Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd yn Lansio Rhaglen Gweithgareddau Haf 2023   

O sesiynau galw heibio am ddim i wersylloedd chwaraeon wythnos o hyd, mae llawer o weithgareddau i deuluoedd a phlant gymryd rhan ynddynt yr haf hwn.   

FIS Summer Activity Programme 2023Gan weithio mewn partneriaeth â sefydliadau ledled y Fro, mae’r tîm Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd wedi llunio calendr o ddigwyddiadau sy'n addas ar gyfer plant a phobl ifanc hyd at 25 oed, ochr yn ochr â nifer o weithgareddau teuluol.  

Bydd Rhaglen Gweithgareddau Haf 2023 yn cychwyn ddydd Sadwrn 22 Gorffennaf a bydd yn rhedeg trwy gydol yr haf tan 03 Medi.  

Fel y soniwyd, mae amrywiaeth o weithgareddau am ddim ac â thâl i gymryd rhan ynddynt.  

Bydd Llyfrgelloedd y Fro yn cynnal nifer o ddigwyddiadau adrodd straeon a chrefft rhad neu am ddim bob dydd yn ystod yr haf.  

Mae yna hefyd nifer o wersylloedd chwaraeon wythnos o hyd fel tennis a nofio yn ogystal â sesiynau pêl-droed am ddim ar ddydd Gwener, dosbarthiadau dawns, a sesiynau blasu chwaraeon dŵr y gall plant a phobl ifanc ymuno â nhw. 

Gweler yr amserlenni wythnosol llawn isod:   

Gweithgareddau wythnosol cylchol  22 - 23 Gorffennaf 24 - 30 Gorffennaf 31 Gorffennaf - 06 Awst 07 - 13 Awst14 - 20 Awst 21 - 27 Awst  28 Awst - 03 Medi 

Bydd y rhaglen yn cael ei diweddaru'n rheolaidd gyda gweithgareddau newydd, cyffrous, felly cofiwch wirio.