Clinig Brechlyn Ffliw Ysgolion

Bydd clinig dal-i-fyny Brechlyn Ffliw Chwistrell Drwynol yn cael ei gynnal ar 09 Ionawr 2023 i'r plant hynny a allai fod wedi methu eu brechiad yn yr ysgol.

Bydd y clinig yn cael ei gynnal yn MVC Tŷ Coetir, Maes-y-coed Rd, Caerdydd CF14 4HH.

Mae apwyntiadau ar gael rhwng 1pm a 5pm.

I drefnu apwyntiad, llenwch ffurflen ganiatâd ar-lein y byddwch eisoes wedi ei derbyn drwy e-bost gan yr ysgol.  Ar ôl ei chwblhau, byddwch yn derbyn e-bost yn eich gwahodd i drefnu apwyntiad.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â’r Tîm Imiwneiddio ar 02920 907661/664.