Bydd Maes Parcio Uchaf Swyddfa'r Dociau yn cau dros dro ar gyfer gwaith ffordd.

Bydd y Maes Parcio Uchaf ar gau i bob cerbyd o 18:00 o'r gloch ddydd Mercher 14 Mehefin tan ddydd Gwener 23 Mehefin 2023.

Docks office parking closure logoMae angen cau'r ffordd er mwyn hwyluso'r gwaith gosod arwyneb ar y lôn gerbydau sy'n rhan o Gyfnewidfa Drafnidiaeth Dociau'r Barri.

Mae Cyngor Bro Morgannwg yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra a allai hyn ei achosi.