Staffnet+ >
AmdanaFi - Dull Newydd o gael Pwyntiau Cyswllt Chwarterol
#AmdanaFi: Dull Newydd o gael Pwyntiau Cyswllt Chwarterol
Mae’n bleser gennym gyflwyno ein dull newydd ar gyfer #AmdanaFi. Mae’r broses, a gytunwyd yn ddiweddar gan yr UDA, wedi cael ei theilwra i wella perfformiad a thwf gweithwyr a sicrhau gwerthusiad mwy cynhwysfawr o'n haelodau staff, gyda phwyntiau cyswllt chwarterol bach y gellir eu rheoli trwy'r flwyddyn.
Ym mis Gorffennaf 2023 bydd y dull newydd ar gyfer #AmdanaFi yn cael ei lansio.
Beth sy’n newid?
Wrth gyflwyno pwyntiau cyswllt chwarterol, rydym yn symud i ffwrdd o'r un cyfarfod #AmdanaFi blynyddol ac yn canolbwyntio ar bwyntiau cyswllt #AmdanaFi byrrach, mwy rheolaidd, rhwng yr aelod o'r tîm a’r rheolwr.
Mae'r newid hwn yn caniatáu adborth amlach ac amserol, gan ymgorffori hyfforddiant rheolaidd a sesiynau gwirio sy’n sicrhau bod cynnydd unigolion yn cael ei gydnabod a'i drin trwy gydol y flwyddyn.
Sut olwg fydd ar y broses newydd?
Trwy gydol cylch blynyddol #AmdanaFi, bydd dau bwynt cyswllt chwarterol ffurfiol a dau bwynt cyswllt chwarterol anffurfiol. Byddem yn annog cwblhau bob un o'r pedwar cam, fodd bynnag, nid yw'r pwyntiau cyswllt anffurfiol yn orfodol.
Bydd pwyntiau cyswllt ffurfiol yn cael eu cynnal bob hanner blwyddyn, gyda chyfnodau byrrach i'w cwblhau a byddant yn canolbwyntio ar adolygu perfformiad yn y gorffennol gyda'r bwriad o gytuno ar amcanion y dyfodol, gan ystyried perfformiad, ymddygiad ac anghenion datblygu.
Bydd pwyntiau cyswllt anffurfiol yn ddewisol, ond fel isafswm, anogir aelodau'r tîm i hunan-fyfyrio’n annibynnol ar eu perfformiad a'u dyheadau. Bydd rheolwyr llinell hefyd yn gallu gwneud sylwadau ar fyfyrio’r aelodau o'r tîm, a/neu ei gydnabod, ond ni fydd hyn yn orfodol.
Bydd aelodau'r tîm a'u rheolwr yn cael cyfle i gofnodi perfformiad ar IDev ar fformat diwygiedig i gyd-fynd â'r pwyntiau cyswllt.
Bydd cyfyngiadau amser i bob pwynt cyswllt, fydd yn caniatáu i'r tîm Datblygu a Dysgu Sefydliadol gynnal adroddiadau ar gyfraddau cwblhau o fewn yr amserlenni penodol. Ni fydd gan gyfnodau pwynt cyswllt estyniadau, ond o fewn y cylch #fi o 12 mis bydd pob pwynt cyswllt yn cael ei adael ar agor ar gyfer rheolwyr aelodau o'r tîm neu i ailymweld a’u diwygio yn eu hamser eu hunain. Bydd #AmdanaFi yn cael ei gloi i lawr unwaith bydd y cylch 12 mis wedi dod i ben.
Pam mae #AmdanaFi yn bwysig?
Yn syml, mae pobl sy'n cael eu cydnabod a'u gwerthfawrogi am eu cyfraniad ac sy'n glir am eu disgwyliadau yn ymgysylltu'n well, ac felly'n fwy cynhyrchiol.
Diben #AmdanaFi yw tynnu sylw at y ffordd y mae perfformiad unigolyn yn cyfrannu at gynllun corfforaethol cyffredinol y cyngor. Mae'r pwyntiau cyswllt hyn yn cynorthwyo aelodau staff a rheolwyr i gael sgyrsiau gwerthfawr a chyfnodau adolygu ochr yn ochr â sesiynau wyneb yn wyneb rheolaidd.
Fel sefydliad, rydym yn llawer mwy effeithiol pan fyddwn yn cael trafodaethau rheolaidd gyda'n rheolwyr ac yn gallu mynd i'r afael â materion perfformiad, datblygiad ac anghenion cymorth.
A fydd hyn yn cynyddu fy llwyth gwaith?
Ni fydd dull newydd #AmdanaFi yn cynyddu eich llwyth gwaith. Mae'r pwyntiau cyswllt wedi'u cynllunio i weithio ar y cyd â'r cyfarfodydd wyneb yn wyneb presennol yr ydych yn eu cael gyda'ch rheolwyr llinell.
Yn ystod pob pwynt cyswllt, bydd iDev yn caniatáu i unigolion lanlwytho unrhyw ddogfennau ategol, gan atal dyblygu tra'n darparu pwynt canolog i gofnodi perfformiad.
Gall dogfennau ategol gynnwys sgyrsiau sydd wedi'u cofnodi yn ystod cyfarfodydd wyneb yn wyneb, cyfarfodydd goruchwylio, ardystiadau cyrsiau hyfforddi/datblygu neu dystiolaeth o unrhyw ddatblygiad proffesiynol parhaus (DPP) arall.
Pryd bydd yn newid?
Ni fydd lansio'r broses newydd ym mis Gorffennaf yn golygu llawer o newid yn y broses ar gyfer 2023 a bydd yn flwyddyn bontio yn bennaf.
Ym mis Tachwedd 2023 bydd y cyfnod yn dechrau ar gyfer y pwynt cyswllt cyntaf rhwng Tachwedd - Ionawr 2023-24. Mae'r holl linellau amser yn y nodiadau canllaw ar iDev.