Staffnet+ >
Yr Wythnos Gyda Rob 27 Ionawr 2023
Yr Wythnos Gyda Rob
27 Ionawr 2023
Annwyl gydweithwyr,
Dechreuais yr wythnos hon yn darllen neges hynod ddyrchafol gan un o'n cydweithwyr yn y Gwasanaethau Cymdeithasol. Cysylltodd Jenny Ringstead i rannu peth o'r canmoliaeth mae hi wedi ei derbyn gan ofalwyr yn y Fro y mae hi’n eu cefnogi. Nododd Jenny hefyd mor falch y mae hi i fod yn rhan o wasanaeth cymorth mor eang.
"Yn fy ngwaith fel Swyddog Cefnogi Gofalwyr, rydw i bob amser yn synnu cymaint y mae'r Cyngor yn ceisio ei wneud i gefnogi gofalwyr, y rhai sy'n gofalu am eu hanwyliaid eu hunain ac yn aml ddim yn ystyried eu hunain yn ofalwyr. Maen nhw'n teimlo mai eu cyfrifoldeb nhw yw bod yno iddyn nhw er gwaethaf yr heriau niferus y gall hyn eu cyflwyno. Mae'r Cyngor yn cydnabod y gwaith gwych mae gofalwyr yn ei wneud yn eu cartrefi eu hunain."
Mae Jenny yn un o'n Swyddogion Cefnogi Gofalwyr, sy'n gweithio ochr yn ochr â'r tîm iechyd meddwl. Aeth yn ei blaen i ddweud "Rydw i bob amser yn cael fy llorio gan y geiriau caredig a’r geiriau o ddiolch gan ofalwyr am y gefnogaeth rydw i wedi gallu ei rhoi ar waith ar eu cyfer. Ond oherwydd y gefnogaeth wych mae’r Cyngor yn ei roi i ofalwyr yr ydw i’n gallu gwneud fy ngwaith yn cefnogi'r gofalwyr hynny sydd â'r angen mwyaf. Dydw i erioed wedi caru swydd cymaint. Er bod y rhestr aros yn cynyddu oherwydd nifer y gofalwyr, a bod ein gwasanaethau bellach yn fwy adnabyddus, mae pob diwrnod, hyd yn oed y rhai mwyaf blinedig, yn rhoi rheswm i fi wenu yn sgil gallu helpu rhywun mewn angen. Felly unwaith eto, diolch am fod yn Gyngor sy'n gofalu am ofalwyr."
Dyma enghraifft berffaith o foeseg Tîm y Fro ac mae'n dangos sut mae'r gwasanaeth cyfan yn dod at ei gilydd i gefnogi'r rhai sydd ein hangen ni arnyn nhw. Mae hefyd yn dangos ymrwymiad Jenny i'w gwaith a’r hyn mae'n ei olygu iddi. Rwy'n teimlo balchder mawr iawn yn gweithio ochr yn ochr â phobl fel Jenny a'i chydweithwyr. Diolch am fod yn gennad mor wych i'r gwasanaeth a diolch hefyd am sicrhau bod ein gofalwyr di-dâl hynod werthfawr yn teimlo eu bod nhw'n cael cefnogaeth. Diolch o galon

Yn aml, y gefnogaeth wedi'i thargedu fwyaf sy'n gwneud y gwahaniaeth mwyaf. Ym mis Rhagfyr daeth dau o brosiectau Cronfa Gymdeithasol Ewrop a oedd wedi'u harwain gan Wasanaeth Ieuenctid y Fro i ben. Roedd Ysbrydoli i Weithio ac Ysbrydoli i Gyflawni ill dau yn canolbwyntio ar gefnogi pobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant. Aeth y ddau brosiect ymhell y tu hwnt i’r targedau oedd wedi eu gosod ar eu cyfer a rhyngddyn nhw fer roddon nhw 23,850 awr o gymorth i bobl ifanc y Fro.
Mae dwy ffilm fer wedi eu creu i ddogfennu llwyddiant y prosiectau ac maen nhw’n cynnwys rhai o'r rhai a gefnogwyd i gyflawni yn rhannu eu straeon. Mae’r Ffilm Dathlu Ysbrydoli i Gyflawni a’r Ffilm Dathlu Ysbrydoli i Weithio yn dangos mor werthfawr yw gwaith ein Gwasanaeth Ieuenctid.

Daeth y tîm at ei gilydd y mis diwethaf i ddathlu'r llwyddiant mawr hwn a lansio'r prosiect Ymdrechu newydd. Mae olynydd y gwaith gwych hwn wedi'i anelu at rai o dan 16 oed a bydd yn cyfuno tri phrosiect presennol i greu tîm ehangach i roi cymorth i ddysgwyr mwy agored i niwed.
Hoffwn ddiolch yn arbennig a llongyfarch nifer o aelodau’r tîm, gan gynnwys Rhys Jones, Peter Williams, Annette Harrison, Helen Pereira, Michaela O'Neil, Tracy Mills, Gavin Packer, Nigel Bowie a staff ieuenctid eraill sydd wedi gweithio ar y prosiect dros y blynyddoedd. Diolch bawb.
Rhaid i fi hefyd ddiolch - ac ymddiheuro - i un arall o'n timau sy'n gwneud gwaith rhyfeddol i helpu trigolion. Ym mis Rhagfyr fe rannais ychydig o adborth gan aelod o deulu preswylydd yn un o'n cartrefi preswyl. Maen nhw'n disgrifio’r tîm fel un "cariadus, caredig, ystyriol, parchus a dibynadwy" a gwnaeth yr aelod o'r teulu a ysgrifennodd mor bell â dweud "Alla i ddim wir rhoi mewn geiriau mor wych oedd y gofal a'r cymorth eithriadol a gafodd nid yn unig fy nhad ond fi fy hun hefyd, ar adeg anoddaf fy mywyd."
Roedd hyn yn cyfeirio at waith anhygoel staff Tŷ Dyfan yn y Barri, nid Tŷ Dewi Sant fel y dywedais ar y pryd. Rwy'n gwybod bod pob un o'n timau gofal preswyl yn rhoi gofal a chefnogaeth o'r radd flaenaf ond mae ond yn iawn fod tîm Tŷ Dyfan yn cael y clod maen nhw'n ei haeddu am wneud cymaint o wahaniaeth. Diolch i chi gyd yn Nhŷ Dyfan.

Bydd y gefnogaeth ragorol a roddir gan y tîm Gwasanaethau TGCh yn parhau i ddatblygu’n gyflym yn 2023. Efallai y bydd rhai ohonoch eisoes wedi cael cyfle i ddefnyddio'r llwyfan Halo newydd sydd bellach yn galluogi cydweithwyr i gyflwyno ceisiadau am wasanaethau ac olrhain statws eu ceisiadau mewn amser real. Mae'r llwyfan yn rhoi mwy o reolaeth i ddefnyddwyr ac yn caniatáu i bawb ohonom gael mynediad at sylfaen wybodaeth ynghylch anawsterau TG all godi, a’u datrys yn gyflym. Rwy'n gwybod bod llawer iawn o waith wedi'i wneud y tu ôl i'r llenni a hoffwn ddiolch i bawb sy'n gweithio'n galed bob dydd i gynnal seilwaith digidol y Cyngor.

Ymunodd Cyngor Bro Morgannwg â phobl ledled y byd i nodi Diwrnod Cofio'r Holocost yr wythnos hon. Yn gynharach yr wythnos hon, bûm yn ymweld ag arddangosfa yn yr Oriel Gelf Ganolog, gyda’r Cynghorydd Lis Burnett. Roeddwn yn falch iawn o ymuno â'r Arweinydd wrth ddarllen y Datganiad o Ymrwymiad sy'n addunedu i gofio erchyllterau'r holocost a'i ddioddefwyr ac i addysgu a brwydro yn erbyn gwahaniaethu.

Mae'r Cyngor wedi nodi'r diwrnod hwn bob blwyddyn ers 2007, gan anrhydeddu'r miliynau o ddioddefwyr yr Holocost a hil-laddiadau sydd wedi digwydd wedi hynny mewn gwledydd eraill. Yn 2023, mae Cyngor Bro Morgannwg yn nodi Diwrnod Cofio'r Holocost gyda nifer o ddigwyddiadau ac arddangosfeydd. Rydyn ni hefyd yn nodi’r dyddiad drwy oleuo Pafiliwn Pier Penarth a Neuadd y Dref y Barri yn borffor, yn ogystal â lleoliadau eraill, yn borffor tan Ddydd Llun 30 Ionawr.

Ers dechrau’r flwyddyn, mae llu o ddigwyddiadau staff a nifer o'n rhwydweithiau mewnol wedi dod at ei gilydd i gynllunio gweithgareddau ar gyfer 2023. Cynhaliodd Grŵp Cymorth Anabledd y Fro eu hail gyfarfod yr wythnos hon. Bwriad y grŵp yw darparu cymorth a gofod diogel i gydweithwyr yn yr un modd ag y mae grwpiau GLAM a Diverse yn ei wneud. Maen nhw’n agored i aelodau newydd ac os hoffech gael unrhyw wybodaeth, cysylltwch â Colin Davies.

Efallai eich bod wedi gweld yr erthygl ar Staffnet am y digwyddiad cyfnewid dillad sydd ar ddod. Bydd hyn yn digwydd ddydd Mercher nesaf, 1 Chwefror, yn Siambr y Cyngor yn y Swyddfeydd Dinesig rhwng 12-2pm. Gyda'r Argyfwng Costau Byw mewn golwg a phryderon ynghylch effaith amgylcheddol ffasiwn cyflym, mae Alison yn ein Tîm Cymunedau Cryf dros Ddysgu a Susannah McWilliam Rheolwr Rhaglen Prosiect Sero wedi trefnu'r digwyddiad er mwyn is staff allu ystyried cyfnewid dillad nad ydyn nhw bellach yn eu defnyddio yn lle prynu rhywbeth newydd. Bydd lluniaeth ar gael hefyd.
I unrhyw un sy'n ystyried lleihau ei effaith amgylcheddol mae cyfle o hyd i fanteisio ar y cynllun seiclo i'r gwaith sy'n cau ar 31 Ionawr. Hyd yn hyn mae dros £50,000 o feiciau ac offer wedi'u hawlio am bris gostyngol.
Yn olaf, hoffwn eich cyfeirio chi i gyd at neges ein Pennaeth Adnoddau Dynol Tracy Dickinson ar yr opsiynau sydd ar gael i gydweithwyr â phlant y bydd streic yr wythnos nesaf yn effeithio arnyn nhw. Fel bob amser, rydym wedi ceisio cael cydbwysedd rhwng rhoi mwy o hyblygrwydd i gydweithwyr, a chefnogi anghenion adrannau, ein hysgolion, ac wrth gwrs y rhai sy'n dibynnu ar ein gwasanaethau.
Fel pob amser, diolch i chi i gyd am eich ymdrechion yr wythnos hon. Diolch yn fawr.
Rob.