Staffnet+ >
Yr Wythnos Gyda Rob 16 Mehefin 2023
Yr Wythnos Gyda Rob
16 Mehefin 2023
Annwyl gydweithwyr,
Brynhawn Mercher mynychais lansiad Cynllun Llesiant newydd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) Bro Morgannwg yng Nghanolfan Gymunedol Tregatwg.

Mae’r BGC yn dod ag uwch-arweinwyr ynghyd o sefydliadau'r sector cyhoeddus a’r trydydd sector ar draws Bro Morgannwg i weithio mewn partneriaeth er dyfodol gwell. Mae’n gorff statudol ac yn un lle mae’r partneriaid wedi ymrwymo i weithio gyda'i gilydd i wella gwasanaethau a llesiant ledled Bro Morgannwg.
Yn y Cynllun Llesiant newydd, rydym yn amlinellu gweledigaeth ar gyfer Bro o ‘gymunedau hapus ac iach yn gweithio gyda'i gilydd i greu Bro deg a chynaliadwy i bawb'.
Cytunwyd ar dri Nod Llesiant newydd i alluogi hyn:
· Bro fwy gwydn a gwyrddach
· Bro fwy actif ac iach
· Bro fwy cyfartal a chysylltiedig
Mae'r rhain yn darparu'r fframwaith ar gyfer y BGC ac yn adlewyrchu'r hyn y mae ein tystiolaeth - y data a barn y cyhoedd - yn ei ddweud wrthym.
O fewn y nodau hyn mae yna dair ffrwd waith â blaenoriaeth:
· Ymateb i'r argyfyngau hinsawdd a natur
· Gweithio gyda'r bobl sy'n byw yn ein cymunedau sy'n profi'r lefelau amddifadedd uchaf
· Bro Sy'n Dda i Bobl Hŷn
Yn amlwg, mae angen amgylchedd iach, pobl iach a chymunedau iach. Mae llawer iawn ar y gweill eisoes i sicrhau hyn ac mae'r gwaith hwn yn adleisio’r blaenoriaethau yng Nghynllun Corfforaethol a Chynllun Cyflawni Blynyddol y Cyngor.

Dewiswyd lleoliad y lansiad fel y gallai pob partner weld gwaith rhagorol menter Big Bocs Bwyd a arloeswyd gan Ysgol Gynradd Tregatwg. Prin welwch chi enghreifftiau gwell o sut y gall gweision cyhoeddus, gwirfoddolwyr a'r gymuned ehangach gydweithio na’r enghraifft yma. Roedd yn wych gweld y plant yn ymwneud gymaint â’r gwaith hwn. Diolch yn fawr iawn i Janet Hayward, Pennaeth Gweithredol yr ysgol a Hannah Cogbill sydd ill dwy wedi gwneud cymaint i sefydlu'r Big Bocs Bwyd a mentrau eraill yn yr ysgol. Diolch o galon.
Mae'r lleoliad hefyd dafliad carreg o'r man lle mae tîm Bro Ddiogelach wedi'i leoli. Mae llawer o bartneriaid yn rhan o'r gwaith cymhleth sy'n ein cadw'n ddiogel ac sy'n cefnogi'r rhai sydd yn aml yn fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau ac roedd yn wych cael y tîm gyda ni yn y digwyddiad.
Roedd y digwyddiad hefyd yn tynnu sylw at waith Bwyd y Fro a phartneriaeth lle mae'r tîm iechyd cyhoeddus lleol yn gweithio gyda sefydliadau gan gynnwys y Cyngor i godi pwysigrwydd bwyd. Efallai bod rhai ohonoch wedi gweld y Llwybr Bwyd sy'n helpu i ddangos i bobl bwysigrwydd meddwl am yr hyn rydyn ni'n ei fwyta, o ble mae'n dod ac effaith bwyd ar ein hiechyd a'n llesiant.
Mae hyn wrth gwrs yn cysylltu'n daclus â'r strategaeth Symud Mwy Bwyta'n Dda sy'n cael ei chyflwyno gan bartneriaid a'n gwaith ehangach ar dynnu mwy o sylw i atal.
Mae bellach yn bwysicach nag erioed ein bod yn gweithio gyda'n gilydd a gyda'n partneriaid a'n cymunedau i ganolbwyntio ar beth sy'n bwysig. Dyma'r hyn y bydd y Cynllun Llesiant newydd yn ein helpu i'w gyflawni ac rwy'n falch iawn bod y cynllun hwn, a fydd yn arwain gwaith sefydliadau ledled y Fro, wedi'i ddatblygu i raddau helaeth gan ein cydweithwyr yn y Cyngor.

Hoffwn ddiolch yn arbennig i Helen Moses, Lloyd Fisher a Jo Beynon. Helen yw Rheolwr Strategaeth a Phartneriaethau y Cyngor ac mae wedi bod ar flaen y gad o ran datblygu'r BGC ers ei sefydlu ac mae wedi gwneud gwaith gwych wrth wneud hynny. Ysgrifennodd Lloyd Asesiad Llesiant y BGC sy'n sail i'r cynllun newydd hwn. Mae ei waith fel Uwch Swyddog Polisi a Data yn allweddol wrth lunio polisi ar bob lefel, ac mae hyn bellach yn ymestyn i holl ranbarth Caerdydd a'r Fro. Jo yw ein Swyddog Polisi ac mae ei hymdrechion yn helpu i gydlynu gwaith partneriaid wedi bod yn hanfodol wrth yrru mentrau fel Canolfan Fwyd Llanilltud Fawr a llawer o agweddau eraill ar ein hymateb i’r argyfwng Costau Byw.
Roedd yn wych bod cymaint o gydweithwyr ar draws y Cyngor wedi gallu mynychu. Helpodd hyn i ddangos y bydd cyflwyno'r Cynllun Llesiant newydd yn ddull tîm go iawn gyda Lorna Cross yn arwain ar waith ynghlwm â rheoli asedau, Lance Carver yn creu cysylltiadau â'r agenda iechyd a gofal cymdeithasol, a Nicola Sumner Smith yn tynnu sylw at y cysylltiadau â gwaith y Tîm Adfywio.

Ar ôl treulio peth amser yn trafod gwaith gwych Ysgol Gynradd Tregatwg yn nigwyddiad y BGC, doedd hi ddim yn syndod gweld yr ysgol, a'r tîm y tu ôl iddi, ar y cyfryngau unwaith eto wrth i'r newyddion dorri Ddydd Iau bod yr ysgol yn un chwech ysgol yn unig yng ngwledydd Prydain i gyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobr Ysgol Orau T4 Education World.
Mae'r ysgol wedi cyrraedd y rhestr fer ymhlith goreuon y byd am oresgyn adfyd. Dan arweiniad Janet Hayward a Hannah Cogbill, sefydlodd yr ysgol siop fwyd talu-hyn-fedrwch yn 2020 sy'n cael ei rhedeg ar y cyd gan ddisgyblion a rhieni. Yn y tair blynedd ers hynny agorwyd golchdy cymunedol a siop wisg ysgol i gefnogi teuluoedd lleol. Mae’r prosiect Big Bocs Bwyd y soniais amdano yn gynharach wedi cael ei ddatblygu'n fodel a ddefnyddiwyd hyd yma gan dros 60 o ysgolion eraill ledled Cymru ac mae rôl newydd Hannah yn ei galluogi i weithio ar draws llawer mwy o ysgolion yn y Barri i adeiladu ar eu gwaith hyd yma.
Mae'r gwaith y mae Janet a Hannah yn ei wneud gyda'u tîm yn enghraifft o'r gwaith anhygoel a hanfodol sy'n digwydd ar draws y Fro. Bydd rhestr fer derfynol yn cael ei chyhoeddi fis Medi ac yna'r enillwyr ym mis Hydref. Rwy'n dymuno’r gorau i bawb sy'n rhan o hyn. Pob lwc i chi i gyd.
Nid rhain oedd yr unig gydweithwyr i dderbyn clod yr wythnos hon. Gwahoddwyd Martine Coles, ein rheolwr tîm Grwpiau sy’n Agored i Niwed, i siarad mewn Cynhadledd Arweinyddiaeth Genedlaethol Dysgu Proffesiynol ar Amrywiaeth a Gwrth-hiliaeth yng Nghaerdydd. Cyflwynodd Martine ei gwaith ochr yn ochr â siaradwyr blaenllaw gan gynnwys yr Athro Charlotte Williams a swyddogion Llywodraeth Cymru. O ganlyniad, gofynnwyd i Martine rannu'r gwaith y mae wedi'i arwain a'i hwyluso mewn ysgolion ledled Bro Morgannwg gydag awdurdodau lleol eraill yng Nghymru fel y gall cydweithwyr ledled y wlad ddysgu o'n harfer gorau. Gwaith gwych Martine.
Wrth edrych ymlaen at yr wythnos nesaf, bydd nifer o ddigwyddiadau ar draws y Fro i nodi Wythnos y Lluoedd Arfog. Canolbwynt ein dathliadau fydd y gwasanaeth a gynhelir yn y Swyddfeydd Dinesig Ddydd Mercher am 10.30am. Bydd y gwasanaeth yn cael ei arwain gan Faer Bro Morgannwg ac mae croeso i'r holl staff fynychu.
Yn olaf, ychydig o bethau i’ch atgoffa.
I ddechrau hoffwn atgoffa'r holl gydweithwyr am yr arolwg teithio staff sy'n cau wythnos i heddiw (23 Mehefin). Mae hwn yn ymarfer pwysig hyd yn oed i staff sy'n gweithio gartref yn bennaf. Bydd y wybodaeth a gasglwn yn ein helpu i adrodd ar ein hallyriadau i Lywodraeth Cymru ac yn rhoi meincnod i ni ar gyfer gwaith lleihau carbon yn y dyfodol. Yn bwysicaf oll, bydd yr arolwg hefyd yn ein helpu i ddeall rhai o'r pethau sy'n atal cydweithwyr rhag defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol ar gyfer gwaith a sut y gallwn fynd i'r afael â'r rhain.
Ddydd Sadwrn yma bydd miloedd yn llenwi strydoedd Caerdydd i ddathlu Pride Cymru 2023. Rwy'n falch y bydd llawer o'n cydweithwyr yn ymuno â'n rhwydwaith GLAM i chwifio'r faner dros y Fro yn yr orymdaith.
Os ydych yn dymuno ymuno â'r tîm, byddwch yn gallu dod o hyd iddynt yng nghornel Heol Eglwys Ioan, gyferbyn â'r castell o 10am cyn i'r orymdaith ddechrau am 11am.
Dyma un o'r ffyrdd y bydd y Cyngor yn nodi Mis Pride. Yr wythnos nesaf, bydd rhwydwaith GLAM yn egluro hanes mis Pride, arwyddocâd Diwrnod Stonewall ar 28 Mehefin, ac yn chwalu rhai mythau am y gymuned LHDTC+.
Bydd mis Pride yn dod i ben gyda Pride yn y Fro ar 30 Mehefin, pan fydd GLAM yn annog timau o bob rhan o'r Cyngor i addurno eu mannau gwaith gyda Baneri Pride a baneri bach i gloi'r dathliad.
Fel bob amser rwy’n ddiolchgar am eich ymdrechion yr wythnos hon. Diolch yn fawr bawb.
Rob.