Yr Wythnos Gyda Rob

23 Mehefin 2023

Annwyl gydweithwyr, 

Oakfield Headteacher, First Minister, Council Leader

Nid wyf yn ymddiheuro bod y neges ddiwedd wythnos hon yn hirach na'r arfer.  Mae llawer wedi digwydd yn ystod yr wythnos, ac mae’r cyfan yn bwysig iawn. Amdani felly.

Roedd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, yn y Fro yr wythnos hon i weld y gwaith rhagorol sy'n cael ei wneud yn Ysgol Gynradd Oak Field wrth ddatblygu ardal goetir yr ysgol. Gwnaed y gwaith gyda chyllid o’r Grant Buddsoddi mewn Coetir (TWIG) ac roedd yn cael ei arddangos gan Dîm Coedwig Genedlaethol i Gymru a Newid yn yr Hinsawdd yn Llywodraeth Cymru.

Ymunodd yr Arweinydd a'r Dirprwy Arweinydd â chydweithwyr o'r ysgol a'n tîm Gwasanaethau Cymdogaeth ar daith o amgylch y safle gyda thîm ECO yr ysgol. Siaradodd Prif Weinidog Cymru â’r disgyblion am eu Prosiect Coetir a menter genedlaethol newydd i gydnabod coetiroedd ledled Cymru, lle bydd ardal yr ysgol yn un o'r cyntaf i gael ei chydnabod.

First Minister and Oakfield Pupils

Rwy'n gwybod y cafwyd argraff enfawr ar Mr Drakeford nid yn unig gan waith ein timau ond holl ethos clwstwr yr ysgol a'r Fro yn gyffredinol. Dylai pawb sy'n cymryd rhan fod yn hynod falch o'u gwaith a'i fod yn cael ei gydnabod gan arweinydd y wlad. Mae'n enghraifft arall o sut rydyn ni’n arwain y ffordd yn y Fro.

Yr wythnos hon rydyn ni wedi bod yn nodi dwy ymgyrch genedlaethol - Wythnos y Lluoedd Arfog ac Wythnos Ffoaduriaid.

Roedd Wythnos Ffoaduriaid 2023 yn teimlo'n arbennig o ingol o ystyried ffocws llawer o'n timau ar ddarparu cefnogaeth y mae mawr ei hangen i'r rhai sy'n ffoi rhag gwrthdaro mewn mannau eraill yn y byd. Mae hefyd yn arbennig o berthnasol o ystyried ein haddewid diweddar i fod yn Sir Noddfa.

Mae'r Fro wedi bod yn noddfa yn y gorffennol, ac yn ystod yr wythnos rwyf i wedi gallu gweld yn uniongyrchol beth rydyn ni’n ei wneud i sicrhau ei fod yn un heddiw ac y bydd yn parhau i fod yn un yn y dyfodol.

Rob and Lis St Athan Support Hub

Ddydd Llun, ymwelodd yr Arweinydd a minnau â'r Gathering Place yn Sain Tathan lle mae cydweithwyr o'n timau Cymunedau am Waith a Thai yn gweithio gyda phartneriaid i ddarparu Hyb Cymorth i ffoaduriaid sydd wedi ymgartrefu yn y pentref yn ddiweddar. Mae’r gwasanaeth yn helpu teuluoedd newydd sydd wedi symud i'r ardal ac yn gwahodd pobl o'r gymuned ehangach i arddangos beth sydd ar gael yn yr ardal leol a'u helpu gyda'u hymholiadau adsefydlu. Gallwch ddarllen mwy am beth wnaethom ei ddysgu ar Staffnet+. Roedd hi'n deimladwy iawn clywed am brofiadau'r rhai oedd yno. Dywedodd un preswylydd a fu’n gweithio i'r Fyddin Brydeinig yn Afghanistan hanes ei deulu o orfod ffoi o Kabul. Ar adegau, roedd yn ddirdynnol ond hefyd yn galonogol clywed am eu gwydnwch a'u gobeithion ar gyfer y dyfodol. Mae pawb sy'n helpu i ddarparu'r gwasanaethau sydd ar gael yn yr Hyb Cymorth yn rhan o'r stori hon a hoffwn ddiolch iddyn nhw i gyd am eu rhan mewn rhoi cyfle i deuluoedd sydd wedi wynebu cymaint o drawma ailadeiladu eu bywydau yma yn y Fro.  Diolch yn fawr bawb.

St Andrew pupils with Cllr Birch, Minister Jane Hutt and Headteacher, Mrs Hallet

Yn gynharach yr un diwrnod, ymwelodd y Cynghorydd Rhiannon Birch, yr Aelod Cabinet dros Addysg, y Celfyddydau a'r Gymraeg, a Paula Ham ag Ysgol Gynradd Saint Andras i weld cyflwyniad gan ddisgyblion yn yr ysgol fel rhan o'u cais i fod yn ysgol noddfa. Dylai'r empathi a'r tosturi a arddangoswyd gan ddisgyblion yn yr ysgol, ac y gwn eu bod yn bodoli ledled y Fro, ein llenwi â gobaith ar gyfer y dyfodol. Hoffwn ddiolch i'r disgyblion am rannu eu gwaith ac i'r pennaeth Mrs Hallet am ein gwahodd i ddod draw.

Menter arall y mae cydweithwyr wedi bod yn gweithio'n galed arni i gefnogi ffoaduriaid i mewn i waith yw'r Pasbort Iaith - eich tocyn i weithio. Mae hwn yn blatfform ar y we sy'n cynnig gwybodaeth ac ymadroddion sy'n berthnasol i waith yn Saesneg, Wcreineg, Arabeg, Pashto a Dari, sef y ddwy brif iaith a siaredir yn Afghanistan. Ar hyn o bryd, mae'r prosiect mewn cyfnod treialu ac mae partneriaid yn ei gynnig fel offeryn ychwanegol i gefnogi ffoaduriaid sy'n chwilio am waith gyda sgiliau Saesneg cyfyngedig. Mae wedi bod yn ymdrech dîm wirioneddol, gan gynnwys cydweithio agos rhwng Cymunedau am Waith a Mwy y Fro a'r tîm Cyfathrebu. Diolch i chi gyd.

Windrush Flag raising at the Civic Offices

Ddydd Iau fe wnaethom ni nodi 75 mlynedd ers Diwrnod Windrush, pan ddaeth dros bum cant o ymfudwyr i Brydain o'r Caribî ar long y Windrush. Nid y rhain oedd y bobl gyntaf o blith y mwyafrif byd-eang i ddod i Brydain, ond roedden nhw'n rhagflaenu’r genhedlaeth o bobl a ddaeth o'r Gymanwlad i Brydain yn y 50au, y 60au a'r 70au i ateb galwad llywodraethau olynol i helpu ailadeiladu gwledydd Prydain ar ôl yr ail ryfel byd. Fe wnaethon nhw greu gwaddol amhrisiadwy i bob agwedd ar fywyd Prydain.

Yma yn y Fro fe wnaethom nodi'r achlysur drwy godi baner Windrush yn y Swyddfeydd Dinesig fore Iau cyn i nifer o gydweithwyr ac aelodau cabinet ymweld ag Ysgol Gynradd Holton Road i weld gwaith celf Prosiect Windrush y disgyblion a chlywed eu cerddi. Diolch yn fawr iawn i holl ddisgyblion a staff Ysgol Gynradd Holton Road am ein croesawu ac i gydweithwyr yn ein timau Cydraddoldeb a Datblygu'r Celfyddydau a'r Rhwydwaith Amrywiol am helpu i drefnu'r digwyddiad.

Ym mis Mawrth pasiodd y Cyngor gynnig a gyflwynwyd gan yr Arweinydd i fod yn Sir Noddfa. Mae bod yn Sir Noddfa yn golygu estyn croeso cynnes i bawb, gan gynnwys ffoaduriaid a cheiswyr lloches. Rydyn ni’n awyddus i ddarparu lle diogel i bawb sy'n ceisio noddfa - a gwneud iddyn nhw deimlo'n rhan o'n cymuned. Mae'r gwaith rydyn ni wedi bod yn tynnu sylw ato yn ystod Wythnos Ffoaduriaid yn dangos cymaint y mae hyn wedi'i ymgorffori eisoes fel ffordd o weithio yn y Fro. Yr hyn sydd wedi fy ngwneud i'n fwyaf balch wrth siarad â chydweithwyr am eu gwaith yr wythnos hon yw bod ein timau'n datblygu ac yn darparu gwasanaethau sy'n cynnig noddfa yn syml gan mai dyma'r peth iawn i'w wneud.

Windrush Day at Holton Primary

Er y bu pwyslais yr wythnos hon ar gefnogi'r rhai sydd wedi eu croesawu i'r Fro ar ôl cael eu gorfodi i ffoi o'u cartref, mae ein cysyniad o noddfa yn ehangach na hyn. Yn gynharach yr wythnos hon cefais neges o ddiolch gan breswylydd a ddangosodd hyn ar waith.

Diolch i Gyngor y Fro am ddarparu mannau cynnes y gaeaf hwn. Defnyddiais i yn bersonol lyfrgell y Bont-faen sawl gwaith. Gan fy mod i wedi ymddeol ac yn byw ar fy mhen fy hun, yn ogystal â darparu lle cynnes a helpodd gyda chostau gwresogi, roedd yr un mor bwysig fel lle i fod o gwmpas pobl eraill. Hoffwn ddiolch hefyd i staff y llyfrgell am eu croeso ac am ddarparu gweithgareddau i'n cadw'n brysur.

Mae sylwadau fel hyn yn dangos pwysigrwydd ac effaith ein gwaith, a sut mae ein staff gwych yn ymgymryd â'u rolau. Diolch yn fawr i bawb yn Llyfrgell y Bont-faen a wnaeth gymaint o wahaniaeth i'r preswylydd hwnnw ac i bawb ar draws y sefydliad sy'n gwneud gwaith sy’n cael yr un effaith.

Bydd yr ymdeimlad hwn o dosturi yn rhedeg drwy'r Strategaeth Noddfa sy’n cael ei datblygu bellach. Bydd y strategaeth yn cydnabod y gwaith rydym yn ei wneud eisoes i greu cymunedau diogel i bawb ac yn nodi camau ychwanegol uchelgeisiol. Nid oes gen i unrhyw amheuaeth y bydd y ffordd yr ydym yn gweithio yn arwain at ein cydnabod yn swyddogol yn Sir Noddfa.

Abi Warburton with the Armed Forces Flag

Mae cefnogi ein lluoedd arfog a'n cyn-filwyr hefyd yn agwedd bwysig ar ein gwaith ac yn un arall sy'n gwneud i bobl sydd wedi symud o rywle arall i wneud i'r Fro deimlo'n gartrefol. Ddydd Iau nododd y Cyngor Wythnos y Lluoedd Arfog yn swyddogol gyda seremoni codi baner, a gynhelir gan y Maer y Cynghorydd Julie Aviet, yn y Swyddfeydd Dinesig. Nid oeddwn i’n gallu mynychu'r seremoni felly diolch i Tom Bowring am gamu i mewn i gynrychioli staff yn y seremoni. A diolch, wrth gwrs, i gydweithwyr yn y Gwasanaethau Democrataidd a wnaeth yr un hen waith gwych o drefnu'r digwyddiad a chydlynu trafodion ar y diwrnod. Rhag ofn i chi ei cholli, gallwch wylio recordiad o'r seremoni, a gafodd ei ffrydio'n fyw ar Facebook ar y diwrnod.

Rhaid i mi hefyd longyfarch Abi Warburton, Swyddog Cyswllt y Lluoedd Arfog, a ddysgodd yn ddiweddar ein bod wedi cyrraedd y rhestr fer yng Ngwobrau Cyn-filwyr Cymru. Mae gwobr Cyflogwr y Flwyddyn yn arbennig o ystyrlon gan ein bod wedi ein henwebu gan gyn-filwyr eu hunain. Pob lwc i Abi a fydd yn mynychu'r digwyddiad gwobrwyo ar 5 Gorffennaf.

Mae cymaint wedi digwydd yr wythnos hon, mae bore Llun yn teimlo fel amser maith yn ôl. Hoffwn orffen neges yr wythnos hon drwy ddiolch i gydweithwyr am ddau ddigwyddiad calonogol a gychwynnodd fy wythnos.

Welcome to the Vale - 23 June - Rob Thomas

Dechreuais ddydd Llun drwy ymuno â'r sesiwn sefydlu Croeso i'r Fro ddiweddaraf ar gyfer rhai o'n cydweithwyr mwyaf newydd yn Ystafell Dwnrhefn yn y Swyddfeydd Dinesig. Mae bob amser yn wych cwrdd ag aelodau newydd o Dîm y Fro a chlywed beth a'u hysgogodd i ymuno â'r Cyngor a'u brwdfrydedd dros eu rolau newydd. Yn ystod y sesiwn gofynnwyd i mi, ynghyd â'r Arweinydd, beth fydden ni’n ei wneud pe bai gennym ni £50 miliwn i ariannu gwasanaethau newydd heb unrhyw rwystrau ac, yn ogystal â bod yn bwnc trafod gwych yn y sesiwn, mae hyn wedi bod yn ein hatgoffa drwy gydol yr wythnos i feddwl am beth allai fod yn bosibl. Diolch i bawb am ei gwneud hi’n sesiwn mor wych a hoffwn groesawu ein cydweithwyr newydd i'r Fro unwaith eto.

Cowbridge Pride - Cariad

Ac yn olaf, diolch i bawb a gefnogodd godi baner Pride y Bont-faen a gynhaliwyd fore Llun hefyd. Denodd y digwyddiad dorf fawr ac roedd yn ddathliad gwych arall o undod i'r Fro. Gwnaed hyn yn bosibl gan ein cydweithwyr, Cyngor Tref y Bont-faen, a thîm o wirfoddolwyr ymroddedig a ddangosodd gyda'i gilydd y gorau o'r gymuned leol. Fel bob amser, Cariad y Fuwch oedd uchafbwynt y sioe. Cafodd sgiliau trefnu'r fuwch enfys argraff fawr arnaf i, tynnais ei sylw at ein tudalen swyddi gwag a phwy a ŵyr efallai y bydd yn rhoi pos ariannol i'r Arweinydd a minnau yn Ystafell Dwnrhefn rywbryd yn fuan.

Diolch unwaith eto i bawb a gefnogodd y digwyddiad ddydd Llun ac ymlaen llaw i Cariad a chydweithwyr a fydd ym mharêd Pride y Bont-faen yfory. Mae’n mynd i fod yn ddigwyddiad gwych. Mae croeso i fwy o wirfoddolwyr bob amser felly mae gennych gyfle o hyd i fod yn rhan o'r diwrnod. Mae'r tîm cymorth yn cyfarfod yng Ngorsaf Dân y Bont-faen am 11:45. Cysylltwch ag un o'r tîm GLAM os hoffech ragor o wybodaeth.

Fel bob amser rwy’n ddiolchgar am eich ymdrechion yr wythnos hon. Diolch yn fawr bawb.

Rob.