Rhowch gynnig ar e-feic
Ddydd Mawrth 17 Ionawr, bydd partneriaid Teithio Iach y Cyngor, Sustrans yn cynnal digwyddiad am ddim yng Nghymuned Ddysgu Penarth (Ysgol y Deri ac Ysgol Gyfun Sant Cyres), Penarth.
Bydd y digwyddiad ar agor rhwng 10:30am a 2:00pm ac mae'n agored i holl staff y Cyngor a bydd yn gyfle i sgwrsio â staff Sustrans a rhoi cynnig ar e-feic drosoch eich hun.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â’r Swyddog Teithio Llesol, Lisa Elliott:
ljelliott@valeofglamorgan.gov.uk
Mae'r digwyddiad yn cyd-fynd â Chynllun Loan a Bike. Er mwyn hwyluso teithio llesol nôl a blaen i’r gweithle, mae gan Sustrans, ddetholiad o feiciau sydd ar gael i staff eu benthyca heb unrhyw gost.