Staffnet+ >
Robs Weekly Round Up 21 July 2023
Yr Wythnos Gyda Rob
21 Gorffennaf 2023
Annwyl gydweithwyr,
Roeddwn i'n ffodus i ddechrau'r wythnos hon drwy ymweld â safleoedd rhai prosiectau mawr sydd naill ai wedi'u cwblhau'n ddiweddar neu a fydd yn cael eu cwblhau’n fuan, gydag Arweinydd y Cyngor.
Yn gyntaf roedd Pafiliwn newydd sbon Parc Belle Vue ym Mhenarth. Er ei fod yn boblogaidd iawn, nid oedd gan yr hen bafiliwn wres ac nid oedd yn hygyrch iawn. Diolch i'r defnydd o gyllid A106 a chydweithrediad rhwng ein timau Gwasanaethau Cymdogaeth ac Eiddo, bydd cyfleuster cymunedol newydd gwych, sy'n agored ac yn hygyrch i bawb, ar gael yn fuan yng nghanol y dref.
Ar ôl hyn aethom ymlaen i’r datblygiad o 14 o fflatiau cyngor newydd ar gyfer pobl dros 55 oed yn Lôn yr Ysgol. Mae'r pwysau sydd ar dai cymdeithasol yn amlwg. Eiddo un a dwy ystafell wely ar gyfer pobl hŷn yw beth sydd brinnaf yn y Fro, a bydd y cynllun hwn sy'n cael ei arwain gan ein tîm Tai yn mynd gam o'r ffordd i fynd i'r afael â hynny. Mae gorffeniad y fflatiau o'r radd flaenaf ac rwy'n siŵr y bydd y tenantiaid newydd wrth eu bodd pan fyddant yn dechrau symud i mewn cyn diwedd y mis.

Ein hymweliad nesaf oedd i safle 54 o gartrefi eraill yn Hayeswood Road yn y Barri. Mae'r gwaith yma hefyd yn dod yn ei flaen yn dda iawn, gyda'r trigolion cyntaf yn debygol o symud i mewn cyn diwedd y flwyddyn.
Yn olaf, wrth i'r broses foderneiddio ddiweddaraf i'n trefniadau casglu gwastraff gael ei chyflwyno'r wythnos hon, fe wnaethom alw yn yr orsaf adnoddau gwastraff ac ailgylchu newydd yn y Barri i weld agweddau ar y gwasanaeth ar waith. Byddaf yn defnyddio fy neges yr wythnos nesaf i siarad am y gwaith rhagorol sydd wedi'i wneud ar draws y Cyngor yn ystod y misoedd diwethaf i gefnogi'r symudiad i gasgliadau bob tair wythnos a gwasanaeth tanysgrifio gwastraff gardd. Roedd hi’n wych gallu gweld sut mae'r newid i wahanu ailgylchu yn golygu y gallwn ailgylchu mwy o wastraff y Fro nag erioed o'r blaen a gwneud hynny'n hynod effeithlon.
Hoffwn ddiolch i Jo Lewis, Andrew Freeguard, Colin Smith ac Emily David am eu hamser yn ein tywys o gwmpas ddydd Llun yn ogystal â'r holl gydweithwyr sy'n gweithio ar wneud y cynlluniau hyn yn gymaint o lwyddiant.

Lai na 24 awr ar ôl i ni fod yn Belle Vue, roedd y parc yn cael ei ddathlu fel un o ddeg o barciau Cyngor Bro Morgannwg i dderbyn gwobrau'r Faner Werdd ar gyfer 2023 ddydd Mawrth. Mae hyn yn golygu mai ni yw un o'r awdurdodau lleol sy'n perfformio orau yng Nghymru unwaith eto.
Mae Cadwch Gymru'n Daclus yn dyfarnu statws Baner Werdd i'r parciau hynny sydd â'r safonau uchaf o lendid, cynaliadwyedd a chyfranogiad cymunedol. Derbyniodd parciau gwledig Cosmeston a Phorthceri yr anrhydedd, ynghyd â Pharc Romilly, Parc Belle Vue, y Parc Canolog, Gerddi’r Cnap, Parc Fictoria, Parc Gladstone, Parc Alexandra, a Gerddi Promenâd Ynys y Barri.
Roeddwn yn falch iawn o allu dweud diolch yn bersonol i rai o aelodau’r tîm Gwasanaethau Cymdogaeth sy'n gweithio mor galed i gynnal y mannau cyhoeddus gwerthfawr hyn, ond fe ailadroddaf fy niolchiadau yma hefyd. Mae ein parciau'n denu ymwelwyr drwy gydol y flwyddyn ac maent yn llawer mwy na dim ond mannau gwyrdd deniadol. Maent yn chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi lles corfforol a meddyliol pobl, maent yn hanfodol i gydlyniant cymunedol, ac maent yn ganolog i'n hymateb i'r argyfyngau natur a'r hinsawdd. Diolch yn fawr iawn i bawb a chwaraeodd ran yn y llwyddiant
Ddydd Mercher, cynhaliwyd digwyddiad gwybodaeth gymunedol a chymdeithasol arall yng Nghanolfan Gymunedol Paul Lewis yn Sain Tathan, a gynhaliwyd gan Gyngor Cymuned Sain Tathan a'n Swyddog Bro Oed-gyfeillgar. Fel bob amser yn y digwyddiadau hyn roedd ystod wych o'n timau a'n partneriaid yn cydweithio i gynnig gwybodaeth am gyfleoedd lleol a hyd yn oed gynnig sesiynau blasu. Enghraifft wych arall o waith partneriaeth sy'n gwneud pob rhan o'r Fro yn lle gwych i fyw a thyfu’n hŷn. Diolch i bawb a gymerodd ran.
Gweithio mewn partneriaeth yw'r unig ffordd y gallwn alluogi ein cymunedau i oresgyn yr heriau enfawr y mae llawer o bobl yn eu hwynebu. Cynhaliwyd digwyddiad arwyddocaol ddydd Gwener diwethaf i ddod â chydweithwyr o'r cyngor ac ysgolion ynghyd yng nghlwstwr Pencoedtre yn y Barri i dreialu dull newydd o 'wella profiadau bywyd teuluoedd a chymunedau' yn unol â'n Cynllun Corfforaethol a Chynllun Lles Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus y Fro.
Rwy'n gwybod y bu rhai trafodaethau adeiladol iawn drwy gydol y dydd a bydd y canlyniad, a ddaw’n fuan, yn gynllun o gamau gweithredu byrdymor a hirdymor i roi'r cymorth sydd ei angen ar deuluoedd yng nghymuned Pencoedtre tra hefyd yn gwneud gwell defnydd o arian cyhoeddus. Diolch yn fawr i Janet Hayward, Pennaeth Gweithredol yn Ysgolion Cynradd Tregatwg ac Oak Field, am drefnu'r sesiwn.
Gydag uchelgeisiau tebyg i wella ein sefydliad i bawb sydd ei angen, cyfarfu'r grŵp Diverse ddydd Mawrth yn Ysgol Gynradd Holton Road i drafod syniadau ac amcanion ar gyfer y flwyddyn i ddod. Roedd nifer o aelodau newydd yn bresennol ac mae’r gwaith a gynigiwyd i helpu mwy o ysgolion i sefydlu eu hunain fel ysgolion gwrth-hiliol yn swnio’n arbennig o ddiddorol. Bydd cyfarfod cyntaf y grŵp yn yr hydref nawr yn canolbwyntio ar hyn gyda chyflwyniad gan ysgolion y Fro sydd wedi bod yn gweithio gyda Met Caerdydd ar Brosiect Dysgu Ymchwil Gweithredoedd Gwrth-hiliol. Fel rhan o hyn, cafodd staff yr ysgol adborth gonest gan y disgyblion am eu hymagwedd at amrywiaeth a hiliaeth. Mae'n waith dewr a phwysig a hoffwn ddiolch i bawb sy'n gwneud Diverse yn gymaint o lwyddiant. Mae'r grŵp yn dal i chwilio am awgrymiadau ar gyfer blaenoriaethau'r dyfodol yn ogystal ag aelodau newydd a byddwn yn annog unrhyw un sydd â syniadau am sut i wneud y Cyngor a'i wasanaethau'n fwy cynhwysol i'r mwyafrif byd-eang gysylltu.
Mae pob cam rydym yn ei gymryd yn effeithio ar ein trigolion, ond rhai yn amlwg yn fwy uniongyrchol nag eraill. Yn gynharach yr wythnos hon cefais fy nghopïo i mewn i lythyr o ddiolch gan breswylydd i'n tîm Cysylltiadau Cwsmeriaid. Roedd y tîm wedi gwneud trefniadau arbennig ar gyfer prosesu cais tra bod y preswylydd yn cael triniaeth canser. Yn eu geiriau nhw, "gwnaeth fyd o wahaniaeth", ac mae'n ein hatgoffa o'r gwir effaith y mae ein gwasanaethau'n ei chael.
Dyna un o ddwy neges o ddiolch a gefais yr wythnos hon. Roedd y llall yn canmol dau gydweithiwr - Katie Jane-Cooper a Vince Westall - yn nhîm Trwyddedu'r GRhR am eu cefnogaeth. Diolch i'r ddau ohonoch am ddarparu gwasanaeth mor wych ac i bawb yn Nhîm y Fro sy'n mynd yr ail filltir i helpu ein cwsmeriaid.

Gan edrych ymlaen at yr wythnos nesaf bydd ein tîm Datblygu Sefydliadol yn cynnal dau weminar i esbonio'r broses #amdanafi newydd. Bydd y sesiynau'n cynnig trosolwg manwl o #amdanafi ac #amdanomni a sut mae'r dull newydd yn alinio’r broses o gyflwyno cynlluniau tîm a chyfarfodydd goruchwylio gydag elfennau o hunan-fyfyrio. Bydd y gweminarau’n cynnig ffordd wych o fynd i'r afael â'r broses newydd ac yn helpu rheolwyr ac aelodau'r tîm i gael y gorau allan ohoni.
Yr wythnos nesaf cynhelir yr ail weminar gan ein partneriaid AVC Wise. Gan weithio gydag AVC Wise, mae’r Cyngor nawr yn cynnig y cyfle i aelodau'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol fanteisio ar ein cynllun Cyfraniad Gwirfoddol Ychwanegol Cost a Rennir. Er ei fod yn swnio braidd yn ddiflas, gall helpu cydweithwyr i ymddeol yn gynnar, neu gyda phensiwn mwy, felly mae'n werth gwrando.
Yn olaf, fel y bydd llawer ohonoch yn gwybod, heddiw yw diwrnod olaf tymor haf yr ysgolion. Hoffwn ddiolch i bob aelod o staff - athrawon, cynorthwywyr cymorth dysgu, rheolwyr busnes, goruchwylwyr amser cinio, a llawer gormod o rolau eraill i'w rhestru yma – sydd wedi rhoi popeth ers mis Medi diwethaf i sicrhau bod disgyblion Bro Morgannwg yn cael yr addysg a'r profiad ysgol gorau posibl. Diolch bawb.
Yr wythnos diwethaf, cyfarfu'r Arweinydd a minnau gyda'r Pennaeth a'r Dirprwy Bennaeth, Matt Gilbert a Polly Davies, yn Ysgol Gynradd Ynys y Barri. Yn ystod ein hymweliad cawsom daith o amgylch y cyfleusterau yn yr ysgol a gweld gyda’n llygaid ein hunain y gwaith gwych a wnaed yn yr ysgol i roi'r dechrau gorau mewn bywyd i blant. Yn bwysig iawn, fe wnaethon ni hefyd drafod yr heriau niferus iawn y mae ein hysgolion yn eu hwynebu ar hyn o bryd, ac yn sicr ni fyddaf yn diystyru graddfa’r rhain. Diolch Matt a Polly am eich amser. Un o'r pethau sy'n rhoi sicrwydd imi y byddwn yn dod o hyd i atebion a ffyrdd o barhau i wella canlyniadau i blant a phobl ifanc beth bynnag yw'r argyfyngau eraill yr ydym yn ymateb iddynt, yw ymroddiad ein cydweithwyr mewn ysgolion. Rwy'n gobeithio eich bod chi i gyd wedi cael y cyfle heddiw i fyfyrio ar y gwahaniaeth y bydd eich gwaith wedi'i wneud i fywydau'r disgyblion rydych chi'n eu cefnogi. Ar ran y Cyngor, hoffwn ddiolch yn fawr iawn i chi gyd. Diolch.
A diolch fel bob amser i bawb am eu hymdrechion yr wythnos hon. Diolch yn fawr bawb.
Rob.