Staffnet+ >
Drop-in service opens to help refugees
Gwasanaeth galw heibio yn agor i helpu ffoaduriaid
Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi partneru gyda nifer o sefydliadau i ddarparu gwasanaeth galw heibio newydd i ffoaduriaid
Mae Cymunedau am Waith wedi trefnu sesiwn galw heibio wythnosol yng nghanolfan gymunedol Sain Tathan ar gyfer y teuluoedd newydd o Afghanistan, ac i drigolion cymuned Sain Tathan helpu ac annog gyda gwaith a hyfforddiant.
Bydd y gwasanaeth yn helpu teuluoedd newydd sydd wedi symud i'r ardal ac yn gwahodd pobl o'r gymuned ehangach i arddangos yr hyn sydd ar gael yn yr ardal leol a'u helpu gyda'u hymholiadau adsefydlu.
Dywedodd Katherine Partridge, Cydlynydd Adsefydlu: "Mae'r teuluoedd yn gwneud yn dda, mae'r rhan fwyaf o'r plant yn mynychu ysgolion lleol gydag eraill yn aros am ddyddiad dechrau.
Mae rhai o'r plant hŷn wedi ymuno â'r Clwb Criced Lleol ac mae dau o'r "Tadau" eisoes wedi dod o hyd i waith.
Daeth Cyngor Bro Morgannwg i'r gwasanaeth yr wythnos hon gan siarad â ffoaduriaid a grwpiau cymorth lleol.
Cawsant groeso cynnes a’u gwahodd i siarad â chyfranogwyr parod.

Dwedodd Lis Burnett, Arweinydd y Cyngor: "Roedd hwn yn gyfle gwych i siarad â ffoaduriaid a'r grwpiau gwirfoddoli sy'n darparu gwasanaeth mor werthfawr i'r rhai sydd angen cymorth.
"Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i helpu'r rhai sy'n ceisio lloches rhag gwrthdaro ac mae'r canolfannau galw heibio hyn yn allweddol o ran cynnig yr arweiniad a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt.
Rydym yn gobeithio y bydd mwy o'r gwasanaethau hyn ar gael ledled Bro Morgannwg yn y dyfodol."
Mae sawl gwasanaeth cefnogol ar gael yn y ganolfan gan gynnwys cymorth â chyflogaeth a gwybodaeth am fanciau dillad a bwyd lleol.
Mae'r rheiny sy'n rhan o'r bartneriaeth yn cynnwys:
- Cymunedau am Waith a Mwy – gan gynnwys y Mentor Cyflogaeth Ffoaduriaid
- Celt Plus
- Cyngor ar Bopeth
- Gyrfa Cymru
- Cymdeithas Tai Taf
Bydd sesiynau galw heibio yn parhau bob dydd Llun yn Sain Tathan.