau unwaith eto i Ashleigh a'r bobl ifanc eraill a oedd yn fuddugol ar y noson. Roedd y digwyddiad wrth gwrs yn rhoi llwyfan i'r bobl ifanc ond roedd gwobrau hefyd i rai o'n cydweithwyr. Cafodd Tracy Mills ei henwi'n Weithiwr Ieuenctid y Flwyddyn GIF ac enillodd Peter Williams wobr GIF am Ymroddiad Staff.
Cafodd Tracy ei henwebu gan naw person ifanc ar wahân, sy'n dangos pa mor uchel ei pharch yw hi. Mae Tracy wedi helpu llawer o ddisgyblion yn Ysgol Uwchradd Whitmore ac, ar sail nos Fercher, nid gor-ddweud yw datgan ei bod yn helpu i newid bywydau pobl ifanc o fewn a’r tu allan i ddysgu. Mae Tracy yn mynd y tu hwnt i'r hyn a ddisgwylir ganddi ac yn bwysicaf oll yn creu amgylchedd diogel sydd wedi gwneud i bobl ifanc yn eu harddegau edrych ymlaen at dreulio amser gyda hi - sy’n dipyn o gyflawniad.
Mae Pete wedi bod yn rhan o'r gwasanaeth ieuenctid ers 15 mlynedd ac mae wedi dangos ei ymroddiad a chefnogi cannoedd o bobl ifanc. Mae Pete wedi tyfu gyda'r gwasanaeth, gan ddechrau fel gwirfoddolwr cyn dod yn weithiwr ieuenctid, ac erbyn hyn mae’n rheoli sawl prosiect a datblygu cyfleoedd newydd i bobl ifanc. Wrth ei enwebu dywedodd un cydweithiwr, "Rwy'n ddiolchgar fy mod wedi cael y cyfle i weithio gyda chydweithiwr mor gefnogol, caredig a gofalgar. Mae Pete yn mynd yr ail filltir i'r holl bobl ifanc a staff, waeth pa dîm y maen nhw ynddo. Mae Pete yn enghraifft wych o chwaraewr tîm." Mae hyn yn dangos yn glir y gwahaniaeth y mae'n ei wneud gyda'r rhai sy'n defnyddio'r gwasanaeth ac i gydweithwyr y tu ôl i'r llenni. Rydw i hefyd ar ddeall ei fod yn dal y teitl answyddogol Arwr Taenlenni GIF!

Llongyfarchiadau mawr i Tracy a Pete. Mae eu gwobrau yn haeddiannol iawn ac roedd yn wych gallu clywed am eu gwaith. Dylai’r aelodau eraill o dîm GIF a gafodd le ar y rhestr fer - Paige Harvey, Michaela O'Neill, Alex Thomas, a Kelly Hawkes - hefyd deimlo'n falch o'r effaith y mae eu gwaith yn ei chael. Roedd yn wych gweld yr amrywiaeth o brosiectau a chefnogaeth y mae Gwasanaeth Ieuenctid y Fro yn eu cynnig i bobl ifanc a'r effaith gadarnhaol y mae'r tîm yn ei chael. Mae'r gwaith y mae'r tîm yn ei wneud yn wirioneddol anhygoel. Y peth mwyaf trawiadol efallai oedd gweld y berthynas rhwng ein staff a'r bobl ifanc maen nhw'n eu cefnogi. Roedd y cyd-barch a’r ymdeimlad o gydraddoldeb rhwng pobl o wahanol oedrannau yn rhyfeddol. Roedd yn wirioneddol ysbrydoledig cael bod yn bresennol yn y digwyddiad a diolch am ganiatáu imi fod yn rhan o'r dathlu.
Ddoe, mynychais ymweliad safle gyda rhai o'n Haelodau Cabinet i orsaf bŵer Aberddawan sydd wedi cael ei chaffael yn ddiweddar gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd ar ran y 10 awdurdod lleol sy'n rhan o'r rhanbarth. Cawsom drafodaeth am nodweddion allweddol y safle a chynlluniau posibl ar gyfer y dyfodol a thaith o amgylch prif elfennau'r safle. Mae'r safle'n cynrychioli cyfle gwych i Fro Morgannwg a'r rhanbarth ehangach gan ei fod wedi’i gysylltu â'r grid trydan. Mae yna hefyd gyswllt rheilffordd, ac mae wedi’i leoli o fewn y bwa sy'n cynnwys Sain Tathan a maes awyr Caerdydd. Diolch i Christian, Nicola, Ynnir, Jack, Matt a Nigel a roddodd amser o’u bore prysur i roi taith i ni.

Gan edrych ymlaen at yr wythnos nesaf, bydd y broses #AmdanaFi newydd yn mynd yn fyw ar 5 Gorffennaf. Wrth gyflwyno pwyntiau cyswllt chwarterol, rydym yn symud i ffwrdd o'r un cyfarfod #AmdanaFi blynyddol ac yn canolbwyntio ar bwyntiau cyswllt byrrach, mwy rheolaidd, rhwng staff a rheolwyr. Mae'r newid yn seiliedig ar adborth a gawsom gan gydweithwyr a'r bwriad yw y bydd adborth aml a mwy amserol yn helpu pob un ohonom. Gellir cofnodi cynnydd o hyd trwy iDev gan ddefnyddio porthol wedi'i ddiweddaru a'i symleiddio.
Yn olaf, hoffwn ddiolch i'n Hyrwyddwyr Lles am drefnu sesiwn Forest Fika ddoe ym Mharc Porthceri. Mae bod yn yr awyr agored ym myd natur yn gwella ein hiechyd meddwl a'n lles - mae tystiolaeth yn dangos hynny - felly mae defnyddio ein parc gwledig hardd a mynd am dro cylchol ysgafn gyda'n gilydd yn ffordd wych i gydweithwyr dreulio bore dydd Iau. Er bod y dystiolaeth wyddonol ar gyfer manteision coffi a chacen yn llai cymhellol, rwy'n siŵr bod yr elfennau hyn wedi bod yn boblogaidd hefyd.

Mae ein Hyrwyddwyr Lles hefyd yn recriwtio cydweithwyr i ddangos eu cefnogaeth i’r daith Baton of Hope y penwythnos hwn. Mae'r Baton of Hope yn ras gyfnewid debyg i un y ffagl Olympaidd o amgylch y DU. Fe ddechreuodd yn Glasgow ddydd Sul ac mae’n cyrraedd Caerdydd a'r Fro ddydd Sadwrn. Mae'r Baton yn cael ei gario gan deuluoedd sydd wedi colli anwyliaid i hunanladdiad, yn ogystal â goroeswyr hunanladdiad, ymgyrchwyr a ffigyrau lleol sy'n angerddol am leihau stigma o ran materion iechyd meddwl. Mae'r Cyngor yn noddwr rhanbarthol ar gyfer yr ymgyrch a byddwn yn dangos ein cefnogaeth dros y penwythnos. Hunanladdiad yw lladdwr pennaf pobl dan 35 yn y DU. Trwy gydweithio ag ymgyrchoedd fel hyn gallwn leihau'r stigma, a gall pawb ddod yn well am ofyn cwestiynau, gwrando, a chyfeirio pobl at yr help cywir. Gyda'n gilydd gallwn achub bywydau, felly rhowch o'ch amser i ddysgu ychydig mwy am yr ymgyrch.
Fel bob amser rwy’n ddiolchgar am eich ymdrechion yr wythnos hon. Diolch o galon.
Rob.