Cyrsiau Blasu Cymraeg
Rydym yn falch o gynnig cyrsiau blasu Cymraeg eto yr haf hwn.
Mae'r cyrsiau’n dair wythnos o hyd ac yn gyflwyniad gwych i ddysgu Cymraeg. Maen nhw hefyd yn ffordd wych o brofi eich sgiliau Cymraeg os ydych chi'n ystyried cofrestru ar gwrs Cymraeg ym mis Medi.
Mae gennym ddau gwrs blasu ar gael:
-
Prynhawn Dydd Llun: 2-4yp ar 7, 14 a 21 Awst
-
Bore Dydd Mawrth: 9:30-11:30am ar 22 Awst, 29 Awst a 5 Medi
Mae'r cyrsiau blasu hyn yn rhad ac am ddim i weithwyr y cyngor ac yn cyfrif fel amser gwaith – gwnewch yn siŵr bod eich rheolwr neu arweinydd tîm yn cytuno yn gyntaf.
I gadw lle, e-bostiwch y Cydlynydd Iaith Gwaith, Sarian Thomas-Jones, ar sthomas-jones@valeofglamorgan.gov.uk
