Staffnet+ >
Yr Wythnos Gyda Rob 28 Gorffennaf 2023
Yr Wythnos Gyda Rob
28 Gorffennaf 2023
Annwyl gydweithwyr,
Yn ystod y mis hwn, mae cydweithwyr sy'n gweithio ar draws y Cyngor wedi bod yn cyflwyno dau o'r newidiadau gwasanaeth mwyaf arwyddocaol, o ran nifer y preswylwyr yr effeithiwyd arnynt, yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae'r ddau yn dangos sut rydym yn newid y ffordd yr ydym yn gweithredu fel sefydliad er mwyn delio â'r pwysau ariannol enfawr sydd arnom. Mae'r ddau hefyd yn dangos yr hyn y gellir ei gyflawni pan fydd Tîm y Fro yn cydweithio.
Ddydd Llun 3 Gorffennaf, newidiodd y Cyngor i gasglu bagiau du preswylwyr unwaith bob tair wythnos, yn hytrach na phob pythefnos. Mae'r un faint o wastraff yn dal i gael ei gasglu - gall preswylwyr nawr roi tri bag allan bob tair wythnos - ond mewn ffordd sy'n fwy effeithlon i'r Cyngor. Mae angen llai o amser staff, llai o danwydd i'n cerbydau, a thrwy leihau'r pellter yr ydym yn teithio rydym hefyd yn lleihau ein hallyriadau carbon, sy'n helpu i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd.
Mae'r gwasanaeth newydd wedi'i ddylunio gydag addasiadau i'r rhai sydd eu hangen wedi'u cynnwys, er enghraifft teuluoedd mwy neu'r rhai sy'n cynhyrchu llawer o wastraff hylendid. Mae'n enghraifft wych o ddarparu'r un gwasanaeth mewn ffordd fwy effeithlon, a chyda'r effaith leiaf posibl ar breswylwyr.

Ddydd Llun 17 Gorffennaf, rhoddodd y Cyngor y gorau i gasglu gwastraff gardd am ddim. Gall preswylwyr y Fro bellach danysgrifio i'n gwasanaeth casglu am £20 neu £30 y flwyddyn neu fynd â'u gwastraff gardd i un o'n safleoedd ailgylchu gwastraff cartref am ddim.
Mae'r newid hwn wrth gwrs yn effeithio ar breswylwyr, rhywbeth yr oedd TAS a Chabinet y Cyngor yn ymwybodol iawn ohono pan oedd hyn yn cael ei ystyried. Mae casgliadau gwastraff gardd yn wasanaeth anstatudol - mae hyn yn golygu nad yw'n ofynnol i'r Cyngor ei ddarparu. Wrth gwrs, rydyn ni eisiau gwneud hynny. Gall pob un ohonom weld ei fod yn cael ei werthfawrogi gan lawer o breswylwyr ac yn helpu i gefnogi amcanion ein Prosiect Sero. Felly, mae cael gwasanaeth hunan-ariannu dewisol ar gyfer gwastraff gardd, yn gyfaddawd sy'n ein galluogi i barhau i'w gynnig am bris fforddiadwy i'r rhai sydd ei eisiau, tra'n caniatáu i ni ddefnyddio refeniw y Dreth Gyngor a chyllid arall i amddiffyn ein gwasanaethau cyhoeddus hanfodol.
Mae'n enghraifft o ffordd newydd o weithio sy'n ein galluogi i gydbwyso'r pwysau cystadleuol ar ein gwasanaethau a'n cyllidebau. Rwy’n teimlo bod y dull hwn yn decach i breswylwyr nad ydynt yn cynhyrchu gwastraff gardd, sy’n dewis compostio gartref, neu’n dewis peidio â defnyddio'r gwasanaeth.
Mae'r ddau newid gwasanaeth wedi cael proffil uchel. Bydd pob cartref yn y Fro yn cael ei effeithio ganddynt mewn rhyw ffordd neu'i gilydd. Ac, yn unol â natur penderfyniadau anodd, mae rhai wedi bod yn feirniadol. Gyda hyn i gyd mewn golwg, roedd angen i’r broses o gyflwyno'r newidiadau fod yn ddidrafferth. Rwy'n falch iawn o allu dweud, ar ddiwedd mis un, diolch i waith caled ac ymroddiad llawer iawn o gydweithwyr, bod y broses gyflwyno wedi bod yn ddi-fai.
Mae angen llawer iawn o waith y tu ôl i'r llenni i weithredu ffyrdd newydd o weithio. Sefydlwyd tîm prosiect yn gynharach yn y flwyddyn gan gynnwys cydweithwyr o'n timau Gwasanaethau Cymdogaeth, Gwella Busnes, Cysylltiadau Cwsmeriaid a Chyfathrebu. Cyn y gellid casglu un bag du neu wyrdd roedd angen mapio llwybrau newydd, diwygio rotas, cynllunio systemau perthynas â chwsmeriaid, datblygu systemau archebu a thalu ar-lein, cyflwyno hyfforddiant, a chreu ymgyrch hysbysebu ledled y Fro.
Cyflwynwyd barn preswylwyr, a gasglwyd trwy ein hymarferion ymgysylltu â'r cyhoedd a chan ein tîm cysylltiadau cwsmeriaid, i lunio'r model terfynol. Cynhaliwyd asesiadau o’r effaith ar gydraddoldeb hefyd. Yna, yn olaf, profwyd y systemau newydd gan staff a defnyddwyr gwasanaethau.
Pan aeth ein timau rheng flaen allan y mis hwn i roi'r ffyrdd newydd o weithio ar waith, roeddem mor barod ag y gallem fod wedi bod. Talodd y gwaith paratoi hwnnw ar ei ganfed.
Erbyn y penwythnos hwn, mae gan bob un o'r 62,695 eiddo o leiaf un casgliad ar eu rownd newydd. Mae bron i 10,000 o aelwydydd wedi cofrestru ar gyfer y gwasanaeth casglu gwastraff gwyrdd newydd - tri chwarter ohonynt ar-lein - gan gynhyrchu incwm o £200,000. Mae dros 5000 o breswylwyr hefyd wedi cael cefnogaeth uniongyrchol i gael mynediad i'r gwasanaethau newydd trwy ein canolfan gyswllt. Bydd problemau cychwynnol bob amser gyda newidiadau gwasanaeth ond symudodd y tîm yn gyflym i fynd i'r afael â'r rhain, gan roi profiad preswylwyr yn gyntaf bob amser.

Pan fyddwch yn ystyried i hyn gael ei weithredu mor fuan ar ôl i'r gwasanaeth newydd gwahanu yn y ffynhonnell gael ei gyflwyno i fwy na 17,000 o eiddo ym Mhenarth a Dwyrain y Fro, gwasanaeth newydd casglu eitemau trydan bach a batris i'r holl breswylwyr, ac agor gorsaf trosglwyddo gwastraff newydd – fydd i gyd yn cyfrannu at incwm a ragwelir o £1.5m yn sgil gwerthu'r deunydd ailgylchadwy y byddwn yn ei gasglu - mae wedi bod yn ymdrech anhygoel dros y misoedd diwethaf gan y rhai sy'n cymryd rhan.
Bu llawer gormod o bobl yn rhan o'r rhaglen waith hon i sôn amdanynt yn unigol. Bydd y rhai sydd wedi chwarae rhan yn gwybod pwy ydyn nhw a hoffwn ddiolch i bob un ohonyn nhw. Mae'r hyn sydd wedi'i ddatblygu a'i gyflawni yn rhoi model i'r Cyngor ar gyfer trawsnewid gwasanaethau yn y dyfodol a ffyrdd newydd o weithio. Yn ogystal ag arbed arian y mae ei angen yn fawr heddiw, bydd gan y prosiect waddol am flynyddoedd lawer. Diolch o galon.
Rwy'n siŵr eich bod i gyd yn ymwybodol o'r angen i ni newid y ffordd yr ydym yn gweithio yn y blynyddoedd i ddod. Yn ôl ym mis Chwefror gwahoddais yr holl gydweithwyr i gyflwyno eu barn mewn ymateb i ymgynghoriad ar ein Strategaeth Pobl newydd. Yn dilyn yr ymgynghoriad hwn cytunwyd ar y strategaeth derfynol gan y Cabinet yr wythnos diwethaf. Bydd y strategaeth newydd yn allweddol i alluogi'r newid hwn, gan osod y weledigaeth ar gyfer y Cyngor yr ydym am fod a rhoi cyfarwyddyd i ni i gyd ar y ffordd y gallwn gyflawni hynny. Bydd lansiad mewnol y strategaeth a mwy o gyfleoedd i gydweithwyr gymryd rhan yr hydref hwn ond gallwch weld y ddogfen y cytunwyd arni nawr fel rhan o bapurau'r Cabinet.

Mae gwaith i gyflawni ein Strategaeth Pobl eisoes ar y gweill. Mae dod o hyd i ffyrdd newydd o recriwtio'r doniau gorau yn un o'r ffyrdd y gallwn sicrhau bod gan y Cyngor y bobl a'r sgiliau sydd eu hangen arnom i lwyddo. Mae gwerthusiad beirniadol o'r strategaeth recriwtio bresennol yn cael ei gynnal gan Curtis Griffin yn Dysgu a Sgiliau a defnyddir canlyniadau hyn i lywio ein strategaeth recriwtio a denu newydd. Gall pob aelod o staff ymateb nawr trwy’r Canolbwynt Staff.
Ffordd arall y gallwn ddod â sgiliau newydd i mewn yw drwy gynnig mwy o gyfleoedd i bobl iau. Bydd Cymunedau am Waith a Mwy yn lansio ein hail Gynllun QuickStart yr haf hwn ac mae cyfle o hyd i reolwyr wneud cais i gael un o ddeg swydd wedi'u hariannu'n llawn yn eu tîm. Yn ogystal â'n cefnogi i ddatblygu ein gwasanaethau, bydd y cynllun yn rhoi sgiliau newydd i bobl ifanc wella eu rhagolygon yn y dyfodol.
Gall unrhyw staff sydd am ddatblygu sgiliau iaith newydd gael mynediad i gyfres o ddosbarthiadau blasu ar gyfer rownd nesaf y cyrsiau Gwaith Cymraeg ym mis Awst. Mae'r cyrsiau'n rhad ac am ddim i staff a bydd mynychu'r cwrs yn cael ei ystyried yn rhan o'ch diwrnod gwaith, felly nid oes angen cymryd gwyliau na gwneud yr oriau i fyny wedyn. Gallwch edrych beth sydd ar gael trwy StaffNet.

Yr wythnos diwethaf roeddem yn dathlu'r newyddion bod 10 o'n parciau wedi derbyn statws y Faner Werdd. Yr wythnos hon, mae ein tîm parciau wedi cael mwy o adborth rhagorol am eu gwaith yn cynnal a gwella seilwaith ac ecoleg ein mannau gwyrdd, y tro hwn gan un o breswylwyr y Fro: "Roeddwn i eisiau dweud wrthych pa mor brydferth y mae'r ddôl blodau gwyllt ar ben clogwyni Penarth! Mae'n hyfryd, ac mae'r lloches bysus sydd newydd ei gwblhau yn braf iawn hefyd. Heddiw roeddwn i yno, ac roedd yr ardaloedd glaswellt byrrach yn cael eu defnyddio gan wahanol grwpiau o bobl - dosbarth karate ar un, pobl ifanc yn chwarae pêl ar eraill, a llawer o gerddwyr a cherddwyr cŵn ar y llwybrau. Mae'n sicr yn llwyddiant mawr ac mor dda i fioamrywiaeth hefyd." Mae rhaglen helaeth wedi cael ei chyflawni i wneud gwelliannau i Gopaon y Clogwyni, ac mae'n wych gweld gwaith caled ein cydweithwyr yn cael ei gydnabod. Da iawn bawb.

Mae'n bosib bod y rhai ohonoch chi yn y Swyddfeydd Dinesig wedi gweld bod arwyddion newydd wedi cael eu gosod ar y llawr gwaelod isaf yn ddiweddar i'w gwneud hi'n haws i staff ddod o hyd i'r Ardd - yn y cwrt canolog. Mae'r ardd yn lle gwych i ddianc o'r swyddfa, naill ai i weithio neu ymlacio. Diolch fel arfer i Lynn Clarke am yr holl amser ac ymdrech y mae hi wedi'i roi i greu'r gofod i eraill ei fwynhau, ac i bawb sydd wedi helpu. Y tro nesaf y byddwch yn yr adeilad, ewch i weld trwy ddilyn yr arwyddion.
Ddoe fe wnaeth cannoedd o breswylwyr fwrw eu pleidlais yn isetholiad Ward Buttrills Cyngor Tref Y Barri. Diolch i bawb a helpodd mewn gorsafoedd pleidleisio ac yn y cyfrif, a da iawn i Rachel Starr-Wood a'i thîm am gynnal proses esmwyth. Mae canlyniadau’r isetholiad bellach ar gael ar ein gwefan.
Hoffwn ddiolch hefyd i'r tîm Eiddo am eu hymdrechion gwirfoddoli diweddar. Llwyddodd y tîm ddefnyddio saib o’r glaw diweddar i gynnal eu cyfarfod tîm ym Mharc Gwledig Porthceri a threulio peth amser yn clirio'r traeth o sbwriel tra’r oeddent yno. Ymdrech wych gan bawb!
I gloi'r wythnos hon, hoffwn ganmol dau dîm sy'n gwneud gwahaniaeth enfawr i gymunedau yn Y Barri.
Mae Ysgol Gynradd Oakfield wedi derbyn Gwobr Ansawdd Genedlaethol Cynlluniau Ysgolion Iach - Rhwydwaith Cymru yn dilyn asesiad rhagorol gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Rhoddir y wobr i ysgolion sy'n cymryd cyfrifoldeb dros gynnal a hyrwyddo iechyd disgyblion.
Mae adroddiad Oakfield yn rhagorol ond mae un adran yn sefyll allan yn amlygu gymaint sy'n wych am yr ysgol: "Mae sawl elfen o Oakfield yn sefyll allan, ond efallai mai'r mwyaf nodedig o'r rhain i gyd yw'r ffordd y mae'r ysgol yn blaenoriaethu lles teulu cyfan pob disgybl. Mae cydnabyddiaeth gref o'r ffaith bod angen perthynas gadarn, gadarnhaol a chysylltiad â rhieni a gofalwyr er mwyn gwella lles, presenoldeb a chynnydd mewn dysgu i bob dysgwr."Mae'n wych gweld yr ysgol yn cael cydnabyddiaeth am waith mor bwysig. Gwaith da a diolch yn fawr.

Yn ail, dydd Mercher cynhaliwyd Diwrnod o hwyl i'r teulu Dechrau'n Deg eleni ym Mharc Penceodtre yn Nhregatwg. Roedd yn llwyddiant ysgubol. Mynychodd cannoedd o bobl drwy gydol y dydd ac fe’i cyflwynwyd mewn partneriaeth â mwy na 40 o wasanaethau a sefydliadau eraill, gan gynnwys y Gwasanaeth Ieuenctid, Llyfrgelloedd, Cymunedau am Waith, Llinell Gynghori Teuluoedd yn Gyntaf, Cymorth Cynnar a thimau Byw yn Iach.
Mae'r argyfwng costau byw yn golygu y bydd llawer o deuluoedd yn bryderus ynghylch sut i fwynhau gwyliau'r haf heb gost fawr. Bydd diwrnod yn llawn hwyl i deuluoedd ei fwynhau yn rhad ac am ddim wedi gwneud gwahaniaeth mawr a hoffwn ddiolch i bawb wnaeth hyn yn bosibl. Diolch yn fawr.
Diolch i chi i gyd am eich ymdrechion yr wythnos hon. Diolch yn fawr bawb.
Rob.