#AmdanaFi: Datgelu'r broses newydd

Yn unol â'r dull newydd o #AmdanaFi ac #AmdanomNi sy’n mynd yn fyw'r mis hwn, mae'r tîm Datblygu a Dysgu Sefydliadol yn cynnal ystod o weminarau i'ch tywys drwy'r broses wedi'i diweddaru.

Beth allwch chi ei ddisgwyl o'r sesiwn?

Datgelu'r Broses: Trosolwg manwl o'r broses #AmdanaFi ac #AmdanomNi 2023. Byddwn yn egluro sut mae'r dull arloesol hwn yn cyd-fynd â chyflwyno cynlluniau tîm a chyfarfodydd goruchwylio, gydag elfennau o hunan-fyfyrio, gan eich galluogi i gynllunio'ch tîm a/neu eich twf personol a phroffesiynol yn effeithiol.

Pryd mae'r sesiynau?

Sesiwn rheolwyr - dydd Mercher 02 Awst am 10.30am

Archebwch eich lle ar y sesiwn rheolwyr

Sesiwn holl staff - dydd Iau 27 Gorffennaf am 11am

Archebwch eich lle ar y sesiwn holl staff

Yn ystod y sesiwn byddwch yn gallu gofyn cwestiynau am y broses gan ddefnyddio'r swyddogaeth holi ac ateb – does dim angen eich camera neu feicroffon! 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y sesiwn, eich datblygiad neu #AmdanaFi cyn y sesiwn, cysylltwch â'r Tîm Datblygu a Dysgu Sefydliadol.

Wedi methu'r newyddion bod y broses #AmdanaFi yn newid? Dyma’r cyfan sydd angen i chi ei wybod.